
Yr wythnos hon mae hi’n Wythnos Arweinwyr Digidol. Dyma adeg addas felly i ysgrifennu fy mlog cyntaf fel Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru wedi imi ddechrau yn y swydd ym mis Gorffennaf (nid y “100 diwrnod cyntaf” enwog y mae gwleidyddion yn cyfeirio ato, ond ddim yn bell chwaith). Mae’r misoedd cyntaf wedi bod fel corwynt wrth imi ddysgu beth sy’n digwydd ar draws y sefydliad ac yn allanol, gan geisio datblygu darnau allweddol o waith sy’n bwysig i ni o ran ymateb i’r pandemig a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Fel mewn llawer o weithleoedd eraill, rydym wedi bod yn gweithio gartref yn bennaf ers mis Mawrth, wrth gwrs. Mae manteision aruthrol i hyn, y manylwyd arnynt dros y misoedd diwethaf, ond mae dechrau mewn swydd newydd yn y cyfnod hwn a methu dod i gysylltiad wyneb yn wyneb gyda fy nhimau newydd yn brofiad gwahanol iawn!
Parhau i ddarllen
Ym mis Mawrth 2019, dechreuais ar brentisiaeth gyda Llywodraeth Cymru a rôl o fewn tîm Desg Wasanaeth Hwb oedd fy lleoliad cyntaf. Platfform Dysgu Digidol Cenedlaethol yw Hwb sy’n cynnwys casgliad cenedlaethol o raglenni digidol ac adnoddau i gefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru.

Roeddwn yn Rheolwr Prosiect i BT am 25 mlynedd, a 12 mis yn ôl roedd cyfle i mi dderbyn telerau dileu swydd.