Diweddariad y Prif Ystadegydd: cymharu ystadegau perfformiad y GIG ar draws y DU

Read this page in English

Mae darpariaeth gwasanaethau iechyd wedi’i ddatganoli ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig. O ganlyniad, mae’r ffordd rydym yn mesur gweithgarwch a pherfformiad y GIG ym mhob gwlad yn amrywio, er mwyn adlewyrchu gwahanol flaenoriaethau polisi ac amgylchiadau pob gwlad. Er bod tebygrwydd yn y mathau o ddata a gesglir, mae gwahaniaethau pwysig hefyd o ran yr hyn sy’n cael ei gynnwys a’r diffiniadau, sy’n golygu’n aml nad yw’n bosib cymharu’r prif ystadegau’n uniongyrchol. Fodd bynnag, deallwn fod diddordeb mawr yn y cymariaethau hyn, felly mae’r erthygl hwn yn ceisio cynnig cyngor ynglŷn â sut i wneud hyn.

Parhau i ddarllen

Diweddariad y Prif Ystadegydd: maint poblogaeth Cymru yw…

Read this page in English

Mae heddiw’n garreg filltir bwysig wrth ryddhau data Cyfrifiad 2021. Ar 28 Mehefin, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gymru. Mae’r canlyniadau cyntaf hyn yn cynnwys amcangyfrifon poblogaeth wedi’u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhyw a grwpiau oedran pum mlynedd. Mae’r datganiad hefyd yn cynnwys amcangyfrifon aelwydydd, a gwybodaeth am ddwysedd y boblogaeth.

Parhau i ddarllen

Diweddariad y Prif Ystadegydd: yn symud o bandemig i endemig, beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer yr ystadegau COVID-19

Read this page in English

Ar 4 Mawrth 2022, cyhoeddwyd ‘Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: COVID-19: cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig i endemig’. Mae’r cynllun hwn yn esbonio bod y cysylltiad rhwng haint COVID-19, salwch difrifol, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaeth wedi gwanhau’n sylweddol. Mae hyn yn golygu y gallwn ddechrau symud y tu hwnt i ymateb argyfwng i’r pandemig a chynllunio dyfodol lle rydym yn symud yn raddol i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws, yn yr un modd ag yr ydym yn byw gyda nifer o glefydau heintus arall.

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: egluro ystadegau gweithgarwch a pherfformiad y GIG

Wedi’i ddiweddaru ar 21 Gorffennaf 2022 i gynnwys gwybodaeth ar ddata newydd.

Read this page in English

Cyhoeddwyd y nodyn blog hwn ym mis Mawrth 2022 yn wreiddiol i esbonio sut rydym yn mesur gweithgarwch a pherfformiad y GIG. Mae’r  nodyn wedi’i ddiweddaru heddiw i gynnwys datblygiadau newydd ar mesur y nifer o gleifion sy’n aros am driniaeth.

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: sut y mae’r pandemig wedi newid addysg ôl-16

Read this page in English

Mae’r pandemig wedi gwneud i ni feddwl yn wahanol am y mathau o ddadansoddiadau yr ydym yn eu cynhyrchu, gyda llawer o’n cyhoeddiadau ystadegol arferol yn newid er mwyn adlewyrchu amgylchiadau newydd neu bynciau o ddiddordeb. I roi ond un enghraifft o hyn, rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad newydd yr wythnos hon sy’n edrych ar yr effaith ar ddysgwyr mewn addysg ôl-16.

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: deall cyfraddau heintio COVID-19 yng Nghymru

Read this page in English

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Cymru, ynghyd â gwledydd eraill y DU, nad oes rhaid ichi gymryd prawf PCR dilynol bellach, os cewch ganlyniad positif i brawf llif unffordd. Mae’r math hwn o newid i bolisi’n gallu cael effaith ar ddata COVID-19. Mae’r blog hwn yn anelu at esbonio’r newidiadau hyn ac yn rhoi cyngor ar ddehongli data dros y diwrnodau a’r wythnosau i ddod.

Parhau i ddarllen

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: deall safbwyntiau a bywydau pobl yn ystod y pandemig

Read this page in English

Arolwg Cenedlaethol Cymru yw’r prif arolwg cymdeithasol a gynhelir gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid. Mae’n cynnwys tua 12,000 o bobl ar draws Cymru bob blwyddyn, ac mewn cyfnodau arferol bydd pobl yn cael eu cyfweld yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r arolwg yn ymdrin â sawl pwnc, o iechyd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ysgolion, gwasanaethau’r cyngor, a barn am yr ardal leol. 

Parhau i ddarllen

Dangosyddion Cenedlaethol: beth mae’r pandemig wedi ei ddysgu i ni am sut rydym yn mesur llesiant?

Read this post in English

Mae’n amhosibl anwybyddu’r newidiadau rydym wedi’u profi yn ystod y 18 mis diwethaf a’r gwahanol bwyslais ar yr hyn sy’n cyfrannu at lesiant Cymru yn sgil y pandemig. O ganlyniad, rydym yn ceisio canfod a yw’r profiad hwn wedi tynnu sylw at unrhyw fylchau yn y ffordd rydym yn mesur cynnydd tuag at ein nodau llesiant.

Parhau i ddarllen