Dyma fy mlog cyntaf fel Prif Ystadegydd interim i Gymru. Mae cymryd yr awenau yn ystod cyfnod y pandemig wedi bod yn heriol, roedd hynny’n anochel, gyda galw enfawr am ystadegau a thystiolaeth mor uchel eu proffil.
Fodd bynnag, mae wedi bod yr un mor werthfawr gweld sut y mae’r gwasanaeth ystadegol ledled Cymru wedi ymateb i’r her honno, ac wedi cydweithio, addasu ac arloesi’n gyflym i ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio’r ymateb i’r pandemig.
Ym mlog y Prif Ystadegydd ym mis Mehefin 2020, amlinellwyd yr allbynnau ystadegol newydd roeddem wedi’u rhoi ar waith yn sgil y coronafeirws er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddefnyddwyr, ac o ystyried yr angen i flaenoriaethu adnoddau tuag at hynny, y newidiadau roedd angen i ni eu gwneud i’n casgliadau data presennol a’n hallbynnau arfaethedig. Diben y blog hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynlluniau, yn enwedig lle’r oedd angen i ni ohirio casgliadau yn gynharach yn y flwyddyn heb gynnig cadarn, ond hefyd i roi’r cyfle i chi roi eich barn ar y dewisiadau anodd sydd angen i ni eu gwneud weithiau.
Ni fydd yn syndod mai cael tystiolaeth ddibynadwy ac amserol ynglŷn â’r coronafeirws yw ein blaenoriaeth o hyd. Mae’r rhestr o allbynnau newydd bellach yn rhy hir i’w rhestru’n llawn ond mae’n cynnwys gwybodaeth reolaidd am brofion, olrhain cysylltiadau, capasiti’r GIG, cartrefi gofal, a phresenoldeb mewn ysgolion. Rydym hefyd bellach yn cyhoeddi data arolwg ar ba mor gyffredin yw’r haint ei hun (mwy am hynny’n diweddarach) a gwybodaeth am agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd. Mae ein Huned Ymchwil Data Gwyddonol a Data Gweinyddol wedi bod yn defnyddio setiau data ymchwil a gweinyddol mewn ffyrdd manwl ac arloesol i gynyddu’r sylfaen dystiolaeth, er enghraifft, edrych ar blant ar aelwydydd a warchodir. Caiff yr allbynnau hyn eu cyhoeddi ymlaen llaw a’u cyhoeddi ar ein gwefan ystadegau ac ymchwil, a’u dwyn ynghyd drwy’r dudalen casglu dadansoddiadau Coronafeirws (COVID-19). Bydd y gyfres hon o allbynnau yn parhau i esblygu a datblygu.
Yn yr un modd â dros yr 8 mis diwethaf, mae’r flaenoriaeth newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i ni symud rhywfaint o’n hadnoddau tuag at y maes hwn, ac yn sgil hyn mae angen i ni felly adolygu, addasu a blaenoriaethu ein casgliadau a’n hallbynnau ystadegol eraill.
Casgliadau data
Gwnaethom y penderfyniad yn ôl ym mis Mawrth y byddai’r rhan fwyaf o gasgliadau data cyrff cyhoeddus yn cael eu hatal dros dro. Ar gyfer rhai datganiadau, roedd angen eu canslo’n llawn, tra bod eraill wedi’u gohirio tra’n aros am drafodaeth bellach wrth i’r sefyllfa ddatblygu. Rydym wedi bod yn rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer y casgliadau hyn ar sail unigol, gan ystyried pwysigrwydd y data, gan gynnwys pa mor berthnasol ydyw i’r pandemig, ochr yn ochr â gallu a chapasiti cyflenwyr data i ddarparu’r wybodaeth. Mae rhai o’r casgliadau a ohiriwyd yn gynharach yn y flwyddyn bellach yn dechrau cael eu cynnal. Cyhoeddir diweddariad o’r sefyllfa ar gyfer pob casgliad unigol. Hyd yn oed pan fydd casgliadau’n mynd rhagddynt, efallai y bydd goblygiadau pellach o ran argaeledd ac ansawdd y data, y bydd angen inni eu hystyried yn ddiweddarach. Byddwn bob amser yn sicrhau bod defnyddwyr yn cael gwybod am unrhyw gyfyngiadau gyda’r data rydym wedi’u casglu.
Arolygon
Effeithiwyd ar arolygon a gynhaliwyd ar draws Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth wrth i bob cyfweliad wyneb yn wyneb ar gyfer arolygon cymdeithasol y llywodraeth gael ei atal ym mis Mawrth. Mae ein Harolwg Cenedlaethol ein hunain ar gyfer Cymru wedi addasu i ddarparu gwybodaeth amserol reolaidd sy’n gysylltiedig â’r sefyllfa bresennol, a gynhaliwyd fel arolwg ffôn gydag ymatebwyr blaenorol, ac a gyhoeddwyd yn fisol, ac erbyn hyn, yn chwarterol.
Rydym yn dal i ddysgu am effaith y newid hwn o gynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweld dros y ffôn. Fel y canfu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyda’r Arolwg o’r Llafurlu, efallai y byddwn yn cyrraedd gwahanol grwpiau o bobl drwy arolygon ffôn, a all effeithio ar yr amcangyfrifon a gynhyrchwn. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael drwy flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac esbonnir yr effaith ar y ffigurau ar gyfer Cymru yn ein datganiad Ystadegau economaidd allweddol. Nid rhywbeth i’w ystyried un waith yw hyn, ond bydd angen i ni barhau i’w ystyried am y misoedd i ddod, ar draws yr ystod o arolygon a ddefnyddiwn, a byddwn yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am unrhyw oblygiadau yn ein hallbynnau.
Ers diwedd mis Mehefin mae gwaith maes wedi’i gynnal yng Nghymru ar gyfer Arolwg Heintiau COVID-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol, er mwyn helpu i olrhain graddau’r haint COVID-19 yn y gymuned. Rydym wedi bod yn cyhoeddi ein crynodeb wythnosol ein hunain o’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru ers dechrau mis Awst. Mae’r arolwg yn ffynhonnell ychwanegol ddefnyddiol wrth fonitro’r sefyllfa a’r duedd yng Nghymru, gan y bydd profion ar hap ar sampl poblogaeth gynrychioliadol yn cynnwys y rhai heb symptomau’r coronafeirws, na fyddent fel arfer yn gofyn am brofion.
Allbynnau
Bydd llawer o’n defnyddwyr yn ymwybodol ein bod, yn ystod y pandemig, wedi gwneud penderfyniadau i ohirio, neu hyd yn oed ganslo rhai o’n hallbynnau rheolaidd. Mae’r holl benderfyniadau hyn wedi’u rhannu drwy ein calendr. Mae rhywfaint o hyn wedi bod yn angenrheidiol gan na fu’n bosibl, neu am nad yw’n berthnasol mwyach, i gasglu’r data hyn gan ein cyflenwyr. Mewn achosion eraill, rydym wedi gwneud ein cyhoeddiadau’n fyrrach, gan ganolbwyntio ar y negeseuon allweddol. Mae adroddiad Llesiant Cymru eleni yn un enghraifft o hyn. Mantais ychwanegol hyn yn aml yw ein bod yn gallu cyhoeddi’n ddwyieithog ac mewn fformat mwy hygyrch. Ond mae’n dod ar draul sylwebaeth a mewnwelediad manylach. Croesawn unrhyw adborth ar y ffordd hon o weithio.
Eich adborth
Wrth i’r pandemig ddatblygu bydd angen i ni flaenoriaethu a gwneud dewisiadau o hyd. Nid ydym yn gwneud y penderfyniadau hyn ar chwarae bach, ac rydym yn cadw anghenion defnyddwyr mewn golwg bob amser wrth wneud unrhyw newidiadau. Rydym yn gweithio’n agos gyda llawer o’n defnyddwyr, gan gynnwys drwy grwpiau fel Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru, a Phanel Defnyddwyr y Trydydd Sector. Mae’r adborth gan y grwpiau hyn wedi helpu i lywio’r penderfyniadau rydym wedi’u gwneud hyd yn hyn.
Defnyddiwch y cyfle hwn i gysylltu drwy desg.ystadegau@llyw.cymru os oes gennych unrhyw adborth pellach. Fel bob amser, byddwn yn parhau i fod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â’n penderfyniadau, ac yn gwerthfawrogi eich mewnbwn i’r broses hon.
Steph Howarth
Prif Ystadegydd Interim