Mae’r Comisiwn Geo-ofodol yn bwyllgor arbenigol sy’n sefydlu strategaeth geo-ofodol y DU ac yn hyrwyddo’r defnydd orau o ddata geo-ofodol. Yn y blog gwadd yma mae’r Comisiwn Geo-ofodol yn cyflwyno eu Strategaeth Geo-Ofodol Cenedlaethol.
Mae’r blog hwn yn rhan o gyfnewid blog gyda Llywodraeth Cymru
Mae lleoliad yn elfen ddiffiniol o’r ffordd rydym yn byw, gweithio a chymdeithasu. Mae’n gallu cael effaith ar y gwasanaethau a mannau y mae gennym fynediad atynt, yr iaith a’r acen y siaradwn ynddynt, hyd yn oed ansawdd ein cysylltiad wi-fi. Mae deall y byd yn nhermau lleoliad, gan ddefnyddio data wedi eu seilio ar leoliad, yn hanfodol i weithrediad cymdeithas fodern. Mae hyn yn cael ei arddangos yn fwyaf trawiadol heddiw gan y rôl mae data lleoliad yn parhau i’w chwarae yn yr ymateb i’r pandemig coronafeirws a’r adferiad ar ei ôl. Ydy’r cwestiwn o ‘ble?’ erioed wedi bod yn fwy perthnasol?
Cafodd y Comisiwn Geo-ofodol ei sefydlu yn 2018 fel pwyllgor annibynnol, arbenigol yn gyfrifol am sefydlu strategaeth geo-ofodol y DU a chydlynu gweithgarwch geo-ofodol y sector cyhoeddus. Lansiodd y Comisiwn Geo-ofodol yn ddiweddar Datgloi pŵer lleoliad: Strategaeth Geo-ofodol y DU, sydd ar gael yn awr yn Saesneg a Chymraeg.
Beth mae’r Strategaeth yn ei ddweud?
Mae’r Strategaeth yn amlinellu gweledigaeth i ddatgloi gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol arwyddocaol data lleoliad. Mae’n adnabod naw prif gyfle ynghylch data lleoliad, o seilwaith i gefnforoedd, ac yn amlinellu rhaglen uchelgeisiol o weithgarwch, ar draws pedwar prif gorchwyl i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn. Y gorchwylion yw:
- Hyrwyddo a diogelu’r defnydd o ddata lleoliad i ddarparu golwg ar sail tystiolaeth o werth marchnad data lleoliad, gosod canllawiau clir ar fynediad at ddata, preifatrwydd, moeseg a diogelwch, a hyrwyddo gwell defnydd o ddata lleoliad.
- Gwella mynediad at ddata lleoliad gwell i symleiddio, profi a graddio datblygiad data lleoliad newydd a phresennol gan sicrhau eu bod yn ganfyddadwy, hygyrch, rhyngweithredol, ailddefnyddiadwy ac o ansawdd uchel.
- Gwella sgiliau, galluoedd ac ymwybyddiaeth i ddatblygu rhagor o bobl â’r sgiliau a theclynnau cywir i weithio gyda data lleoliad – ar draws sefydliadau a sectorau – i ateb anghenion y DU i’r dyfodol a chynorthwyo datblygiad byd-eang.
- Galluogi arloesi i uchafu’r cyfleoedd masnachol i arloesi a hyrwyddo mabwysiadu technolegau lleoliad gwerth uchel sy’n codi ledled y farchnad.
Felly, ble nesaf?
Mae’r Comisiwn Geo-ofodol yn anelu at gynorthwyo’r gymuned geo-ofodol amrywiol sy’n tyfu yn y DU, sy’n rhychwantu llawer o sectorau a diwydiannau gwahanol. Trwy ei bedwar gorchwyl, bydd y Comisiwn yn parhau i adnabod ble mae’r cyfleoedd mwyaf yn sefyll ac yn cynorthwyo’r rheiny ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i gael y mynediad at ddata, sgiliau a chymorth sydd eu hangen i’w gwireddu.
Mae prif gamau nesaf, wedi eu llywio gan yr astudiaeth farchnad data geo-ofodol, yn cynnwys cyhoeddi cyfarwyddyd ar fesur gwerth data lleoliad, ac ar oblygiadau moesegol, preifatrwydd a diogelwch defnydd data lleoliad. Nod y gwaith hwn yw galluogi unigolion, busnesau a’r sector cyhoeddus i ddefnyddio data lleoliad a’u holl wasanaethau perthynol – o fapiau hamdden i apiau danfon – yn hyderus yn y wybodaeth fod y data lleoliad yn ddibynadwy a bod preifatrwydd yn dal i gael ei ddiogelu.
Mae cael mynediad at werth llawn data yn gofyn i’r data eu hunain fod yn hygyrch, o ansawdd priodol, a’r gallu i’w hintegreiddio’n hawdd â data a gwybodaeth eraill. Os ydych chi’n defnyddio ap i fesur faint o draffig sydd ar y draffordd, rydych chi’n dibynnu ar y ffaith bod y data’n gywir – eu bod yn canolbwyntio ar y ffordd gywir, ac nad ydynt yn dangos traffig o dair awr yn gynharach! Mae gan y Comisiwn raglen o weithgarwch, yn treialu a hyrwyddo ffyrdd o wella mynediad at a defnydd o ddata lleoliad sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae potensial i gael effeithiau cadarnhaol eang, o’i gwneud hi’n haws i brynu a gwerthu cartrefi i ostwng hyd yr amser mae’r gweithiau ffordd hynny’n aros ar eich stryd.
Wrth i’r byd ddod yn fwy rhyng-gysylltiedig, bydd data geo-ofodol yn dod yn gynyddol bwysig i fusnesau a sefydliadau. Mae datgloi gwerth data lleoliad yn gofyn am bobl â’r sgiliau cywir, yn y man cywir a chyda’r teclynnau cywirBydd y Comisiwn yn cynhyrchu astudiaeth galw am sgiliau ac yn cynnull fforwm sgiliau geo-ofodol, gan ddod â phrif leisiau ar draws diwydiant, cyrff proffesiynol a sefydliadau academaidd ynghyd i gyd-drefnu ymatebion i heriau sgiliau geo-ofodol penodol. Bydd hyn yn y pen draw yn helpu i greu’r entrepreneuriaid ac arweinyddion geo-ofodol y dyfodol, gan sicrhau bod y DU yn parhau i arwain y byd yn ei harbenigedd geo-ofodol.
I’r rheiny â syniadau mawr yn seiliedig ar ddata lleoliad, neu broblemau mawr sy’n gofyn am ddatrysiadau seiliedig ar leoliad, mae’r Comisiwn yn sefydlu rhaglen arloesi data lleoliad, ac yn archwilio sut y gallai model integreiddiwr rhwydwaith geo-ofodol annog cydweithio ac arloesi ar draws sectorau. Mae arloesi data yn hanfodol i dwf economaidd cynaliadwy ledled cenhedloedd a rhanbarthau’r DU.
Y cyfle geo-ofodol Cymreig
Trwy gydol datblygu’r Strategaeth Geo-ofodol Cenedlaethol, mae’r Comisiwn Geo-ofodol wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, i lywio a theilwra’r ddogfen i sicrhau ei pherthnasedd i ac adlewyrchiad o ddiwydiant ac arbenigedd geo-ofodol Cymreig.
Mae Cymru yn ganolbwynt i gynhyrchiant a defnydd arloesol o ddata lleoliad eisoes. I wneud mynediad at setiau data allweddol yn syml a hawdd, mae Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cydweithio i lansio porth Cymreig ar gyfer data lleoliad y sector cyhoeddus: Lle. Pan ddaw at gymwysiadau arloesol o ddata lleoliad, mae Cymru eto yn aros ar y blaen. Mae enghreifftiau’n cynnwys datblygiad Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru o system olrhain fyw i’w ymladdwyr tân (gweler tudalen 28 o’r Strategaeth), a defnydd Llywodraeth Cymru o gyfeirio data i gyd-drefnu ei hymdrech ymateb i goronafeirws (gweler tudalen 57 o’r Strategaeth).
Rydym yn credu mai data lleoliad fydd y cysylltiad uno rhwng pethau, systemau, pobl a’r amgylchedd. Sut wnewch chi ddatgloi pŵer lleoliad?
Blog gwadd gan Ellen Bentley, Comisiwn Geo-Ofodol
Ymadawiad: Gan mai blog gwadd yw hwn, mae peth o’r cynnwys a gyfeirir ato gyda dolennau ar gael yn Seasneg yn unig.