Arolwg Cenedlaethol Cymru yw’r prif arolwg cymdeithasol a gynhelir gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid. Mae’n cynnwys tua 12,000 o bobl ar draws Cymru bob blwyddyn, ac mewn cyfnodau arferol bydd pobl yn cael eu cyfweld yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r arolwg yn ymdrin â sawl pwnc, o iechyd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ysgolion, gwasanaethau’r cyngor, a barn am yr ardal leol.
Yn y blog hwn byddwn yn trafod sut y mae COVID-19 wedi effeithio ar y ffordd rydym wedi cynnal yr arolwg dros y flwyddyn ddiwethaf, a sut rydym yn bwriadu gwneud pethau yn y dyfodol.
Fel gyda chymaint o bethau eraill, ym mis Mawrth 2020 roedd rhaid inni newid y ffordd o gynnal yr arolwg. Roedd yn amlwg bron yn syth y byddai’n rhaid inni roi’r gorau i’r gwaith maes gan nad oedd mynd i gartrefi pobl yn bosibl nac yn ddiogel. Ond gyda bywydau ac amgylchiadau pobl yn newid yn gyflym, roedd yr wybodaeth a gesglir gan yr arolwg yn fwy gwerthfawr nag erioed i helpu i olrhain y newidiadau hyn a llywio penderfyniadau. Gan ystyried hyn, gwnaethom ailgynllunio’r arolwg yn gyflym iawn er mwyn inni fedru ei gynnal dros y ffôn. Gwnaethom yr arolwg yn fyrrach, gan ei leihau o 45 i 25 munud, addasu’r rhan fwyaf o’r cwestiynau a oedd yn bodoli eisoes, ac ychwanegu llawer o gwestiynau newydd i geisio deall mwy am yr anawsterau yr oedd pobl yn eu hwynebu.
Mae ymweld â phobl yn eu cartrefi i’w hannog i gymryd rhan fel arfer yn gam hanfodol i sicrhau bod yr arolwg yn un cynrychioliadol (ac nad yw’n unochrog gan gynrychioli’r bobl sydd â mwy o amser, neu sy’n mwynhau gwneud arolygon yn unig!). Felly, gwnaethom benderfynu cynnal yr arolwg ffôn drwy ailgysylltu â phobl a oedd eisoes wedi cymryd rhan yn yr arolwg wyneb yn wyneb.
Ar ôl rhai wythnosau prysur, roedd yr arolwg yn barod eto ar ddiwedd mis Ebrill 2020. Roeddem yn falch ein bod wedi cyflawni hyn, ac roedd yn bosibl o ganlyniad i waith caled ein partneriaid yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n cynnal yr arolwg ar ein rhan. Yn seiliedig ar arolygon tebyg, roeddem yn disgwyl y byddai oddeutu chwarter y bobl y cysylltwyd â nhw yn cymryd rhan, ond mewn gwirionedd cymerodd bron i dri chwarter ohonynt ran yn yr arolwg. Heb amheuaeth roedd hyn yn rhannol oherwydd bod rhai pobl yn llai prysur na’r arfer, ond roedd hefyd yn dangos bod pobl yn deall pam y mae angen gwybodaeth yr arolwg, a’u bod eisiau helpu.
Y newid mawr arall a wnaethom oedd newid pa mor aml rydym yn diweddaru testunau’r arolwg ac yn cyhoeddi’r canlyniadau. O’r blaen roeddem yn gwneud hyn unwaith y flwyddyn yn unig, ond oherwydd bod y sefyllfa’n newid yn gyflym gwnaethom benderfynu addasu’r testunau bob mis a hefyd cyhoeddi’r canlyniadau unwaith y mis. Cyhoeddwyd y canlyniadau cyntaf ym mis Mehefin 2020, ac ers hynny maent wedi cyfrannu at friffiau i’r wasg a phenderfyniadau polisi drwy gydol yr argyfwng.

Wrth i bethau setlo, rydym nawr wedi symud i drefn o ddiweddaru ac adrodd yn chwarterol. Ac o fis Ionawr 2021, rydym wedi dechrau samplu pobl newydd i gymryd rhan yn yr arolwg, yn hytrach na chysylltu ag ymatebwyr blaenorol. Mae’r arolwg yn cael ei gynnal dros y ffôn o hyd ond bydd cyfwelwyr nawr yn ymweld â chyfeiriadau, gan gadw pellter corfforol, i annog pobl i gymryd rhan; golyga hyn bod y gyfradd ymateb yn parhau i fod yn dda, a’r canlyniadau’n gadarn.
Beth am y dyfodol? Mae’r pandemig wedi cyflymu’r gyfradd newid o ran sut y cynhelir arolygon gyda rhai arolygon yn cael eu cynnal dros y ffôn a rhai ar-lein, ac mae llawer o bobl yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o wasanaethau digidol a dulliau cyfathrebu ar-lein. Ac wrth gwrs cynhaliwyd y Cyfrifiad ar-lein yn gyntaf am y tro cyntaf erioed yn ddiweddar. Rydym yn awyddus i wneud defnydd o’r holl wersi a ddysgwyd o hyn gan wneud yn siŵr bod canlyniadau’r arolwg yn gadarn. Felly yn ystod 2021 byddwn hefyd yn arbrofi gydag adran ar-lein i’r arolwg, y bydd pobl yn ei chwblhau eu hunain ar ôl y cyfweliad ffôn, ac yn meddwl am sut i wneud y defnydd gorau o ddulliau ar-lein yn y dyfodol.

Mae llawer mwy o wybodaeth am yr Arolwg Cenedlaethol ar ein tudalennau gwe, neu cysylltwch â ni yn arolygon@llyw.cymru os hoffech wybod mwy.
Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd