Mae Dr Richard Fry yn Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Yma, mae’n esbonio sut mae data geo-ofodol a mapio daearyddol yn cyfrannu at gynhyrchu gwaith ymchwil i lywio polisi yng Nghymru.
Mae Cymru’n wlad amrywiol o ran daearyddiaeth a chymdeithas, sy’n golygu bod y man lle’r ydym yn byw ac yn gweithio yn cyfrannu’n fawr at ein hiechyd a’n lles. Gan fod yr effaith ar iechyd a lles yn ganolog i bob penderfyniad am bolisi yng Nghymru, mae’n amlwg bod angen i ni, fel cenedl, ddeall mwy am sut a pham mae ein daearyddiaeth yn effeithio arnom yng Nghymru.
Rydym hefyd yn ffodus iawn bod y Banc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL), sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang, wedi’i leoli yng Nghymru – sy’n noddfa ar gyfer biliynau o gofnodion dienw personol yn ymwneud ag iechyd a chymdeithas yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r data hwn, pan gaiff ei gysylltu a’i fapio, yn gallu rhoi dealltwriaeth werthfawr ac eto dienw o sut mae pobl yn symud o gwmpas yng Nghymru a’r effaith y mae eu hamgylchoedd yn ei chael arnynt.
Trwy gydweithio, mae academyddion blaenllaw, dadansoddwyr data a gweision sifil yn manteisio ar y ddealltwriaeth hon yn rhan o’r ymagwedd ‘Cymru’n Un’, gan ymateb yn gyflym i gwestiynau am effaith COVID-19 ar boblogaeth Cymru. Mae’r ymagwedd hon yn dwyn ynghyd arbenigwyr sydd, gyda’i gilydd, yn pontio’r bwlch rhwng ymchwil a pholisi i wella iechyd a lles pobl Cymru.
Mae’r ymagwedd Cymru’n Un wedi dod â chydweithwyr o bob rhan o Gymru at ei gilydd, gan gynnwys canolfannau ymchwil sydd wedi’u lleoli yng ngrŵp Gwyddor Data Poblogaeth Prifysgol Abertawe, fel HDR UK, ADR Cymru, Banc Data SAIL, ADP, BREATHE, ynghyd â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, i greu un ymagwedd ystwyth at fynd i’r afael â dadansoddi data a chynhyrchu gwybodaeth yng Nghymru.
Pam mae daearyddiaeth yn bwysig?
Mae daearyddiaeth wrth wraidd y dadansoddiadau a’r cysylltiadau dienw a wneir yn ddiogel yn SAIL, p’un a yw hynny fel dull cysylltu data neu uned dadansoddi ystadegol. Mae cysylltu modelau o’r amgylcheddau adeiledig, naturiol a chymdeithasol â data iechyd dienw yn ein helpu i ddeall sut mae pobl yn symud o gwmpas yng Nghymru, sut mae’r mannau o’n hamgylch a’r lleoedd rydym yn teithio iddynt yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles a sut mae’r perthnasoedd hyn yn amrywio ledled Cymru.
Mae’r wybodaeth werthfawr hon yn ein helpu ni fel academyddion a gwyddonwyr data i fynd ati gyda’n cydweithwyr ‘Cymru’n Un’ i ddatblygu a gwerthuso polisïau newydd sy’n arwain y byd o ran eu huchelgais. Mae enghreifftiau o hyn yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 sy’n gosod iechyd, lles a thlodi yn ganolog i brosesau penderfynu pob corff cyhoeddus i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau gofodol sy’n bodoli yng Nghymru.
COVID-19 – pandemig byd-eang sy’n cael effaith leol
Mae daearyddiaeth wedi dod yn bwysicach fyth yn ystod y misoedd diwethaf wrth i ni ymdrechu i ddeall a delio â’r achosion COVID-19. Mae’r pentyrrau technoleg, a adwaenir fel y Platfform E-Ymchwil Diogel, a’r systemau cysylltu sydd wedi’u rhoi ar waith yn SAIL yn golygu bod Cymru’n arwain y ffordd o ran yr ymateb data cysylltiedig yn y Deyrnas Unedig.
Rydym wedi gallu ailbroffilio carfanau electronig presennol yn gyflym a chaffael setiau data newydd a’u cysylltu’n ddienw, yn aml gan ddefnyddio’r Rhif Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) fel maes cysylltu, i helpu llywodraethau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig â’u hymatebion i’r pandemig COVID-19.
Yn rhan o rwydwaith Ymchwil Data Iechyd y Deyrnas Unedig, mae Banc Data SAIL wedi cynnal fersiwn ddiogel gysylltiedig ac anghysylltiedig o ddata’r Ap ZOE, sydd wedi ein galluogi i gynhyrchu mapiau o fannau lle y rhagfynegir llawer o achosion ar lefel leol. Mae’r mapiau hyn wedi bwydo i grŵp cynghori Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i roi gwybodaeth am lefelau heintio lleol yn rhan o ymdrechion dadansoddi ehangach.
Bydd tîm Cymru’n Un yn parhau i gydweithio i amlygu bylchau mewn gwybodaeth a symleiddio ymdrechion i ddarparu gwybodaeth hollbwysig er mwyn helpu llunwyr polisi i ddeall COVID-19 a chynllunio mewn perthynas ag ef yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.
Felly sut rydym ni’n defnyddio data gofodol?
Ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi gallu defnyddio Cytundeb Mapio’r Sector Cyhoeddus i greu system cysylltu data ddienw soffistigedig ar lefel aelwyd yn y Banc Data SAIL yn seiliedig ar yr UPRN Unigryw a adwaenir fel y Maes Cyswllt Dienw Preswyl (RALF).
Mae creu RALF yn ein galluogi i gysylltu modelau GIS o’r amgylchedd adeiledig, data gweinyddol a chofnodion iechyd electronig yn ddienw. Mae’r system hon yn caniatáu i ni ddatblygu dadansoddiad cadarn, sy’n gwarchod preifatrwydd, i ateb amrywiaeth o wahanol gwestiynau ymchwil a pholisi.
Er enghraifft, mae gennym setiau data gofodol sy’n disgrifio mynediad at wasanaethau a chyfleusterau hamdden a faint o fannau gwyrdd sydd ar gael yn y gymdogaeth leol, a gwybodaeth benodol fel faint o alcohol a bwyd cyflym sydd ar gael o fewn 10 munud ar droed o gartref. Datblygwyd y modelau hyn yn seiliedig ar ddata gofodol a guradwyd o sefydliadau cenedlaethol fel Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol ledled Cymru neu gan ddefnyddio cynhyrchion yr Arolwg Ordnans fel MasterMap, a gyrchwyd o dan Gytundeb Mapio’r Sector Cyhoeddus (sef Cytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus bellach). Mae’r data cysylltiedig dienw yn ein helpu i ateb cwestiynau ymchwil am effaith mannau gwyrdd ar iechyd meddwl, effaith argaeledd alcohol ar iechyd y boblogaeth a rôl yr amgylchedd adeiledig mewn gordewdra ymhlith plant.
Un o fanteision pwysig eraill RALF yw’r gallu i roi pobl mewn grwpiau ar lefel aelwyd ar gyfer dadansoddiadau ystadegol heb fyth wybod pwy ydynt na ble maen nhw’n byw. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall sut mae cyflyrau iechyd acíwt a chronig yn effeithio ar bobl heblaw am y rhai hynny sy’n dioddef o’r salwch neu, er enghraifft, sut gall ansawdd tai effeithio ar sawl cenhedlaeth o deulu. Gellir cymhwyso’r egwyddor hon i fathau eraill o leoliadau preswyl hefyd, fel cartrefi gofal, lle y gallwn gasglu unigolion ynghyd mewn grŵp yn ddienw i ddeall effeithiau byw cymunedol neu ddigwyddiadau iechyd cyhoeddus byd-eang fel COVID-19.
Bydd agor agweddau ar ddaearyddiaeth y Deyrnas Unedig yn rhan o’r strategaeth Comisiynau Geo-ofodol yn helpu i hwyluso gwell cysylltiadau data ledled y Deyrnas Unedig, fel y dangosir gan y partneriaethau rhwng Banc Data SAIL, Llywodraeth Cymru a’r GIG yng Nghymru sydd wedi bod ar waith ers dros 10 mlynedd.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae GIS a dadansoddi data yn helpu i ateb cwestiynau yng Nghymru, gan gynnwys gwaith i ymateb i COVID-19 ac enghreifftiau o waith GIS, ewch i: https://popdatasci.swan.ac.uk/cy/
Blog gwadd gan Dr Richard Fry, Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe
Ymadawiad: Gan mai blog gwadd yw hwn, mae peth o’r cynnwys a gyfeirir ato gyda dolennau ar gael yn Seasneg yn unig.