Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Dyma’r ail mewn cyfres o flogiau sy’n amlinellu yr uchelgeisiau a’r cynlluniau ar gyfer ein Strategaeth Ddigidol i Gymru. Gweler y blog cyflwyno am ragor o gefndir.
Cenhadaeth 1 – Gwasanaethau Digidol: Darparu a moderneiddio gwasanaethau i safon cyffredin fel eu bod yn syml, yn ddiogel a chyfleus
Fel y dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ei flog cyflwyno yn gynharach yr wythnos hon, mae gwasanaethau digidol yn fwy am bobl a ffordd o feddwl na thechnoleg. Mae’n ymwneud â moderneiddio gwasanaethau o fewn sefydliadau a darparu gwasanaethau ar draws ffiniau sefydliadol yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr.
Parhau i ddarllen