Y Diweddaraf am Ddatblygu
Mae peth amser wedi bod ers inni eich diweddaru am ddatblygiad MapDataCymru (Lle gynt), felly yn dilyn neges Sean Williams ym mis Mai y llynedd, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd.
Cyn imi drafod hynny, byddai’n well, mae’n debyg, imi fy nghyflwyno fy hun. Fy enw i yw Kevin. Ymunais â Llywodraeth Cymru ym mis Medi a fy rôl i yw rheoli map trywydd MapDataCymru yn y dyfodol. Rwyf ar secondiad am ddwy flynedd o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac yn falch fy mod wedi cael cyfle i siapio MapDataCymru a’i wneud yn adnodd y gall Cymru fod yn falch ohono. Rwyf hefyd yn credu mai hwn yw’r adnodd cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig.
Rwyf wedi gweithio ym maes Llywodraeth Leol ers dros 37 o flynyddoedd, ac mae fy mhortffolio yn cynnwys technolegau geo-ofodol, deunyddiau ffynhonnell agored, datblygu meddalwedd a gwasanaethau digidol. Rwy’n credu fy mod yn cynnig dealltwriaeth o’r materion a’r problemau sy’n wynebu’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru, y gellir eu datrys gyda MapDataCymru. (Ond dyna ddigon amdanaf i!…..)
I’ch atgoffa beth yw MapDataCymru a beth mae’n ei wneud:
Yn fras, ein gweledigaeth yw creu un ffynhonnell ddata geo-ofodol a phlatfform prosesu ar gyfer holl ddata geo-ofodol sector cyhoeddus Cymru. Y nod yw creu platfform data cyffredin i gyrff cyhoeddus allu cyhoeddi eu data, er mwyn i bawb gael mynediad at y data sydd eu hangen arnynt.
Felly, ble rydyn ni wedi bod?
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod ein byd wedi newid dros y misoedd diwethaf. Ar adeg cyhoeddi ein blog diwethaf, roedd y tîm datblygu yn gwneud cynnydd da a chyflwynwyd y fersiwn alffa ddechrau’r flwyddyn. Ond newidiodd blaenoriaethau, newidiodd timau, newidiodd ein lleoliad gwaith, newidiodd popeth. Roedd rhaid i’r tîm geisio cynnal momentwm y gwaith datblygu, ond roedd rhaid goresgyn heriau hefyd. Nid oedd aelodau’r tîm bellach yn gweithio gyda’i gilydd yn yr un lle, ond roedd dal rhaid iddynt geisio bodloni amserlenni’r prosiect. Roedd timau newydd i’w cael hefyd, gyda rhai aelodau nad ydyn nhw erioed wedi cwrdd wyneb yn wyneb!
Yn ffodus, fel tîm, rydym wedi dangos agwedd hyblyg tuag at ddatblygu MapDataCymru ac roeddem, felly, mewn sefyllfa dda i ymateb i COVID-19. Yn amlwg, nid oeddem erioed wedi cynllunio ar gyfer ymateb i bandemig. Ond roedd modd addasu’r gwaith yn gyflym i gynhyrchu gwybodaeth am COVID-19 i gefnogi’r rhai sydd mewn mwyaf o angen.

Felly, drwy weithio gyda’n partner cyflawni allanol, roedd modd inni gynnwys dros 600 o setiau data a sicrhau eu bod ar gael i dros 150 o ddefnyddwyr – roedd MapDataCymru yn barod i’w ddefnyddio. Roedd y system yn cefnogi amrywiaeth lawn o wasanaethau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, y Gwasanaethau Brys, Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Beth arall rydyn ni’n ei wneud?
Nid yw ein holl waith yn ymwneud ag ymateb i COVID-19. Rydym yn bwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu MapDataCymru i gefnogi meysydd eraill. Y dasg gyntaf yw datblygu ap MapDataCymru yn arbennig ar gyfer Teithio Llesol.
Bwriedir ei ddefnyddio mewn amrywiol ffyrdd eraill cyn bo hir, ar draws sawl disgyblaeth a gweithgaredd, yn amrywio o gefnogi pobl sy’n agored i niwed, cynllunio, ynni, pysgodfeydd, trafnidiaeth i enwi rhai yn unig.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda chyrff y Sector Cyhoeddus i brofi ein fersiwn alffa, ac mae mynediad ar gais drwy anfon e-bost i data@llyw.cymru.
I’r cyhoedd, byddwn yn rhyddhau fersiwn beta ym mis Ionawr, bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn y diweddariad blog nesaf.
Gyda nifer o ddatblygiadau cyffrous a heriol ar y gorwel, cadwch olwg am y bennod nesaf yn hanes MapDataCymru!
Kevin Williams – Rheolwr Cynnyrch MapDataCymru