Diweddariad y Prif Ystadegydd: rhai myfyrdodau olaf fel Prif Ystadegydd

Read this page in English

Heddiw yw fy niwrnod olaf fel y Prif Ystadegydd ar ôl bron i ddeng mlynedd yn y swydd (gan ddibynnu ar sut rydych chi’n diffinio fy nyddiad dechrau, pethau pwysig i ni ym myd data wrth gwrs).

Mae hi wedi bod yn fraint o’r mwyaf imi fod yn y swydd hon ers cyhyd drwy gyfnodau eitha’ tyngedfennol yn hanes diweddar Cymru. Mae’n hanfodol bod ystadegau a gyhoeddir gan lywodraeth yn gywir, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy – er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud ac fel y gellir craffu’n effeithiol ar y llywodraeth. Fel y Prif Ystadegydd, rwyf wedi gwneud fy ngorau i sicrhau bod ystadegau sy’n cael eu llunio yng Nghymru yn cyrraedd y safonau uchel hynny. Rwyf wedi ceisio bod mor agored a thryloyw â phosibl, gan weithio’n agos gyda phobl sy’n defnyddio ein hystadegau a sicrhau bod pobl yn parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf – gan gynnwys drwy ddechrau’r blog hwn rai blynyddoedd yn ôl.

Mae hi hefyd wedi bod yn fraint arwain criw ardderchog o bobl ddeallus a brwdfrydig sydd bob amser yn barod i helpu. Mae pob un o’n timau bach o ystadegwyr yn gweithio’n ddiflino i daro cydbwysedd rhwng llawer iawn iawn o alwadau sy’n gwrthdaro â’i gilydd. Nid yn unig y mae angen iddyn nhw gadw at derfynau amser cyhoeddi bob un wythnos (wedi’r cwbl, os nad ydyn ni’n cadw at y terfynau amser hynny rhaid inni egluro pam yn gyhoeddus!), ond hefyd gasglu’r data, cefnogi swyddogion polisi ac ateb cannoedd o ymholiadau gan Weinidogion, y Senedd a’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn gyhoeddus iddyn nhw am eu holl ymdrechion a’u gwaith caled dros y blynyddoedd. Mae ein gwaith ni – boed yn llunio dangosyddion llesiant cenedlaethol, casglu arolwg masnach cyntaf Cymru neu gasglu llwyth o ddata yn flynyddol gan ysgolion, ffermydd a phobl – yn helpu i daflu goleuni ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru.

Mae COVID-19 wedi amlygu cryfderau arferion da o ran cyflwyno ystadegau

Nid yw data erioed wedi bod mor bwysig ac rydyn ni i gyd wedi gweld drwy gydol cyfnod y pandemig yr heriau sydd wedi codi yn sgil y galw am ddata gweithredol ar unwaith bron ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn y wlad. Mae hyn wedi atgyfnerthu pwysigrwydd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a gwerthoedd Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) o ran darparu data dibynadwy, yn dryloyw, gan egluro materion ynglŷn ag ansawdd y data yn glir. Sawl gwaith yn ystod y cyfnod hwn, mae Gweinidogion a swyddogion wedi gofyn imi am gyngor ar sut y gallwn ni sicrhau bod data ynglŷn â’r pandemig ar gael mewn modd awdurdodol a thryloyw – sy’n gydnabyddiaeth o gryfderau’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn GSS.

Mae’r timau wedi ymateb i’r her drwy weithio o bell ac yn ystwyth, gan ddysgu’n gyflym am setiau data newydd a oedd angen eu cyhoeddi mewn diwrnodau yn hytrach nag wythnosau neu fisoedd. O ganlyniad, rydyn ni wedi gwneud ein gorau i helpu i greu darlun o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru, a helpu’r rhai sy’n llunio’r data gweithredol wrth iddyn nhw eu defnyddio a’u cyhoeddi.

Mae’r pandemig hefyd wedi pwysleisio rhai o’r heriau ystadegol y bydd rhaid i’m holynwyr nawr fynd i’r afael â nhw – felly yng ngweddill y blog rwyf am fyfyrio ar rai o’r heriau hynny.

Mae mwy o angen nag erioed i’n data fod yn gynhwysol

Mae adroddiad y Grŵp Cynghorol BAME ar COVID-19 a’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol a gyhoeddwyd y llynedd wedi amlygu pwysigrwydd casglu a chyhoeddi data sy’n gwella ein dealltwriaeth o ganlyniadau grwpiau gwahanol yn y boblogaeth. Rydyn ni eisoes yn ceisio gwneud hyn – mae angen inni barhau â’r gwaith hwn fel rhan o’n hymateb ehangach i’r adolygiadau hynny. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ein bod yn casglu data cydraddoldeb o safon ble bynnag y bo modd ac ystyried sut y gallwn ni gysylltu setiau data â’i gilydd i ailddefnyddio data sydd eisoes gan y llywodraeth.

Ond ni all ystadegwyr wneud hyn ar eu pen eu hunain. Rydyn ni’n ddibynnol iawn ar ddata sy’n cael eu casglu drwy gysylltiad â gwasanaethau cyhoeddus felly bydd angen inni godi ansawdd data drwy’r system gyfan. Mae’n bwysig deall pam nad yw hyn bob amser yn digwydd. Beth yw’r rhwystrau sy’n ei gwneud yn anodd i wasanaethau cyhoeddus sicrhau bod ganddyn nhw ddata o safon? Beth allai atal dinasyddion – ac weithiau grwpiau penodol o ddinasyddion – rhag darparu eu data cydraddoldeb i wasanaethau cyhoeddus? Bydd angen inni weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus a grwpiau gwahanol yn y boblogaeth i gyfleu gwerth hirdymor casglu data cynhwysfawr. Mae’r wobr yn glir – gyda data gwell, byddwn ni’n deall cymaint mwy am brofiadau a chanlyniadau pob rhan o’n poblogaeth.

Dylai data ar ddinasyddion Cymru fod ar gael ar gyfer ymchwil ynglŷn â Chymru

Mae ein gwaith ar ddefnyddio data gweinyddol ar gyfer ymchwil yma yng Nghymru wedi bod ar flaen y gad ar lefel ehangach y DU. Drwy waith Prifysgol Abertawe ar fanc data SAIL a phartneriaeth Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, rydyn ni’n cysylltu data, yn ddiogel ac yn foesegol, o wahanol feysydd i ddeall canlyniadau ac effaith ymyriadau yn well. Er enghraifft, drwy gydol y pandemig rydyn ni wedi cynnal ymchwil i ddeall faint o blant sy’n byw mewn aelwydydd sy’n gwarchod eu hunain, a faint o athrawon sy’n gwarchod eu hunain. O ganlyniad i’n hymdrechion yn y maes hwn, rydyn ni wedi denu cyllid ymchwil sylweddol i Gymru.

Ond gallen ni wneud cymaint mwy. Rydyn ni’n gweithio gyda chydweithwyr ledled y DU i sicrhau y gall ymchwilwyr yng Nghymru gael gafael ar ddata ynglŷn â phobl Cymru, hyd yn oed pan nad yw’n faes sydd wedi’i ddatganoli. Felly, yn ogystal â deall canlyniadau iechyd ac addysg, gallwn ni ddefnyddio’r cyfoeth o ddata ar gymdeithas ac economi sydd gan adrannau’r DU i’n helpu i ddatblygu polisi. Rydyn ni wedi gweld cynnydd ar hyn yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf gydag ymrwymiadau cadarnhaol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r ffaith bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi darparu data Cyfrifiad 2011 i ymchwilwyr yng Nghymru i gefnogi ein hymateb i COVID-19.

Ond mae cael gafael ar ddata ar gyfer ymchwil yn dal i fod yn arafach nag y bydden ni ei eisiau, ac mae hyn wedi’i nodi mewn adolygiadau dros y blynyddoedd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Hoffwn annog pob adran i fanteisio ar y budd a ddaw yn sgil cael mynediad at ddata mewn modd diogel, cadarn a moesegol. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gyd i gynnal ymchwil o safon a fydd yn fanteisiol i Gymru a gweddill y DU.

Ble mae’r angen ymysg defnyddwyr ar gyfer data “Cymru a Lloegr”?

Mater arall sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil pandemig COVID-19 yw’r her hanesyddol o geisio annog y rhai sy’n llunio ystadegau, a’r cyfryngau, i gyflwyno data ynglŷn â Chymru ar wahân yn hytrach na’n rhan o “Gymru a Lloegr”. Mae yna resymau hanesyddol – er enghraifft, rhai swyddogaethau heb fod wedi’u datganoli neu’r ffordd y mae maes data wedi esblygu. Rwyf wedi pwyso’n gyson ar fy nghyd-ystadegwyr llywodraethol i sicrhau bod data ynglŷn â Chymru ar gael yn hwylus i ddefnyddwyr yng Nghymru ac, yn bwysicach, i adrodd y stori ynglŷn â Chymru ar wahân ac nid fel rhan o “Gymru a Lloegr”. Ni waeth a yw swyddogaeth wedi’i datganoli ai peidio, mae defnyddwyr yng Nghymru eisiau deall beth sy’n digwydd o ran cymdeithas, yr economi a throseddu a chyfiawnder yng Nghymru.

Hyd yn oed os yw’r data wedi’u claddu mewn taenlen rywle, os yw prif negeseuon adroddiad ystadegol yn sôn am “Gymru a Lloegr”, dyna beth fydd yn adroddiadau’r cyfryngau.

Mae ar Senedd Cymru, rhanddeiliaid a chymdeithas yn gyffredinol angen negeseuon clir gan ein hystadegwyr ynglŷn â beth sy’n digwydd yng Nghymru i graffu ar weithredoedd Gweinidogion, a deall pa ymyriadau y gellir eu cymryd. Mae angen i’n gwasanaethau cyhoeddus gynllunio ar sail tueddiadau yng Nghymru, nid ystadegyn “Cymru a Lloegr”.

Nid her i’n cyd-ystadegwyr yn unig yw hyn. Yn rhy aml, mae’r cyfryngau hefyd yn fodlon cyflwyno data “Cymru a Lloegr” hyd yn oed pan fo data ar gael yn hwylus wedi’u rhannu rhwng gwledydd unigol – mae’r ffordd y mae rhai yn y cyfryngau wedi cyflwyno data marwolaethau yn ystod yr argyfwng yn enghraifft dda o hyn.

Ac yn olaf

Er mai hwn yw fy mlog olaf fel y Prif Ystadegydd, gan y byddaf yn symud at fod yn Brif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru, nid dyma fydd y blog “Digidol a Data” olaf gennyf i, mae hynny’n sicr! Fel y Prif Swyddog Digidol, byddaf yn gwneud fy ngorau i fod yn agored ac yn dryloyw am y gwaith rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn manteisio ar dechnolegau digidol ac am y rôl y bydd y technolegau hyn yn ei chwarae o ran adfer o COVID-19. Byddwn i’n falch iawn o glywed unrhyw adborth ar ein gwaith ni, a beth ddylai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach fod.

Glyn Jones
Prif Ystadegydd

E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru