Ar ôl yr hyn a fu’n flwyddyn anodd, mae’n siŵr y bydd y ffaith fod y rhaglen frechu ar y gweill yn belydr o obaith i lawer. Yn sgil hyn, mae cryn ddiddordeb yn hynt y broses, a llawer o bobl eisiau gwybod pryd y byddant hwy neu aelodau o’u teulu yn cael brechiad (os nad ydynt wedi cael un eisoes). Yn y blog hwn, sydd wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan epidemiolegwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, rydym am nodi’r hyn y gallwch ddisgwyl ei weld mewn data brechu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Ystadegau ar bobl sydd wedi cael brechiad
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn goruchwylio rhaglenni brechu ers blynyddoedd. Nhw sy’n gyfrifol am fonitro’r defnydd o’r holl raglenni brechu arferol i oedolion a phlant. Mae’r dulliau gwyliadwriaeth a ddefnyddir ar gyfer y rhaglenni hyn wedi’u hen sefydlu, ac maent wedi’u hymestyn er mwyn cadw golwg ar raglen COVID-19.
Fis Rhagfyr, dechreuodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi data wythnosol ar nifer y bobl sy’n cael brechiad COVID-19. Ers hynny, mae amlder a dyfnder y data brechu wedi ehangu, ac mae’r cyfan ar gael drwy ddangosfwrdd gwyliadwriaeth COVID-19. Yn gynnar ym mis Ionawr, dechreuodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi data brechu dyddiol ac mae hyn bellach yn cynnwys gwybodaeth ddyddiol am nifer o’r grwpiau brechu â blaenoriaeth, megis pobl dros 80 oed a phreswylwyr cartrefi gofal. Bob wythnos hefyd, cyhoeddir ffigurau hyd at lefel byrddau iechyd.
Dim ond megis dechrau yr ydyn ni. Dros amser, bydd mwy o ddata’n cael ei ychwanegu ar gyfer y categorïau blaenoriaethu brechu eraill a argymhellir gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).
- Yn ystod mis Chwefror, bydd yr adroddiadau gwyliadwriaeth yn cael eu hehangu i gynnwys pob un o’r 9 grŵp blaenoriaeth a argymhellir gan y JCVI
- Bob mis, o fis Chwefror ymlaen, bydd adroddiadau gwyliadwriaeth yn cynnwys gwybodaeth am y cydbwysedd rhwng grwpiau ethnig a lefelau amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Dros amser bydd hyn yn cael ei ehangu i edrych ar y darlun ar lefel ddaearyddol hefyd.
- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynnal astudiaethau gwyliadwriaeth o effeithiolrwydd brechu, sy’n golygu cysylltu nifer o setiau data gwyliadwriaeth cenedlaethol. Un o’r astudiaethau hyn yw astudiaeth garfan genedlaethol, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe.

Cyfrifo’r nifer sy’n cael brechiad
Yng Nghymru, daw data brechu COVID-19 o System Imiwneiddio Cymru (WIS), system newydd a ddatblygwyd ac a gyflwynwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn benodol i reoli’r gwaith o ddarparu brechiadau COVID-19. Mae’r system yn trefnu apwyntiadau ac yn cadw golwg ar pryd y mae brechiadau wedi digwydd, yn ogystal â rhoi ffynhonnell gyfoethog o ddata i ni. Mae WIS yn darparu’r holl ddata sydd ei angen i gyfrifo’r nifer sy’n derbyn brechiad.
Yn ogystal â dweud wrthym faint o bobl sydd wedi cael brechiad, mae WIS hefyd yn cynnwys data ynghylch maint a nodweddion cyffredinol y boblogaeth, er mwyn inni allu cyfrifo canran y bobl sydd wedi cael brechiad. Gelwir hyn yn gwmpas y boblogaeth ar gyfer cael brechiad. Mae’r ffigur cwmpas hwn yn seiliedig ar nifer y bobl sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu. Mae pobl yn cael eu cynnwys hyd yn oed os nad ydynt yn gallu cael brechiad neu wedi dewis peidio â chael un.
Mae nifer o ffyrdd o gyfrifo canran y bobl sy’n cael eu brechu, ond y dull hwn a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r dull iechyd cyhoeddus safonol ar gyfer mesur gwyliadwriaeth brechu ac mae’n arfer da rhyngwladol. Fodd bynnag, mae iddo rai cyfyngiadau. Efallai na fydd cofrestrau meddygon teulu yn cofnodi nifer y bobl mewn rhai grwpiau yn gywir, er enghraifft dynion iau a all fod ar ei hôl hi cyn diweddaru eu cofnodion meddygon teulu ar ôl symud. Mae angen i fyrddau iechyd graffu’n ofalus ar gofnodion ar gyfer grwpiau eraill, megis gweithwyr gofal iechyd, er mwyn sicrhau eu bod yn casglu gwybodaeth gadarn.
Mae pob rhan o’r DU yn datblygu ei ystadegau brechu yn gyflym, ac weithiau gall ein dulliau fod yn wahanol. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cydweithwyr ar draws y 4 gwlad i helpu defnyddwyr i gymharu gwahanol setiau o ddata a’u deall.
Ystadegau eraill ar y rhaglen frechu
Er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canolbwyntio ei ddadansoddiad ar bobl sy’n cael eu brechu, mae ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar ddarparu data rheolaidd ar yr agweddau mwy gweithredol ar gyflwyno’r brechiad. Rydym bellach yn cyhoeddi adroddiad wythnosol ar frechlynnau na ellid eu defnyddio, y cyfeirir atynt weithiau fel “gwastraff”. Mae pobl yn aml yn gofyn sawl dos o frechlynnau y mae Cymru wedi’u dosbarthu, felly rydym am ehangu’r cyhoeddiad wythnosol hwn i gynnwys data ar gyflenwadau brechlynnau hefyd. Gan fod data hwn yn gallu bod yn fasnachol sensitif, rydym yn gweithio gyda chydweithwyr ledled y DU i ddod o hyd i ffyrdd o rannu’r wybodaeth mewn ffordd ddiogel.
Mae rhagor o feysydd yr hoffem eu harchwilio yn y dyfodol, fel
- Ble cafodd brechlyn ei roi, er enghraifft mewn meddygfa, canolfan frechu neu fferyllfa?
- Faint o bobl a wrthododd apwyntiad, neu na wnaeth fynychu’r apwyntiad?
Mewn rhai achosion, nid yw’r data hwn ar gael yn hawdd gan WIS. Rydym yn parhau i archwilio pa ffynonellau sydd ar gael i helpu i ateb y cwestiynau hyn a mwy.
Gair am ansawdd y data
Mae brechiadau yn enghraifft arall o ddefnyddio “gwybodaeth reoli” i gynhyrchu ystadegau. Mae hyn yn rhywbeth rydym wedi dod yn gyfarwydd iawn ag ef yn ystod y pandemig, gyda gwybodaeth reoli am brofion, pobl yn yr ysbyty, olrhain cysylltiadau, a mwy, i gyd yn cael sylw helaeth mewn trafodaethau cyhoeddus. Ysgrifennodd y Prif Ystadegydd blaenorol am bwysigrwydd cydnabod y gallai ansawdd gwybodaeth reoli fod yn wahanol i’r hyn y byddem yn ei ddisgwyl o ystadegau swyddogol mwy rheolaidd. Ysgrifennodd:
Ein gwaith ni fel ystadegwyr y llywodraeth yw gwneud cymaint â phosibl i egluro’n glir ac yn agored beth yn union yw cyfyngiadau’r data hynny, a bod yn dryloyw gyda’n defnyddwyr pan fyddwn yn sylwi ar faterion.
Mae’r rhain yn egwyddorion rydym yn eu cymhwyso i faes data brechu hefyd.
Fel pob system weinyddol, nid prif waith WIS yw adrodd am ystadegau. Fodd bynnag, mae epidemiolegwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda thimau arbenigol yn NWIS i sicrhau bod y system yn gallu darparu data hanfodol ar gyfer gwyliadwriaeth brechu. Mae WIS yn cael ei ddatblygu a’i wella wrth i’r rhaglen frechu gael ei hehangu ac mae tîm gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda NWIS, byrddau iechyd a sefydliadau eraill y GIG, i ddeall y data o fewn WIS, gan sicrhau ei ansawdd a’i wella lle y bo’n briodol. Dyna pam mae’r ystod o ddata a gyhoeddir ar frechiadau yn ehangu’n raddol, wrth inni ddod yn fwy hyderus yn y wybodaeth sydd ar gael.
Er bod WIS yn ffynhonnell gyfoethog o ddata, efallai na fydd yn rhoi’r ateb i bob cwestiwn ar frechu. Byddwn hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio ffynonellau eraill fel cysylltu data, arolygon i gasglu rhagor o wybodaeth am agweddau at frechu, a gweithio gyda’r ONS ar yr hyn y gallwn ei ddysgu o’r arolwg heintiadau COVID-19. Er enghraifft, mae arolwg Iechyd Cyhoeddus Cymru bob pythefnos Sut yr ydym yn gwneud yng Nghymru? eisoes wedi rhoi rhywfaint o fewnwelediad pwysig i’r pwnc hwn.
Mae diddordeb y cyhoedd mewn data brechu eisoes yn fawr iawn ac yn tyfu o ddydd i ddydd. Fel y gwelsom gyda phrofion a data ysbytai yn ystod y pandemig, gwyddom y bydd y pynciau pwysicaf yn esblygu dros amser ac y bydd meysydd newydd yn dod i’r amlwg. Rydym bob amser yn awyddus i glywed sut rydych chi’n defnyddio ein data a’r hyn y mae angen i chi wybod amdano, felly cysylltwch â ni.
Stephanie Howarth, Prif Ystadegydd, Llywodraeth Cymru
Simon Cottrell, Uwch Brif Epidemiolegydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
E-bost: desg.ystadegau@llyw.cymru