Mae gwerth data yn gwbl amlwg ers blynyddoedd – hyd yn oed mewn ffuglen. Yn 1892, dywedodd Sherlock Holmes:
“It is a capital mistake to theorize before one has data. Insensibly one begins to twist facts to suit theories, instead of theories to suit facts.”
Pum mlynedd yn ôl, mewn ymateb i Gyfarwyddeb INSPIRE yr UE, dechreuodd Llywodraeth Cymru ar her i rannu data amgylcheddol mewn ffordd gliriach, fwy hygyrch mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.
A’r ateb i’r her…. Mapiau! Dyma esgorodd ar y platfform data daearofodol Lle.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ystod o ddata sydd ar gael drwy Lle wedi parhau i gynyddu, gyda data ar gael bellach ar drafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â data amgylcheddol. Cafwyd cydnabyddiaeth gynyddol hefyd bod Lle yn fwy na phlatfform data yn unig, a bod modd ei ddefnyddio i helpu pobl i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar wybodaeth.
Gyda’r diddordeb cynyddol yn Lle a chyrff cyhoeddus eraill yn ceisio prynu neu ddatblygu platfform daearofodol eu hunain, roedd yr ateb yn amlwg – platfform daearofodol newydd, gwell i’r sector cyhoeddus cyfan!
Yn fras, ein gweledigaeth yw creu un ffynhonnell ddata daearofodol unigol ar gyfer holl ddata sector cyhoeddus Cymru. Y nod yw cynhyrchu platfform data cyffredin i gyrff cyhoeddus fedru cyhoeddi eu data, er mwyn i bawb gael mynediad at y data sydd eu hangen arnynt.
Y daith hyd yma
Felly ble rydyn ni arni? Yn ddiweddar daeth y Cyfnod Darganfod i ben, lle buom yn holi beth oedd gofynion rhai o’n defnyddwyr ac yn cynllunio sut i ddatblygu’r platfform newydd, gwell.
Yn ystod y Cyfnod Darganfod, cynlluniwyd platfform cryf a chadarn y bydd modd ei ehangu fel y gall ddygymod â’r galw cynyddol i gyhoeddi a defnyddio data. Rydym hefyd wedi ymgorffori ardal ddiogel newydd o fewn y cynllun, sy’n cynnwys systemau mewngofnodi diogel a’r gallu i gynnal data ar amrywiol lefelau diogelwch.
Fel rhan o’n rhaglen ddatblygu rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle i wella golwg a gweithrediad y platfform ei hun. Wrth wneud hynny, y nod yw gwella’i hygyrchedd a’i wneud yn fwy defnyddiol, fel bod modd i bob defnyddiwr ei drafod yn rhwydd.
Ac ar ben hynny, rydym wedi penderfynu rhoi enw newydd iddo ar yr un pryd. Gyda’r holl newidiadau sydd ar y gweill, roedd i’w weld yn amser da i ailenwi’r platfform i ddisgrifio’n well beth ydyw a’r hyn mae’n ei wneud. Rydym yn awyddus i glywed eich barn ynghylch hyn, felly cyn hir byddwn yn casglu gwybodaeth am enwau posib drwy arolwg ar ein cyfrif Twitter @CDOCymru.
Beth yw’r camau nesaf?
Mae tîm eisoes yn ei le i adeiladu’r platfform newydd ac rydym wedi dechrau cam cyntaf y gwaith cyflawni neu, mewn iaith ddigidol, Cyfnod Alffa. Yn ystod y cam cyntaf byddwn yn adeiladu prototeip gweithredol o’r platfform.
Er mai dim ond dechrau mae’r gwaith datblygu, mae’n bwysig i ni ddechrau meddwl pa ddata sydd eu hangen ar ein defnyddwyr er mwyn sicrhau eu bod ar gael ar y platfform newydd. Felly byddai gennym ddiddordeb clywed pa ddata ddylai fod ar gael yn eich barn chi. Anfonwch eich awgrymiadau at: Data@llyw.cymru
Mae tipyn o ffordd i fynd cyn i ni gyflawni’r hyn rydyn ni am ei wneud, ond cadwch lygad ar y blog gan y byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth ar y datblygiadau.
Post gan Sean Williams – Lle Rheolwr Prosiect, Llywodraeth Cymru