Datgloi gwerth ein gwybodaeth gyda gwyddoniaeth data

Read this blog in English

Beth yw gwyddoniaeth data?  Nid wyf yn credu bod ateb cyffredinol i beth yn union yw hyn – ond trwy ei ddefnyddio gallwn ddarparu gwybodaeth am bron pob math o wybodaeth.  Bu nifer o sefydliadau’r sector cyhoeddus yn datblygu eu gallu o ran gwyddoniaeth data, ac yn ôl ym mis Ebrill sefydlwyd yr uned ddata o fewn Llywodraeth Cymru.  Mae’r blog hwn yn gyflwyniad i’r uned. 

Parhau i ddarllen

Blog Gwadd: Defnyddio data geo-ofodol i danategu ymchwil a penderfyniadau polisi yng Nghymru

Read this page in English

Mae Dr Richard Fry yn Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Yma, mae’n esbonio sut mae data geo-ofodol a mapio daearyddol yn cyfrannu at gynhyrchu gwaith ymchwil i lywio polisi yng Nghymru.

swansea_singelton_campusMae Cymru’n wlad amrywiol o ran daearyddiaeth a chymdeithas, sy’n golygu bod y man lle’r ydym yn byw ac yn gweithio yn cyfrannu’n fawr at ein hiechyd a’n lles. Gan fod yr effaith ar iechyd a lles yn ganolog i bob penderfyniad am bolisi yng Nghymru, mae’n amlwg bod angen i ni, fel cenedl, ddeall mwy am sut a pham mae ein daearyddiaeth yn effeithio arnom yng Nghymru. Parhau i ddarllen

Blog Gwadd: Cyflwyno Datgloi pŵer lleoliad: Strategaeth Geo-ofodol y DU

Read this page in English

Mae’r Comisiwn Geo-ofodol yn bwyllgor arbenigol sy’n sefydlu strategaeth geo-ofodol y DU ac yn hyrwyddo’r defnydd orau o ddata geo-ofodol.  Yn y blog gwadd yma mae’r Comisiwn Geo-ofodol yn cyflwyno eu Strategaeth Geo-Ofodol Cenedlaethol.

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfnewid blog gyda Llywodraeth Cymru

geospatial imageMae lleoliad yn elfen ddiffiniol o’r ffordd rydym yn byw, gweithio a chymdeithasu. Mae’n gallu cael effaith ar y gwasanaethau a mannau y mae gennym fynediad atynt, yr iaith a’r acen y siaradwn ynddynt, hyd yn oed ansawdd ein cysylltiad wi-fi. Mae deall y byd yn nhermau lleoliad, gan ddefnyddio data wedi eu seilio ar leoliad, yn hanfodol i weithrediad cymdeithas fodern. Mae hyn yn cael ei arddangos yn fwyaf trawiadol heddiw gan y rôl mae data lleoliad yn parhau i’w chwarae yn yr ymateb i’r pandemig coronafeirws a’r adferiad ar ei ôl. Ydy’r cwestiwn o ‘ble?’ erioed wedi bod yn fwy perthnasol? Parhau i ddarllen

Sylwadau cychwynnol prentis ym maes ymchwil ar ddefnyddwyr

Read this page in English

Trwy gydol fy nyddiau ysgol roeddwn yn cymryd diléit mewn cynllunio a helpu i greu pethau newydd i eraill (fy hoff wers oedd Tecstilau). Dwi ddim yn awgrymu bod creu ffrog yr un peth â gweithredu polisi, ond maent yn galw am angenrheidiau tebyg. Ymhlith y rhain mae defnyddiwr hapus (gobeithio), cynnyrch terfynol, a’r ymdeimlad yna o lwyddiant!  Fel mae’n digwydd, drwy ddarganfod yr hyn yr oedd pobl ei angen, a thrwy ymaddasu i’w hanghenion, roeddwn mewn gwirionedd yn gwneud rhywbeth a elwir yn ymchwil ar ddefnyddwyr.

Parhau i ddarllen

Diweddariad y Prif Ystadegydd: sut mae marwolaethau COVID-19 yng Nghymru yn cymharu gyda gweddill y DU, a pa mor wahanol yw o fewn Cymru?

Read this page in English

Ddydd Gwener cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ddwy erthygl arall ar farwolaethau cysylltiedig â COVID-19, gan ehangu ymhellach y gyfres o ddadansoddiadau critigol y mae wedi bod yn eu cyhoeddi i’n helpu ni i gyd i ddeall natur ac effaith y pandemig hwn yn well.

Parhau i ddarllen