
Yr wythnos hon mae hi’n Wythnos Arweinwyr Digidol. Dyma adeg addas felly i ysgrifennu fy mlog cyntaf fel Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru wedi imi ddechrau yn y swydd ym mis Gorffennaf (nid y “100 diwrnod cyntaf” enwog y mae gwleidyddion yn cyfeirio ato, ond ddim yn bell chwaith). Mae’r misoedd cyntaf wedi bod fel corwynt wrth imi ddysgu beth sy’n digwydd ar draws y sefydliad ac yn allanol, gan geisio datblygu darnau allweddol o waith sy’n bwysig i ni o ran ymateb i’r pandemig a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Fel mewn llawer o weithleoedd eraill, rydym wedi bod yn gweithio gartref yn bennaf ers mis Mawrth, wrth gwrs. Mae manteision aruthrol i hyn, y manylwyd arnynt dros y misoedd diwethaf, ond mae dechrau mewn swydd newydd yn y cyfnod hwn a methu dod i gysylltiad wyneb yn wyneb gyda fy nhimau newydd yn brofiad gwahanol iawn!
Fel Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru mae fy mhrif gyfrifoldebau’n ymwneud â thrawsnewidiad digidol yn y modd yr ydym yn gweithio yn fewnol ac yn allanol, a rheoli ein gwasanaethau TGCh mewnol. Ond mae gennyf gyfrifoldeb hefyd i gefnogi Strategaeth Ddigidol y Gweinidogion a gweithio ar draws ffiniau i sicrhau ein bod yn datblygu diwylliant digidol, cydgysylltiedig ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Hoffwn sôn ychydig am y ddwy elfen hon o’m swydd.
Datblygu ein huchelgais ddigidol ar gyfer Cymru

Mae’n deg dweud mai dyma rwyf wedi bod yn canolbwyntio arno yn bennaf dros y misoedd diwethaf. Drwy ein gwaith ar fersiwn ddrafft y Strategaeth Ddigidol rydym yn bwriadu sefydlu ein huchelgeisiau a’n cenhadaeth ar gyfer Cymru (gweler ffigur 1) a sut yr ydym eisiau cydweithio ar draws sectorau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn seiliedig ar y dulliau digidol gorau o ran cynllunio gwasanaethau. Bydd y strategaeth hefyd yn tynnu sylw at ein huchelgeisiau o ran cynhwysiant digidol, data, seiber a’r economi. Rydym wedi bod yn datblygu’r strategaeth drwy drafod a rhannu gyda rhai o’n grwpiau rhanddeiliaid digidol. Roedd y drafodaeth Deialog Digidol a gynhaliwyd gan TechUK yn gynharach yn y mis yn werthfawr iawn i gyfrannu at y broses hon (ac roeddwn wrth fy modd gyda’r meddalwedd papur post-it rhithwir y gwnaethant ei defnyddio!). Er y bydd yn cael yn ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, rydym eisiau iddi fod yn ddechrau sgwrs a byddwn yn ei diweddaru’n rheolaidd wrth i’r hinsawdd newid.
Rhan allweddol o’r gwaith o weddnewid yw ymwreiddio diwylliant digidol ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau ‘ecosystem’ ddigidol ac agwedd cydgysylltiedig sy’n hyrwyddo cydweithio a safonau gan bawb. Ym mis Mehefin gwnaethom lansio’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ar ffurf alffa i ddechrau ar y gwaith o wella galluedd, gosod safonau a gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i ddatrys problemau penodol. Yn ddiweddar maent wedi lansio eu set gyntaf o safonau digidol drafft ac yn fuan bydd tua 100 o swyddogion llywodraeth leol wedi’u hyfforddi. Maent hefyd wedi bod yn gweithio gyda thri awdurdod lleol gyda sgwad arbenigol sydd ar fin cwblhau’r gwaith darganfod gan edrych ar sut y gallwn wella’r ffordd y mae defnyddwyr yn rhyngweithio gyda gofal cymdeithasol.
Ar 2 Tachwedd, bydd y Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol cyntaf, Sam Hall, yn dechrau yn ei swydd. Bydd Sam a minnau, a’r Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd, sydd heb ei benodi eto, yn cydweithio’n agos i ddatblygu a bod yn “gyd-berchnogion” o’r strategaeth ddigidol a chyflawni ein huchelgeisiau. Er enghraifft, sut gallwn sicrhau ein bod yn gweithio yn unol â safonau dylunio sy’n rhoi profiad da yn gyson i ddefnyddwyr? Sut gallwn ddarparu’r offer i sicrhau y gall ein swyddogion gydweithio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cydgysylltiedig? Beth allwn ni ei ddysgu a’i fenthyg gan y naill a’r llall o ran datblygu rhaglenni fel nad ydym yn datrys yr un “broblem” mewn sawl ffordd wahanol ar draws Cymru?
Gwelwyd gwaith ardderchog ar draws y sector cyhoeddus wrth ddatblygu dulliau digidol o ymateb i’r pandemig yn gyflym ac yn hyblyg. Rydym wedi gweld enghreifftiau o waith traws-sector gyda Profi, Olrhain, Diogelu; Gofal wedi’i Alluogi gan Dechnoleg; a Gwarchod lle mae’r sector iechyd, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru wedi dod ynghyd i gyflawni datrysiadau. Mae pawb yr wyf wedi siarad â nhw ers imi ddechrau yn fy swydd wedi ymrwymo i adeiladu ar y momentwm hwn fel ffordd o siapio ein dulliau o wneud pethau.
Arwain y newid yn fewnol
Fel y nodais yn flaenorol, roeddem mewn sefyllfa ragorol i ymateb i amgylchiadau unigryw’r pandemig gyda’n staff i gyd yn gweithio gartref. Mae’r diolch am hyn i’n rhaglen TGCh Dyfodol a gwblhawyd y llynedd, a oedd yn cynnwys rhoi gliniaduron i bob aelod staff. Ymatebodd ein timau TGCh yn gyflym iawn i sicrhau bod gennym yr offer cywir, er enghraifft cyflwyno MS Teams i bawb ar unwaith. Mae’n anodd cofio bellach sut yr oeddem yn gweithio hebddo.
Yn awr, rydym yn meddwl am gam nesaf y gwaith – gyda’r disgwyliad, a amlinellwyd gan y Prif Weinidog, y byddwn ni yn Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer iawn o’n gwaith o bell yn y dyfodol. Felly rydym yn gofyn i ni ein hunain pa bethau eraill fydd yn ein helpu i weithio o bell? Pa agweddau eraill o’n rhaglenni corfforaethol sydd angen inni eu trawsnewid fel bod gan ein staff, fel defnyddwyr, wasanaethau sy’n eu galluogi i fod yn effeithlon ac yn gynhyrchiol?

Rhan arall o’r rhaglen newid oedd dod â’n swyddogaethau TGCh yn fewnol. Roedd hyn eto o fantais inni ar ddechrau’r pandemig gan ei fod wedi rhoi mwy o hyblygrwydd a rheolaeth inni wneud y newidiadau angenrheidiol. Un o’m blaenoriaethau i yn awr yw cwblhau’r gwaith ar strategaeth y gweithlu ar gyfer y proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDAT), nad ydym wedi gallu ei ddatblygu yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’n bwysig bod gennym gynllun clir ar gyfer ein gweithlu DDAT fel y gallant weld bod llwybr datblygu iddynt o fewn Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd eisiau cynllun clir ar gyfer hybu’r proffesiwn drwy brentisiaethau a sut y gallwn wella galluedd ymysg y proffesiynau eraill. Rydym wrth ein bodd bod ein carfan gyntaf o brentisiaid digidol wedi cwblhau eu prentisiaeth yn ddiweddar ac wedi’u lleoli mewn swyddi ar draws y sefydliad.
Yn olaf, yn amlwg mae data wedi bod yn allweddol yn ystod cyfnod y pandemig. Roeddem eisoes wedi dechrau ar y gwaith o sefydlu Uned Gwyddor Data mewnol cyn y pandemig a gwnaethom barhau i ddatblygu’r gwaith hwn dros y gwanwyn – roedd yn amlwg i ni y byddai’r sgiliau yr oeddem eisiau eu datblygu yn amhrisiadwy i gynorthwyo gyda’r ymateb i’r pandemig. Mae’n wych gweld y cynnydd hwn, fel y disgrifiodd John Morris yn ei flog yn ddiweddar, yn ogystal â’r gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan ein tîm Ymchwil Data Gweinyddol i gefnogi’r ymateb i COVID-19. Cam nesaf pwysig yw datblygu ein seilwaith mewnol i gefnogi’r defnydd o wyddor data fel y gallwn gefnogi’r gwaith o ddadansoddi a defnyddio’r data yn fewnol. Yna gallwn ystyried y modd yr ydym yn defnyddio safonau data a storio data ar draws y sefydliad i wneud ein defnydd o ddata cymaint yn haws.
Fel y gwelwch, mae llawer iawn yn digwydd. Hoffwn i’n timau digidol ar draws Llywodraeth Cymru fod yn agored am yr hyn y maent yn ei wneud a threulio amser yn cyfathrebu yn y modd hwn, fel y gwnaeth John yn ddiweddar. Bydd Rhys Morris yn sôn am ymateb Busnes Cymru i’r pandemig wythnos yma. Felly byddwch yn clywed gennym yn rheolaidd!
Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol