Mae’n amhosibl anwybyddu’r newidiadau rydym wedi’u profi yn ystod y 18 mis diwethaf a’r gwahanol bwyslais ar yr hyn sy’n cyfrannu at lesiant Cymru yn sgil y pandemig. O ganlyniad, rydym yn ceisio canfod a yw’r profiad hwn wedi tynnu sylw at unrhyw fylchau yn y ffordd rydym yn mesur cynnydd tuag at ein nodau llesiant.
Parhau i ddarllenArchifau Categori: Prif Ystadegydd
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: cynlluniau ar gyfer ystadegau brechu COVID-19
Ar ôl yr hyn a fu’n flwyddyn anodd, mae’n siŵr y bydd y ffaith fod y rhaglen frechu ar y gweill yn belydr o obaith i lawer. Yn sgil hyn, mae cryn ddiddordeb yn hynt y broses, a llawer o bobl eisiau gwybod pryd y byddant hwy neu aelodau o’u teulu yn cael brechiad (os nad ydynt wedi cael un eisoes). Yn y blog hwn, sydd wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan epidemiolegwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, rydym am nodi’r hyn y gallwch ddisgwyl ei weld mewn data brechu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Parhau i ddarllenYstadegau addysg trawsbynciol ac ôl-16 yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19)
Bydd ein cyhoeddiadau ystadegol ar gyfer gwanwyn 2021 ar addysg ôl-16 yn ystod 2019/20 yn wahanol i gyhoeddiadau’r blynyddoedd blaenorol. Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio’n drwm ar sawl agwedd ar ein cymdeithas, yn enwedig addysg. Amharwyd ar ddysgu yn dilyn y cyfnod clo ym mis Mawrth a chanslwyd cyfres arholiadau’r haf. Mae’r newidiadau mawr hyn yn effeithio ar ein hadroddiadau ac rydym am gael eich adborth ar ein dull gweithredu arfaethedig.
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: diwallu anghenion defnyddwyr yn ystod pandemig
Dyma fy mlog cyntaf fel Prif Ystadegydd interim i Gymru. Mae cymryd yr awenau yn ystod cyfnod y pandemig wedi bod yn heriol, roedd hynny’n anochel, gyda galw enfawr am ystadegau a thystiolaeth mor uchel eu proffil.
Sut mae MALlC 2019 yn ein helpu i dynnu sylw at anghydraddoldeb, flwyddyn yn ddiweddarach
Flwyddyn yn ôl, ar 27 Tachwedd 2019, cyhoeddwyd chweched rhifyn Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: rhai myfyrdodau olaf fel Prif Ystadegydd
Heddiw yw fy niwrnod olaf fel y Prif Ystadegydd ar ôl bron i ddeng mlynedd yn y swydd (gan ddibynnu ar sut rydych chi’n diffinio fy nyddiad dechrau, pethau pwysig i ni ym myd data wrth gwrs).
Diweddariad y Prif Ystadegydd: Arolwg Masnach Cymru
Ysgrifennais mewn blog blaenorol am ein cynlluniau ar gyfer arolwg masnach peilot dros Gymru. Mae’r peilot bellach wedi’i gwblhau a chyhoeddir y canlyniadau heddiw. Parhau i ddarllen
Diweddariad y Prif Ystadegydd: sut mae marwolaethau COVID-19 yng Nghymru yn cymharu gyda gweddill y DU, a pa mor wahanol yw o fewn Cymru?
Ddydd Gwener cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ddwy erthygl arall ar farwolaethau cysylltiedig â COVID-19, gan ehangu ymhellach y gyfres o ddadansoddiadau critigol y mae wedi bod yn eu cyhoeddi i’n helpu ni i gyd i ddeall natur ac effaith y pandemig hwn yn well.
Diweddariad y Prif Ystadegydd: mesur nifer yr unigolion sydd yn yr ysbyty, a rhai sylwadau ynghylch ansawdd data
Yn y blog hwn, hoffwn siarad ychydig am ystadegau ysbytai, sydd wedi bod mor hanfodol ar gyfer deall y pandemig hwn.
Diweddariad y Prif Ystadegydd: cynhyrchu ystadegau yn ystod pandemig cenedlaethol (dilyniant i’r diweddariad blaenorol)
Yn fy niweddariad ar 23 Mawrth 2020, amlinellwyd sut yr oeddem yn bwriadu adolygu ein casgliadau data, ein gweithgarwch ymchwil a’n hallbynnau arfaethedig yng ngoleuni’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae hyn wedi’i wneud er mwyn blaenoriaethu’r ymateb i’r sefyllfa bresennol – o safbwynt ein hadnoddau ein hunain o fewn Llywodraeth Cymru, ond yr un mor bwysig hefyd adnoddau ein darparwyr data sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen allweddol ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r nodyn hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau.