Sut mae MALlC 2019 yn ein helpu i dynnu sylw at anghydraddoldeb, flwyddyn yn ddiweddarach

Read this page in English

Flwyddyn yn ôl, ar 27 Tachwedd 2019, cyhoeddwyd chweched rhifyn Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).

""

Mae’r mynegai’n graddio ardaloedd bach yng Nghymru yn ôl sawl math o amddifadedd, fel incwm a thai, ac yn cyfuno’r rhain i greu mesur cyffredinol o amddifadedd lluosog.

Lai na phedwar mis yn ddiweddarach, roedd Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan pandemig ac roedd y DU dan gyfyngiadau. Mae’n bosibl y bydd rhaid aros am beth amser cyn dod i ddeall yn iawn beth fydd yr effaith ar gymunedau yng Nghymru yn y tymor hwy, ond gall y mynegai ein helpu i ddeall pa gymunedau oedd fwyaf agored i niwed cyn y pandemig ac y bydd angen mwy o gefnogaeth arnynt, o bosibl. Mae’n un o nifer o ffynonellau data sy’n bwydo offeryn mapio Ymateb Cymunedol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gallwn hefyd ddefnyddio’r mynegai i archwilio effeithiau gwahaniaethol y feirws ar gymunedau.

Amddifadedd a’r feirws

Ar y dechrau, cafodd COVID-19 ei ddisgrifio gan rai fel ‘cydraddolwr mawr’ neu ‘lefelydd’. Ond yn fuan, profodd data ar effaith y feirws, yn ogystal ag effaith y cyfyngiadau ar swyddi a bywydau, nad yw canlyniadau cyfartal yn nodwedd gref o’r pandemig hwn. Gwyddom bellach y gall effaith y feirws ar unigolion amrywio oherwydd llawer o nodweddion neu amgylchiadau, gan gynnwys amddifadedd cymharol yr ardal yr ydych yn byw ynddi.

Cyhoeddodd Cell Cyngor Technegol (TAC) Llywodraeth Cymru adroddiad yn ddiweddar yn trafod COVID-19 ac anghydraddoldebau iechyd a chanfu:

‘Yn seiliedig ar ddata o’r ychydig fisoedd cyntaf, gallwn weld bod pobl yn y pumed mwyaf amddifad o’r boblogaeth yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty, i fynd i’r Uned Gofal Dwys, ac i farw o COVID-19 o gymharu â’r rhai yn y pumed lleiaf amddifad.’

TAC, Hydref 2020

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos, er bod cyfraddau marwolaethau cyffredinol fel arfer yn uwch mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ei bod yn ymddangos bod COVID-19 yn eu codi hyd yn oed yn uwch.

Siart SYG o gyfraddau marwolaethau safonedig ar gyfer marwolaethau sy'n ymwneud â chorafeirws yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020, yn ôl cwintel amddifadedd.
Siart SYG o gyfraddau marwolaethau safonedig ar gyfer marwolaethau sy’n ymwneud â chorafeirws yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020, yn ôl cwintel amddifadedd.

Pa grwpiau sy’n cael eu gorgynrychioli mewn ardaloedd difreintiedig?

Ond pa fath o bobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig? Yn gynharach y mis hwn, am y tro cyntaf cyhoeddwyd ystadegau gennym ar amddifadedd a grwpiau gwarchodedig. Mae’r rhain yn archwilio sut mae grwpiau’n gwahaniaethu o ran lefelau amddifadedd yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt, gan ddefnyddio ystadegau a dynnwyd o werth sawl blwyddyn o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, i’n galluogi i gynnwys rhai grwpiau llai o faint. Dyma rai o nodweddion pobl sy’n byw yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig:

  • Mae bron i hanner yr holl bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hyn yn sengl, o’u cymharu â thua thraean ledled Cymru.
  • Pobl anabl yw 1 o bob 3 o bobl yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, o’i gymharu â llai nag 1 o bob 4 ledled Cymru.
  • Mae mwy nag 1 o bob 10 o bobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn dod o grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig, sy’n cynnwys 1 o bob 20 o’r holl bobl ledled Cymru.
  • Mae’r siawns o fyw yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd ychydig yn uwch ar gyfer menywod na dynion, ac ar gyfer plant a phobl ifanc o gymharu â phobl hŷn.

Ardaloedd neu Unigolion?

Mae categoreiddio’r ardaloedd y mae pobl yn byw ynddynt yn ôl amddifadedd cyffredinol yn syml i’w wneud, a gall hyn fod yn ddefnyddiol i dynnu sylw at dueddiadau cyfanredol o ddata am wahanol grwpiau o bobl. Ond nid yw bob amser yn arwydd cywir o amgylchiadau economaidd-gymdeithasol pob unigolyn. Ac nid yw amddifadedd bob amser yn cael ei brofi mewn crynodiadau o bobl yn yr un cymunedau: mae tri o bob pump o bobl sy’n ddifreintiedig o ran incwm yn byw y tu allan i’r pumed o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae gan Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru uchelgais barhaus i gysylltu setiau data â’i gilydd er mwyn deall amgylchiadau unigolion yn well, yn hytrach na’r ardaloedd y maent yn dod ohonynt. Byddai hyn hefyd yn ein galluogi i ddysgu mwy am bobl sydd â llawer o nodweddion amddifadedd sy’n gorgyffwrdd ac yn gydgysylltiedig, er enghraifft afiechyd a thai gwael, lle bynnag y maent yn byw.

Mae’n bosibl, beth bynnag fo’ch amgylchiadau unigol, y gallai byw mewn ardal sydd â chrynodiad uchel o bobl ddifreintiedig waethygu canlyniadau negyddol, a gallai gwaith cysylltu data helpu i fesur hyn yn y dyfodol. Mae’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn wynebu heriau sylweddol, ac eleni am y tro cyntaf rydym wedi nodi ardaloedd o amddifadedd hirsefydlog, sydd wedi bod ymhlith y 50 mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn gyson ers MALIC 2005.

Offer i helpu i archwilio anghydraddoldeb

""

Am y tro, mae sawl mantais i archwilio data yn ôl amddifadedd ardal. Mae’n hawdd cyfuno gwybodaeth MALlC â setiau data gan gynnwys lleoliadau fel cod post neu ACEHI, er mwyn cael mewnwelediad newydd i dueddiadau yn ôl amddifadedd. Rydym wedi cyhoeddi safleoedd MALlC a data dangosyddion gyda chodau ardal ACEHI, a thaenlen chwilio lle gallwch ludo rhestr o godau post i allbynnu’r codau ardal, safleoedd MALlC a grwpiau amddifadedd.

Mae llawer i’w archwilio o hyd yn y data y tu ôl i MALlC 2019. Rydym wedi bod yn blaenoriaethu allbynnau dilynol a setiau data i helpu defnyddwyr y mynegai i gael gafael ar negeseuon allweddol a chryfhau eu hymchwil eu hunain. Gallwch weld y wybodaeth ar ein gwefan MALlC neu gysylltu â’r tîm i gael gwybod mwy.

Nia Jones
Ystadegau Cyfiawnder Cymdeithasol

E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru