Gyda 2022 a lansiad gwasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru yn prysur agosáu, mae’n adeg berffaith i roi gwybod i chi am yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud, sut mae pethau’n mynd a’r hyn rydym wedi’i ddysgu ar hyd y ffordd.

Dechrau arni
Fe wnaeth ein gwaith ddechrau ym mis Mai 2020, yng nghanol pandemig Covid. Yn gyntaf, roedd angen i ni sicrhau bod gennym y bobl iawn gyda’r sgiliau cywir. Yn ffodus, roedd ystod eang o sgiliau eisoes ar gael i ni. Ond fe wnaethom ddod â staff i mewn gyda’r sgiliau technegol arbenigol i ddarparu’r arbenigedd angenrheidiol. Roeddem hefyd yn ffodus i gael secondai o dîm gofal plant Awdurdod Lleol. Roedd eu cyfraniad yn amhrisiadwy gan eu bod yn cynnig llawer iawn o arbenigedd gweithredol a sectoraidd ac yn ‘lais’ ar gyfer y timau a fydd yn darparu’r Cynnig drwy’r gwasanaeth newydd.
Cydweithio
Roeddem yn gwybod na fyddem yn gallu darparu Cynnig Gofal Plant Cymru heb weithio’n agos ag Awdurdodau Lleol a’r sector gofal plant. Mae’r un peth yn wir am ddarparu’r gwasanaeth digidol. Byddai ond yn gallu cael ei weithredu drwy gydweithio a chyd-gynhyrchu gyda’n partneriaid, a’r ddeialog onest ac agored barhaus a gafwyd ers dechrau’r Cynnig Gofal Plant.
Dyna pam rydym wedi cynnwys timau Awdurdodau Lleol, darparwyr gofal plant, rhieni a defnyddwyr allweddol eraill y gwasanaeth ym mhob cam o’r broses ddylunio a darparu. Drwy ddatblygu a chynnal y perthnasoedd hyn rydym wedi gallu ehangu ein gwybodaeth a sicrhau ein bod yn deall anghenion a disgwyliadau’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn llawn.

Yn wir, efallai eich bod wedi gweld trydariad gan ein Prif Swyddog Digidol yn ddiweddar, a fynychodd un o’n sesiynau Dangos a Dweud, yn cydnabod cyfraniad ein partneriaid a rhieni.
Cadw’r ffocws
Roeddem am fod yn glir iawn o’r dechrau pam ein bod yn gwneud y newid hwn i’n gwasanaeth digidol, a sicrhau bod y manteision rydym yn ceisio eu cyflawni yn parhau i fod yn ganolog. I’n helpu i gofio beth oedd y rhain, datblygwyd y mnemonig:
Cynaliadwyedd | Gan ein bod yn disgwyl i fwy o bobl ddefnyddio’r gwasanaeth, mae angen i ni symleiddio prosesau i’w wneud yn fwy cynaliadwy. |
Arbenigedd | Rydym hefyd am helpu i ddatblygu arbenigedd yn y prosesau mwy cymhleth megis asesu cymhwystra rhieni. |
Cysondeb | Rydym am ddarparu gwasanaeth mwy cyson i’n defnyddwyr, ni waeth ble maent wedi’u lleoli. |
Cydymffurfedd | Bydd angen i’r gwasanaeth gydymffurfio yn llawn o ran Diogelu Data, Hygyrchedd a Safonau’r Gymraeg. |
Hygyrchedd | Bydd angen iddo hefyd fod yn hygyrch drwy fod ar gael drwy amrywiaeth o ddyfeisiau, megis ffonau symudol, tabledi a gliniaduron. |
Heriau a chyfleoedd
Yr eliffant yn yr ystafell, drwy gydol hyn oll, fu’r pandemig byd-eang. Bu’n rhaid dargyfeirio adnoddau o’r prosiect hwn, ac o bobman arall hefyd! Dechreuodd ein gwaith yn union fel yr oedd y pandemig byd-eang yn taro ac nid oedd unrhyw syniad gennym bryd hynny y byddai’r effaith fyd-eang mor ddifrifol. Yn ddealladwy, fe gollwyd adnoddau ar adegau ac fe effeithiodd hefyd ar ba mor gyflym yr oeddem yn gallu cael y bobl â’r sgiliau cywir i sicrhau bod yn gallu cyflawni’n gyflym.
Er bod y pandemig wedi cyflwyno heriau o ran ymgysylltu ag eraill yn ystod y prosiect, fe wnaeth hefyd roi cyfleoedd i ni. Mae’n amlwg nad oedd ymgysylltu wyneb yn wyneb yn opsiwn, ond gwelsom fod gweithdai a chyfarfodydd rhithiol yn gweithio’n dda. Maent yn gyfleus, yn gost effeithiol ac yn gynhwysol, gan nad oes angen teithio iddynt. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw gyfarfod mawr, mae’n bwysig sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed ac nid y rhai uchaf yn unig. Gwelsom fod ystafelloedd trafod wedi helpu’n aruthrol wrth ddelio â hyn am eu bod yn caniatáu mwy o le i bawb gyfrannu, gan helpu i sicrhau bod ystod ehangach o syniadau a safbwyntiau’n cael eu clywed.
Er bod gennym ddealltwriaeth dda o’r hyn yr oedd ei angen ar ein defnyddwyr a’n partneriaid, nid oedd gennym gysylltiadau sefydledig ac uniongyrchol â phob un ohonynt. Roedd hyn yn heriol yng nghyd-destun y pandemig a’r cynnydd mewn llwyth gwaith, yn enwedig o ystyried cyflymder y prosiect. Un ffordd o oresgyn hyn oedd drwy weithio gyda’n partneriaid Awdurdod Lleol, gan ofyn i rieni a darparwyr fod yn rhan o’n hymchwil gyda defnyddwyr. Fel rhan o hyn, fe wnaethom wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys defnyddwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, a defnyddio asiantaeth arbenigol i’n helpu ni hefyd.
Dysgu ar hyd y ffordd
Rydym wedi ymroi i ddysgu drwy gydol holl gamau’r prosiect hwn. Rydym wedi oedi a myfyrio’n rheolaidd ar yr hyn sydd wedi digwydd ac mae’n deg dweud ei fod wedi teimlo fel taith cythryblus ar adegau.

Rydym yn sicr wedi dysgu llawer wrth wneud y prosiect ond rydym hefyd wedi achub ar gyfleoedd. Rydym yn gweithio gyda chontractwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, ac mae gweithio o bell yn ddiofyn wedi ein helpu i ymgysylltu’n effeithiol â nhw.
O ddechrau eto, a fyddem yn gwneud pethau’n wahanol? Wrth edrych yn ôl, byddem. A phe bai gennym un darn o gyngor i’w roi? Cyn i chi gychwyn ar daith trawsnewid digidol, archwiliwch yr holl senarios posibl yn llawn – efallai bod rhai’n ymddangos yn annhebygol ond fe allent gael eu gwireddu.
Beth sydd nesaf?
Bydd y platfform digidol a’r gwasanaeth cymorth newydd ar waith yn gynnar y flwyddyn nesaf, a bydd hyn yn ein galluogi i fynd i’r cam Beta Preifat (treial cyfyngedig gyda nifer penodol o ddefnyddwyr). Byddwn hefyd yn lansio ein hymgyrch gyfathrebu ymhlith rhieni o wanwyn 2022 yn barod i’r gwasanaeth newydd agor ar gyfer ceisiadau ym mis Gorffennaf 2022.
Yn amlwg, mae gennym lawer i’w wneud cyn hynny a llawer ar ôl i’w ddysgu rwy’n siŵr, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau!