Myfyrio ar flwyddyn, ychydig yn wahanol, ar leoliad yn Llywodraeth Cymru

Read this page in English

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn recriwtio amryw o fyfyrwyr prifysgol i wneud lleoliad blwyddyn o hyd fel rhan o’u gradd.

Mae’r Is-adran Gwasanaethau Ystadegol yn derbyn 3 myfyriwr fel arfer, ac mae myfyrwyr eleni – Dylan, Niamh ac Yasmin – wedi ysgrifennu rhai myfyrdodau ar eu profiadau wrth i’w lleoliadau dynnu at eu terfyn. Maen nhw’n cynnwys blas ar eu rolau unigol, ynghyd â rhai prosiectau cydweithredol y maen nhw wedi gweithio arnyn nhw. Newidiodd eu lleoliadau mewn swyddfeydd dros nos ym mis Mawrth i fod yn brofiadau rhithiol, ond mae eu mewnbwn, eu brwdfrydedd a’u gwaith tîm parhaus drwy’r cyfnod hwn wedi dangos y gall lleoliadau myfyrwyr, er eu bod yn wahanol, barhau i weithio yn yr amgylchedd gwaith newydd hwn.

myfyrwyr-lleoliad-ystadegau

Niamh, Dylan ac Yasmin gweithio’n rhithiol

Dylan

Dwi wedi treulio fy lleoliad yn gweithio gyda’r tîm Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r tîm Addysg Ôl-16, a dwi wedi dod yn bell ers cychwyn yn y rôl ym mis Gorffennaf y llynedd, gan nad oeddwn i wedi bod mewn swydd lawn amser o’r blaen.

Dwi wedi ennill sgiliau newydd mewn trin data a rhaglennu ystadegol gan fy mod i wedi cael cyfle i ddysgu’r pethau hyn wrth weithio. Mae gweithio yma wedi meithrin fy hyder o ran defnyddio fy menter fy hun ac awgrymu ffyrdd newydd o wneud pethau gan fy mod i wedi bod yn ymgysylltu â’m timau ac yn ymwneud â phrosesau penderfynu.

Mae gwneud gwaith ystyrlon yn rhoi boddhad mawr i mi hefyd; dwi wedi cyflawni rôl bwysig yn paratoi amryw o ddatganiadau ar wahanol bynciau yn amrywio o feddygfeydd teulu i ganlyniadau addysg yn y gwaith, yn cynhyrchu adroddiadau rheolaidd ar alwadau i Galw Iechyd Cymru ac, yn fwy diweddar, dwi wedi gwneud gwahanol ddarnau o waith yn ymwneud â sefyllfa COVID-19. Ar y cyfan, mae wedi bod yn brofiad dysgu gwerthfawr!

Niamh

Mae fy lleoliad wedi bod yn Nhîm Data’r Gweithlu Ysgolion. Gydol y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi cael cyfleoedd i weithio ar wahanol brosiectau. Mae hyn yn cynnwys casglu fy nata fy hun ar gyfer datganiad bach, creu modelau senario ar gyfer cydweithwyr polisi a datblygu cyhoeddiad ein cyfrifiad newydd. Roeddwn yn gyfarwydd â dulliau ystadegol ac ieithoedd rhaglennu o astudiaethau blaenorol, ond mae fy lleoliad wedi caniatáu i mi gymhwyso’r sgiliau hyn mewn lleoliad go iawn.

Mae fy nhîm yn rhan o’r isadran Polisi Addysg, ac felly mae ar wahân i’r isadran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi lle mae’r rhan fwyaf o ystadegwyr yn gweithio. Roedd hwn yn gyfle i mi weithio’n agosach gyda chydweithwyr polisi, ac roedd yn brofiad unigryw a ddatblygodd fy nealltwriaeth o sut mae fy ngwaith yn cyfrannu at allbwn cyffredinol Llywodraeth Cymru.

Er na threuliais lawer o amser yn y swyddfa, dwi wedi mwynhau fy amser yn Llywodraeth Cymru yn fawr, a dwi’n hynod ddiolchgar am y cymorth a’r arweiniad a gefais gan fy nhîm. Dwi’n  edrych ymlaen hefyd at barhau â’m gyrfa ym myd ystadegau ar ôl graddio!

Yasmin

Dwi wedi treulio fy mlwyddyn yn gweithio fel rhan o’r tîm Ystadegau Cyfiawnder Cymdeithasol, gan weithio’n benodol ar ddatganiadau sy’n ymwneud â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD), Cyfrif Carafannau Sipsiwn a Theithwyr ac ystadegau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Wrth edrych yn ôl, dwi’n teimlo fy mod i wedi setlo i mewn i’m rôl yn gyflym iawn; mae’r tîm ei hun yn eithaf bach, felly roedd hi’n hawdd dod i adnabod pob aelod a gwybod beth oedd eu rolau. Roedd pawb yn groesawgar iawn, o fewn fy nhîm ac yn yr adran Ystadegau yn gyffredinol, a gwnaeth hynny’r pontio i fywyd gwaith yn llawer llai brawychus nag oeddwn i’n ei ddisgwyl!

Mae fy ngwaith eleni wedi rhoi cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau dadansoddi gan ddefnyddio Excel ac Access, a hefyd wedi fy nghyflwyno i feddalwedd ystadegol fel SAS. Un o’r uchafbwyntiau oedd datblygu dadansoddiad newydd o feysydd o amddifadedd dwfn fel rhan o ddatganiad 2019 WIMD. O’r dadansoddiad cychwynnol i ganfod y ffordd orau o becynnu’r data sydd i’w ryddhau i ddefnyddwyr, dwi wedi cael cipolwg ar bron pob agwedd ar gynhyrchu datganiad ystadegol, ac mae hyn wedi rhoi mwy o werthfawrogiad i mi o werth Ystadegau Swyddogol.

Rhan arall o’m rôl y gwnes i ei mwynhau yn fawr yw gweld sut mae defnyddwyr yn ymgysylltu â’r ystadegau a’r canllawiau a gyhoeddwn, drwy fynychu cyfarfodydd grwpiau defnyddwyr a monitro ymatebion mewn erthyglau newyddion a negeseuon cyfryngau cymdeithasol.

 Cyd-fentrau

Yn ogystal â’n rolau unigol, rydym hefyd wedi cael cyfleoedd i gydweithio ar brosiectau eraill yn ystod y flwyddyn. Un o’r rhain oedd trefnu cinio Nadolig blynyddol y tîm Ystadegau, ac mae’n deg dweud bod y tri ohonom wedi dysgu llawer am archebu prydau Nadolig a threfnu cwis! Rydyn ni’n credu(/gobeithio!) bod pawb yn cytuno ei fod wedi bod yn llwyddiannus, ac roedd yn brofiad gwerthfawr yn bendant.

Ddiwedd y llynedd, sefydlodd Niamh ac Yasmin gangen newydd o Rwydwaith Myfyrwyr y Llywodraeth ar gyfer myfyrwyr ar leoliadau yng Nghymru a De-orllewin Lloegr.

Rhwydwaith Myfyrwyr y Llywodraeth (GSN) Cymru a De-orllewin Lloegr

Yn fuan ar ôl cychwyn ar ein rolau, teimlem y byddai myfyrwyr ar leoliad yng Nghymru a De-orllewin Lloegr yn elwa ar gael rhwydwaith penodol o gyfoedion i gefnogi ei gilydd a chreu cyfleoedd i ddysgu mwy am weithio yn y Gwasanaeth Sifil.

Ar ôl trafod y syniad hwn gyda phwyllgor GSN Llundain, crëwyd pwyllgor newydd gyda myfyriwr arall o Lywodraeth Cymru a thri o fyfyrwyr o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a dechreuwyd cynllunio Rhwydwaith Myfyrwyr newydd y Llywodraeth ar gyfer Cymru a De-orllewin Lloegr. O fis Rhagfyr, dechreuwyd recriwtio myfyrwyr o adrannau ar draws y rhanbarth ac, yn y pen draw, roedd dros 40 o fyfyrwyr wedi cofrestru!

Fel rhan o’r rhwydwaith, aethom ati i lunio cylchlythyrau misol, cynnal digwyddiadau cipolwg, sefydlu cynllun cysgodi (a oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Mawrth ond a gafodd ei ganslo yn anffodus oherwydd COVID-19) a chynnal digwyddiadau cymdeithasol. Unwaith y daeth hi’n amlwg na allem barhau i gynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb, aethom ati i addasu ein cynlluniau i ganiatáu i’r rhwydwaith barhau’n rhithiol. Roedd hyn yn cynnwys anfon ‘Cyfweliadau Cipolwg’ ysgrifenedig yn lle’r sgyrsiau y byddem wedi’u cynnal, a chynnal Wythnos Cipolwg rithiol – gan drefnu 6 sgwrs gan wahanol adrannau i gael eu cynnal dros gyfnod o wythnos ar ddiwedd mis Mehefin.

Er nad yw ein blwyddyn yn dod i ben yn unol â’n disgwyliadau gwreiddiol, mae’r tri ohonon ni’n ddiolchgar iawn am y cyfle i dreulio ein blwyddyn ar leoliad yn Llywodraeth Cymru ac rydym wedi ennill cyfoeth o brofiad a fydd yn ein cynorthwyo yn ein blwyddyn olaf yn y brifysgol a’n gyrfaoedd yn y dyfodol. Hoffem ddiolch i bawb yn ein timau ac yn yr isadran Ystadegau am wneud i ni deimlo mor gartrefol a’n cefnogi ni gydol y flwyddyn.