Datgloi gwerth ein gwybodaeth gyda gwyddoniaeth data

Read this blog in English

Beth yw gwyddoniaeth data?  Nid wyf yn credu bod ateb cyffredinol i beth yn union yw hyn – ond trwy ei ddefnyddio gallwn ddarparu gwybodaeth am bron pob math o wybodaeth.  Bu nifer o sefydliadau’r sector cyhoeddus yn datblygu eu gallu o ran gwyddoniaeth data, ac yn ôl ym mis Ebrill sefydlwyd yr uned ddata o fewn Llywodraeth Cymru.  Mae’r blog hwn yn gyflwyniad i’r uned. 

6 mis yn ôl dechreuodd yr uned gydag un person, fi.  Ers hynny rydym wedi bod yn creu ein tîm, ac mae gennym 5 person bellach, uned fach, ond mae ein gwaith eisoes yn creu effaith ac yn rhoi gwybodaeth.  Mae’r uned gwyddoniaeth data hefyd yn cefnogi nifer o brentisiaid gwyddoniaeth data mewn timau ar draws Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi bod yn helpu dadansoddwyr eraill i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau gwyddoniaeth data.   Rydym wedi bod yn penderfynu ar brosiectau i weithio arnynt a dechrau deall sut y gall gweithio gyda partneriaid elwa ar fanteision defnyddio data gwyddoniaeth yng Nghymru.  Bu’r Campws Gwyddoniaeth Data ONS i fyny’r ffordd yn ffynhonnell gwybodaeth gwych inni ac rydym yn ddiolchgar am eu cymorth i gyrraedd y pwynt hwn. 

Mae gan yr uned gwyddoniaeth data dair nod cyffredinol:

1. Cynnal ei waith gwyddoniaeth data ei hun

Dyma ble y bu inni dreulio y rhan fwyaf o’n hamser yn ystod y 6 mis diwethaf – yn cefnogi ymateb dadansoddi COVID-19 a phenderfynu ar brosiectau i fanteisio i’r eithaf ar werth yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru. 

Un o’r meysydd cyntaf y daethom yn rhan ohono oedd symudedd – deall sut y mae dinasyddion Cymru wedi newid eu patrymau teithio a symud mewn ymateb i’r pandemig a chyfyngiadau cloi llywodraethau.  Mae Apple, Facebook a Google wedi rhyddhau data di-enw ac mae’r wybodaeth a gawn o hyn wedi ei defnyddio i helu i lywio penderfyniadau o ran y pandemig.  Heddiw rydym yn rhyddhau ein cod ar GitHub i’r cyhoedd fel y gallwch weld beth sydd wedi ei gynhyrchu gennym. Gall y cod gredu adroddiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg. 

Rydym hefyd wedi dechrau ein prosiect mawr cyntaf, yn gweithio gyda gweithwyr eraill ym maes masnach a chaffael i helpu iddynt ddefnyddio yr ystod o ddata sydd ganddynt.  Er enghraifft, edrych ar batrymau gwariant o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru – gan gynnwys rhagweld, defnyddio data demograffig a dadansoddi cyfres amser.  Bydd hyn yn helpu inni ddeall gwariant y sector cyhoeddus yn well, sy’n debygol o arwain at arbedion.  Mae gan y prosiect y posibilrwydd hefyd o sicrhau manteision economaidd drwy ddehongli data gwariant yn well a data economaidd (megis cyflogaeth).

2. Cefnogi a gwella gallu gwyddoniaeth data yn well ar draws Llywodraeth Cymru

Ni ddylai’r uned gwyddoniaeth data fod yr unig ran o Lywodraeth Cymru sy’n cynnal ac yn defnyddio gwyddoniaeth data.  Rydym wedi cefnogi nifer o brosiectau eraill sydd wedi dechrau y tu allan i’r uned (fel ddadansoddi testun ein harolwg staff blynyddol).  Ar ddiwedd Hydref byddwn hefyd yn cynnal nifer o sesiynau blasu gwyddoniaeth data ar gyfer cydweithwyr dadansoddi.  Nod y sesiynau hynny yw uwchsgilio a gwella ein gallu dadansoddi ar draws y sefydliad.

3. Datblygu ‘partneriaeth gwyddoniaeth data Cymru’ 

Bydd yr uned hefyd yn datblygu ac yn sefydlu partneriaeth gwyddoniaeth data erbyn Mawrth 2021.  Bydd datblygu gweledigaeth glir o sut y dylem ddefnyddio gwyddoniaeth data er lles y cyhoedd; gweld cyfleoedd ar gyfer cyllido a buddsoddi; a symud tuag at y nod o fod yn wlad sy’n flaenllaw ym maes dadansoddi uwch yn helpu i roi Cymru ar y blaen o ran arloesi gyda data.   Yn y misoedd nesaf byddwn yn siarad gyda partneriaid o fewn y sector cyhoeddus, y byd academaidd, y trydydd sector ac yn ehangach i’n helpu i lunio y bartneriaeth.  Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r Campws Gwyddoniaeth Data a’r Ganolfan Gwasanaethau Digidol Cyhoeddus newydd i ystyried sut y gallwn gydweithio ar wella gallu ar draws y sector cyhoeddus. 

Ni fu’n hawdd i gyrraedd y pwynt hwn

Mae’r 6 mis cyntaf hwn wedi bod yn anodd iawn.  Mae gorfod sefydlu tîm newydd o bell, sefydlu ffyrdd newydd o weithio ac ymateb i gwestiynau brys ar ddadansoddi wedi bod yn heriol.  Rydym yn dechrau edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud, ac ac arddangos hynny, gan ddangos y gall gwyddoniaeth data ein helpu i ddeall ein data yn llawer gwell, gan ein galluogi i gefnogi penderfyniadau ymhellach o fewn Llywodraeth Cymru.   

Un o’n heriau mwyaf fu’r dulliau a’r dechnoleg sydd ar gael inni gan nad oes gan Lywodraeth Cymru ei phlatfform gwyddoniaeth data ei hun.  Rydym wedi bod yn defnyddio’r UK Secure Research Platform (UKSeRP) yn bennaf, ond mae hyn ar fin newid.  Yn y misoedd nesaf bydd gennym amgylchedd ddiogel fewnol y gallwn ei ddefnyddio ochr yn ochr â UKSeRP.  Bydd hwn yn gallu manteisio i’r eithaf ar ein data – gan helpu i ateb cwestiynau newydd a rhyddhau gwerth ein gwybodaeth. 

Dim ond dechrau taith taith wyddoniaeth Llywodraeth Cymru ar ddata yw y blog hwn.  Dros y misoedd nesaf byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar y gwaith yr ydym wedi ei wneud. 

Os ydych am gysylltu â ni, yn enwedig o ran partneriaethau gwyddoniaeth data yna cysylltwch â datascienceunit@gov.wales.

John Morris, pennaeth gwyddoniaeth data ac uned ymchwil data gweinyddu. 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s