Ystadegau addysg trawsbynciol ac ôl-16 yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19)

Read this page in English

Bydd ein cyhoeddiadau ystadegol ar gyfer gwanwyn 2021 ar addysg ôl-16 yn ystod 2019/20 yn wahanol i gyhoeddiadau’r blynyddoedd blaenorol. Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio’n drwm ar sawl agwedd ar ein cymdeithas, yn enwedig addysg. Amharwyd ar ddysgu yn dilyn y cyfnod clo ym mis Mawrth a chanslwyd cyfres arholiadau’r haf. Mae’r newidiadau mawr hyn yn effeithio ar ein hadroddiadau ac rydym am gael eich adborth ar ein dull gweithredu arfaethedig.

Effaith ar adrodd am berfformiad

Nododd y Gweinidog Addysg newidiadau i ddyfarniadau cymwysterau a mesurau perfformiad mewn Datganiadau Ysgrifenedig dyddiedig 18 Mawrth 2020 a 3 Gorffennaf 2020. O ganlyniad, ni fyddwn yn cyhoeddi ein datganiadau ystadegol arferol ar gyflawniad mewn chweched dosbarthiadau ysgolion a cholegau addysg bellach, ac ar ddeilliannau dysgwyr yn y sectorau dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion.

Disodlwyd yr holl gymwysterau a fyddai wedi’u sefyll fel arholiadau yn nhymor yr haf 2019/20 gyda’r gorau o naill ai’r radd asesu canolfannau neu’r radd safonedig gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru. Byddwn yn adrodd ar y cymwysterau a ddyfarnwyd i ddysgwyr ôl-16 mewn ffordd sy’n gyson â chanlyniadau arholiadau Safon Uwch ac UG a gyhoeddwyd eisoes gan Cymwysterau Cymru, y Cyd-gyngor Cymwysterau a’n datganiad ein hunain ar ganlyniadau arholiadau ysgolion. Fodd bynnag, mae’r ffynonellau data sydd ar gael i ni yn ein galluogi i gael dealltwriaeth ehangach o ymgysylltiad dysgwyr â’u hastudiaethau yn ystod y cyfnod cythryblus hwn.

Ein cynnig yw ein bod yn cyhoeddi erthygl ystadegol ar ‘Ddeilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 y mae pandemig y coronafeirws yn effeithio arnynt’ ym mis Mawrth 2021. Ar wahân i adrodd ar y cymwysterau a ddyfarnwyd, rydym hefyd yn anelu at ddarparu dadansoddiad ar gwblhau astudiaethau dysgwyr yn 2019/20, cadw a datblygu dysgwyr yn 2020/21 ac edrych yn benodol ar lwybrau’r rhai sy’n gadael yr ysgol ym mlwyddyn 11 i addysg ôl-16. Bydd y dadansoddiad hwn ar lefel genedlaethol ac ni fyddwn yn cynhyrchu ystadegau sy’n ymwneud â darparwyr dysgu unigol.

Byddwn yn ymdrin ag addysg ôl-16 mewn chweched dosbarthiadau ysgolion a cholegau addysg bellach. Byddwn yn edrych ar gymwysterau galwedigaethol a ddyfarnwyd yn ogystal â chymwysterau Safon Uwch. Byddwn hefyd yn cynnwys dysgwyr sydd wedi cofrestru ar brentisiaethau a hyfforddeiaethau, a’r rhai sy’n cymryd rhan mewn dysgu oedolion. Cyflwynir dadansoddiad yn ôl nodweddion dysgwyr i ddangos sut yr effeithiwyd ar wahanol grwpiau, lle mae ein data yn caniatáu i ni wneud hynny.

Beth hoffech chi ei wybod?

Rydym am glywed gennych ac rydym am ateb cymaint o’ch cwestiynau ag y gallwn drwy ein hadroddiadau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylw, cysylltwch â ni ar ystadegau.addysgol16@llyw.cymru. Byddem yn ddiolchgar am eich barn erbyn 22 Ionawr 2021 i roi digon o amser i ni eu hystyried wrth i ni baratoi’r erthygl ystadegol.

Datblygiadau mewn meysydd eraill

Mae wedi bod yn gyfnod prysur i ni er gwaethaf y newidiadau i’n trefniadau adrodd ar berfformiad arferol. Rydym yn parhau i roi gwybod am wybodaeth reoli fisol am brentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod y pandemig. Mae’n galonogol gweld bod nifer y prentisiaid ar ffyrlo yn parhau i ostwng, er bod 1,255 yn dal i fod ar ffyrlo yn llawn, a 405 arall wedi’u rhoi ar ffyrlo yn rhannol ar 27 Tachwedd 2020.

Dros yr haf, fe ailgynlluniwyd ein datganiadau blynyddol ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur a pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Gobeithiwn y bydd fformat newydd y datganiadau hyn yn helpu ein defnyddwyr i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hawdd. Ochr yn ochr â’r datganiadau hyn, cyhoeddwyd nodyn methodoleg gennym ar sut rydym yn cael ein hamcangyfrifon cyfranogiad a chanllawiau i’r gwahanol ffynonellau ystadegau ar bobl ifanc NEET yng Nghymru.

""

Tua dechrau’r pandemig penderfynwyd peidio â chasglu’r rhan fwyaf o gasgliadau data gan gyrff cyhoeddus. O ganlyniad, gohiriwyd ein datganiad ystadegol blynyddol ar y sector gwaith ieuenctid statudol yng Nghymru ar gyfer 2019-20. Er bod y broses o gasglu data bellach ar waith, rydym yn parhau i fod yn ymwybodol o’r effaith ar awdurdodau lleol o ran rhoi’r wybodaeth i ni ar hyn o bryd. Byddwn yn cyhoeddi’r dyddiad rhyddhau ar ein gwefan cyn gynted ag y gallwn.

Jon Ackland
Pennaeth ystadegau addysg trawsbynciol ac ôl-16