Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Cymru, ynghyd â gwledydd eraill y DU, nad oes rhaid ichi gymryd prawf PCR dilynol bellach, os cewch ganlyniad positif i brawf llif unffordd. Mae’r math hwn o newid i bolisi’n gallu cael effaith ar ddata COVID-19. Mae’r blog hwn yn anelu at esbonio’r newidiadau hyn ac yn rhoi cyngor ar ddehongli data dros y diwrnodau a’r wythnosau i ddod.
Parhau i ddarllenMae tîm da yn gwneud data da
Os yw’r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf wedi dysgu unrhyw beth inni, pwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd yw hynny. Rydym wedi gweld yn uniongyrchol sut y gall rhannu gwybodaeth ac arbenigedd helpu i ddelio â’r heriau anoddaf.
Parhau i ddarllenGwasanaeth Digidol Cynnig Gofal Plant Cymru: Cyd-gynhyrchu mewn Pandemig
Gyda 2022 a lansiad gwasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru yn prysur agosáu, mae’n adeg berffaith i roi gwybod i chi am yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud, sut mae pethau’n mynd a’r hyn rydym wedi’i ddysgu ar hyd y ffordd.

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: cynlluniau ar gyfer ystadegau ar yr economi a’r farchnad lafur
Yn gynnar yn ystod pandemig COVID-19, roedd llif ddi-dor o gwestiynau manwl am gyfansoddiad yr economi a’r farchnad lafur yng Nghymru yn codi.
Parhau i ddarllenBod yn foesegol
Ydych chi erioed wedi cael eich hun yn gwylio rhywbeth am oriau, oherwydd bod Netflix wedi ei argymell ichi? A yw datgloi eich ffôn drwy edrych arno’n dod yn norm i chi?
Beth pe bai’r sector cyhoeddus yn dechrau defnyddio data fel hyn? Beth pe bai ein casgliadau sbwriel yn seiliedig nid ar rotas ond ar ba bryd y dywedodd synwyryddion clyfar eu bod yn llawn? Beth pe bai cardiau llyfrgell yn beth o’r gorffennol a bod benthyca llyfrau yn seiliedig ar feddalwedd adnabod wynebau?
Parhau i ddarllenHoffech chi chwarae rhan arweiniol yn nyfodol dysgu digidol yng Nghymru?
Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Diwrnod arall, ac un arall o swyddi digidol mwyaf cyffrous yng Nghymru ar gael.
Y tro hwn, swydd y Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer Dysgu Digidol, swydd sydd wedi bod yn ganolog i’r gwaith anhygoel rydym wedi’i wneud ar ddysgu digidol yng Nghymru – sydd wedi bod mor bwysig dros y 18 mis diwethaf. Ond yn lle i fi ddweud wrthych pa mor wych yw swydd, meddyliais y byddwn yn gofyn i’r deiliad post blaenorol, Chris Owen, ysgrifennu’r blog gwadd isod yn dweud wrthych chi i gyd amdano.
Gallwch ceisio am swydd y Dirprwy Gyfarwyddwr, Dysgu Digidol hyd at 19 Hydref 2021.
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: pa gyfran o bobl sydd wedi cael eu brechu yng Nghymru?
Pa ganran o bobl dros 80 oed sydd wedi cael eu brechu rhag COVID-19 yng Nghymru? Faint o bobl ifanc 30 i 39 oed sydd heb dderbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19 yng Nghymru? Gellir ateb y cwestiynau hyn a chwestiynau tebyg mewn gwahanol ffyrdd.
Parhau i ddarllenCyfleoedd i ymuno ein tim seiberddiogelwch
Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Rydym wedi ail-agor ein hymarfer recriwtio ar gyfer dadansoddwyr Seiberddiogelwch i’n helpu i wella ein capasiti yn y maes hwn. Dyddiad cau Hydref 1 2021.
Parhau i ddarllenWythnos UX – Rhoi profiad defnyddwyr yn y sbotolau
Ym mis Gorffennaf 2021 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ei Wythnos UX gyntaf, wythnos o ddigwyddiadau ar bynciau profiad defnyddwyr a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Rydyn ni’n gwybod beth rydych chi’n ei feddwl – beth yw profiad defnyddwyr a pham oeddech chi eisiau cynnal digwyddiad wythnos o hyd arno? Gwnaethon ni holi Azul De Pol, sy’n rhan o’n cymuned UX yn Llywodraeth Cymru, i ysgrifennu blog i ddweud mwy wrthon ni…
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: deall safbwyntiau a bywydau pobl yn ystod y pandemig
Arolwg Cenedlaethol Cymru yw’r prif arolwg cymdeithasol a gynhelir gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid. Mae’n cynnwys tua 12,000 o bobl ar draws Cymru bob blwyddyn, ac mewn cyfnodau arferol bydd pobl yn cael eu cyfweld yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r arolwg yn ymdrin â sawl pwnc, o iechyd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ysgolion, gwasanaethau’r cyngor, a barn am yr ardal leol.
Parhau i ddarllen