Ar 28 Mai 2020, tynnodd Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru amcanestyniadau poblogaeth awdurdod lleol sy’n seiliedig ar 2018 ac amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2018 oddi ar gwefan Llywodraeth Cymru.
Roedd hyn yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn nodi eu bod wedi canfod gwall yn effeithio ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018.
Gwall amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol
Achoswyd y gwall yn yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol gan brosesu mudo rhwng Cymru a Lloegr yn anghywir, gan arwain at amcanestyniad poblogaeth canol-2028 oddeutu 65,000 yn rhy isel yng Nghymru, ac amcanestyniad poblogaeth oddeutu 65,000 yn rhy uchel yn Lloegr.
Cyhoeddodd yr ONS amcanestyniadau wedi eu cywiro ar gyfer Cymru ddydd Iau 11 Mehefin, ac yna’r tablau cryno ar 17 Mehefin a’r pyramidiau poblogaeth rhyngweithiol ar 23 Mehefin.
Amcanestyniadau diwygiedig awdurdodau lleol
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi y bydd amcanestyniadau poblogaeth ac amcanestyniadau aelwydydd awdurdod lleol wedi eu cywiro sy’n seiliedig ar 2018 yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth 4 Awst. Fodd bynnag, bydd yr amcanestyniadau hyn yn cael eu cyfrifo mewn ffordd wahanol i’r amcanestyniadau a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Chwefror eleni.
Newid yn y fethodoleg
Fel y nododd y Prif Ystadegydd yn ei ddiweddariad am yr amcanestyniadau yn gynharach eleni, gwnaed dau brif newid i’r dull o gyfrifo’r amcanestyniadau is-genedlaethol.
Cyfyngu ar y rhagamcanion
Roedd y newid cyntaf yn ymwneud â chyfyngu amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol.
Wrth gyfrifo’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol am y tro cyntaf gan ddefnyddio’r un fethodoleg ag ar gyfer yr amcanestyniadau blaenorol, canfuom eu bod yn dangos tuedd wahanol yn y tymor hir i’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol. Er bod yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018 wedi dangos gostyngiad yn y boblogaeth, roedd yr amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yn dangos cynnydd yn y boblogaeth. Felly, gwnaed y penderfyniad ar y pryd i gyfyngu’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol. Golygai hyn fod cyfanswm amcanestyniadau poblogaeth yr awdurdodau lleol yn cyfateb i’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol.
Amcanestyniadau heb eu cyfyngu
Gyda’n grŵp cynghori technegol (grŵp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru, WaSP), rydym wedi penderfynu dychwelyd at yr amcanestyniadau gwreiddiol oedd heb eu cyfyngu.
Gwnaed y penderfyniad i gyfyngu ar yr amcanestyniadau awdurdodau lleol oherwydd y camgymeriad yn yr amcanestyniadau cenedlaethol. Mae dychwelyd i gyfrifo’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol heb gyfyngu ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol wedi dangos eu bod bellach yn cyd-fynd â’r tueddiad cenedlaethol.
Erbyn hyn mae’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol wedi’u cywiro sy’n seiliedig ar 2018 yn dangos cynnydd parhaus yn yr amcanestyniad yn ystod 10 mlynedd cyntaf cyfnod yr amcanestyniad ar gyfer Cymru, yn ogystal ag ar gyfer y cyfnod amcanestyniad llawn 25 mlynedd. Mae hyn bellach yn debyg iawn, yn gyffredinol, i’r amcanestyniadau poblogaeth awdurdod lleol gwreiddiol.
Mae amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol Cymru wastad wedi bod yn seiliedig ar yr egwyddor o gael eu gyrru gan dueddiadau lleol mewn genedigaethau, marwolaethau a mudo fel eu bod o’r defnydd mwyaf ar gyfer cynllunio ar y lefel leol. Gyda hyn mewn golwg, a bod yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sydd wedi’u cywiro bellach yn dangos tuedd wahanol yn y tymor hir, rydym wedi penderfynu cael gwared ar y cyfyngu ar yr amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol. Bydd gwneud hyn hefyd yn sicrhau gwell parhad gydag amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol blaenorol, a bydd yn ein galluogi i ddilyn methodoleg debyg ar gyfer cyfrifo amcanestyniadau poblogaeth parciau cenedlaethol.
Fodd bynnag, mae’r ail newid i’r fethodoleg y cyfeiriwyd ato yn niweddariad y Prif Ystadegydd ynghylch mudo yn cael ei gadw. Mae hyn yn golygu y bydd mudo mewnol yn parhau i fod yn ddibynnol ar faint a strwythur oedran poblogaeth yr awdurdod lleol a gweddill y DU, yn hytrach nag wedi’i osod ar niferoedd sefydlog drwy gydol cyfnod yr amcanestyniad.
Hefyd, nid oes unrhyw newidiadau i’r fethodoleg a ddefnyddir i gyfrifo’r amcanestyniadau aelwydydd.
Y camau nesaf
Bydd amcanestyniadau awdurdodau lleol wedi’u cywiro yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Mawrth 4 Awst.
Byddwn wedyn yn troi ein sylw yn ôl at gyfrifo a chyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd parciau cenedlaethol. Byddwn hefyd yn parhau i archwilio amrywiolion mudo ychwanegol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ddarparu unrhyw adborth, anfonwch nhw at ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.
Martin Parry
Pennaeth Ystadegau’r Boblogaeth, y Cyfrifiad a’r Gymraeg