Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) ei hamcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr heddiw. Yn ein crynodeb, mae’n dangos bod amcangyfrifon poblogaeth Cymru wedi gostwng ychydig rhwng 2024 a 2025, sef 0.1%, neu tua 2,800 o bobl.
Parhau i ddarllenArchif Awdur: Chief Statistican
Diweddariad y prif ystadegydd: newidiadau sydd ar ddod i ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd
Yn ein blog blaenorol ynghylch deall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd, fe wnaethom ddisgrifio newidiadau i’r ffordd y cofnodir difrifoldeb anafiadau gan heddluoedd ledled Prydain Fawr. Fe wnaethom hefyd ymrwymo i adolygu’r modd y mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar ein hystadegau.
Mae’r blog hwn yn darparu rhagor o wybodaeth am y newidiadau i’r dull o adrodd am ddifrifoldeb anafiadau, yr effeithiau disgwyliedig a’r addasiadau bydd eu hangen, a’n cynlluniau ar gyfer cyfleu’r newidiadau hyn i ddefnyddwyr.
Parhau i ddarllenBlog gwadd: Canlyniadau rhagarweiniol Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru (sylfaen newydd ar gyfer teithio yng Nghymru)
Neges yn cyflwyno Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru a’i ganlyniadau pennawd dechreuol gan Dîm Ystadegwyr, Trafnidiaeth Cymru.
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: mesur y farchnad lafur yng Nghymru
Rydym wedi cyhoeddi blog Prif Ystadegydd o’r blaen sy’n rhoi cyngor ar ansawdd yr ystadegau sy’n deillio o’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) ac un arall sy’n tynnu sylw at welliannau a gyflwynwyd i amcangyfrifon y farchnad lafur a’r effeithiau a gafodd y newidiadau hyn ar ddibynadwyedd ystadegau’r farchnad lafur yng Nghymru.
Heddiw, yn dilyn ymyriadau parhaus gan y SYG i wella ansawdd yr LFS, rydym yn trafod sut mae’r datblygiadau hyn wedi effeithio ar ystadegau’r farchnad lafur ar gyfer Cymru a’r dull rydym yn parhau i’w argymell er mwyn rhoi darlun cadarn ac amserol o farchnad lafur Cymru.
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg.
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: deall y newidiadau sydd ar ddod i ystadegau tlodi
Bob gwanwyn rydym yn cyhoeddi data ar bobl yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar ddata o Arolwg o Adnoddau Teulu yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yr arolwg hwn yw’r brif ffynhonnell ddata ar gyfer incwm aelwydydd a thlodi yn y DU.
Parhau i ddarllenChwe mis yn ddiweddarach: yr wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth data agored newydd StatsCymru
Rydym bellach yn agosáu at chwe mis ers inni lansio gwasanaeth data agored newydd StatsCymru, ac mae’n adeg dda i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd y gwasanaeth, y gwelliannau rydym wedi’u gwneud a’r hyn sy’n dod nesaf.
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: amcangyfrifon newydd o’r angen o ran tai ychwanegol yng Nghymru
[Nodyn: Wedi adolygu amcangyfrifon o’r angen ychwanegol am dai ar 05 Awst. Mae newidiadau i unrhyw ffigurau wedi’u marcio gyda (r).]
Mae deall yn glir beth yw maint yr angen o ran tai yng Nghymru yn hanfodol i lunio dyfodol ein cartrefi a’n cymunedau.
Parhau i ddarllenStatsCymru: ein misoedd cyntaf a beth sydd nesaf
Ar ddiwedd mis Medi, lansiwyd gwasanaeth newydd StatsCymru – carreg filltir fawr yn ein gwaith i wneud ystadegau Llywodraeth Cymru yn haws i’w cyrchu a’u defnyddio. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, roeddem am rannu rhannu diweddariad ar sut mae pethau’n mynd, beth rydym wedi’i ddysgu, a beth sy’n dod nesaf.
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: sicrhau ansawdd yn ystadegau amseroedd aros y GIG
Bob mis, rydym yn cyhoeddi ystadegau swyddogol ar weithgaredd a pherfformiad y GIG, gan gynnwys amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT). Mae’r rhain ymhlith y ffigurau sy’n cael eu gwylio’n fwyaf gofalus a gynhyrchir gennym, oherwydd eu bod yn helpu cleifion, clinigwyr a llunwyr polisïau i ddeall sut mae gwasanaethau’n perfformio ledled Cymru.
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd awdurdodau lleol newydd wedi’u cyhoeddi heddiw
Heddiw rydym wedi cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2022. Dyma’r set gyntaf o amcanestyniadau i ni gyhoeddi ers 2020.
Parhau i ddarllen