Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae trethi’n cael eu gwario yng Nghymru? Ydych chi erioed wedi tybio sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio, neu sut mae Cyfraith Cymru yn cael ei datblygu? Os felly, efallai y bydd ein hymrwymiadau llywodraeth agored diweddaraf o ddiddordeb ichi.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn gynhwysol…
Felly dyma ni am yr ail dro yn ein hanes yn tynnu ynghyd ac yn cyhoeddi ein huchelgais i fod yn fwy agored ac ymatebol. Ar ôl llwyddo i gyflawni’r rhan fwyaf o’r hyn yr oeddem wedi bwriadu ei gyflawni yn ein set gyntaf o ymrwymiadau llywodraeth agored, rydym yn awyddus i barhau ar hyd yr un trywydd.
Wrth lunio’r set ddiweddaraf hon o ymrwymiadau, y bu’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn tynnu sylw atynt yn ddiweddar, ein nod oedd ceisio cynnwys amrywiaeth o wahanol feysydd. Dyna’r rheswm pam rydym wedi cynnwys nifer o ymrwymiadau cyffredinol, megis ein hymrwymiadau ynglŷn ag Ymgysylltu a Mynediad at Wybodaeth. Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau i ystyried sut y gellid defnyddio pecynnau digidol i wella dulliau o ymgysylltu, dulliau o rannu gwybodaeth am sut yr ydym yn caffael pethau, a ffyrdd o helpu pobl i ddod o hyd i ddata agored – ymhlith pethau eraill.
Hefyd rydym wedi gwneud ymrwymiadau penodol sy’n ymwneud â:
- helpu pobl i ddod o hyd i wybodaeth ac i ddeall mwy am ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru;
- codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth ynghylch sut yr ydym yn cael cyllid ac yn ei wario;
- hyrwyddo’r syniad o gyhoeddi mwy o ddata agored y gellir eu defnyddio;
- ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar wybodaeth am grantiau a mynd drwy’n broses ymgeisio.
Sut y gwnaethom gyrraedd fan hyn?
Wrth ddatblygu’r ymrwymiadau hyn, roeddwn yn awyddus i gael barn eraill ynghylch sut y byddem yn gallu bod yn fwy agored ac ar ba feysydd y dylem ganolbwyntio. Er mwyn dysgu mwy am sut i wneud hynny, aethom i nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu a oedd wedi cael eu trefnu gan Rwydwaith Llywodraeth Agored y DU. Hefyd, roedd ein rhwydwaith cymdeithas sifil ni, sef Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru, yn defnyddio pecyn ymgysylltu digidol i gasglu awgrymiadau gan bobl a sefydliadau yng Nghymru ynghylch yr ymrwymiadau y gellid eu gwneud.
Daeth yn amlwg eich bod yn awyddus i wybod mwy amdanom a sut yr ydym yn gweithio, yn ogystal â lle y gallwch fynd i gael yr wybodaeth y mae ei angen arnoch. Gan ddefnyddio’r adborth hwn, buom yn cydweithredu â chydweithwyr i ddod o hyd i atebion a ffyrdd gwell o weithio. Cafodd rhai o’r rhain eu defnyddio fel sail ar gyfer ein hymrwymiadau newydd.
Beth Nesaf?……
Mae’n holl bwysig ein bod yn mynd ati i gadw ein haddewidion, ac felly dros y 2 flynedd nesaf byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni ein hymrwymiadau a chyrraedd ein cerrig milltir. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn chwilio am feysydd eraill lle y gallwn fod yn fwy agored, ac felly rydym am gael eich cymorth chi. O oes unrhyw feysydd penodol a ddylai fod yn fwy agored yn eich tyb chi? A oes genych unrhyw awgrymiadau ar gyfer ymrwymiadau yn y dyfodol? Os felly, cysylltwch â ni drwy e-bostio: cyfeiriad e-bost (blogdigidoladata@llyw.cymru), ac os nad ydych wedi gwneud eisoes, ymunwch â Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru.