Pa ganran o bobl dros 80 oed sydd wedi cael eu brechu rhag COVID-19 yng Nghymru? Faint o bobl ifanc 30 i 39 oed sydd heb dderbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19 yng Nghymru? Gellir ateb y cwestiynau hyn a chwestiynau tebyg mewn gwahanol ffyrdd.

Rhoddwyd sylw mawr i lwyddiant yr ymgyrch frechu hyd yma, ond gwyddom fod gwaith i’w wneud o hyd i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael eu diogelu. Dyna pam y mae’n bwysig deall sut y bydd ffigurau brechu’n cael eu cyfrifo gan fod gwahanol ddulliau y gellid eu defnyddio.
Mae’r prif ffigurau cenedlaethol a ddefnyddir ar gyfer niferoedd sydd wedi’u brechu yn cael eu cyfrifo ar yr un sail ar gyfer y DU ag ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, a’r Alban. Fodd bynnag, gall y ffordd y cyfrifir y nifer sy’n manteisio ar y brechlyn mewn grwpiau oedran a grwpiau agored i niwed amrywio rhwng y pedair gwlad. Mae hyn yn golygu y dylid bod yn ofalus wrth edrych ar y ffigurau hyn a’u cymharu ar draws y cenhedloedd. Yn aml ni fydd y ffigurau ar yr un sail ac felly ni ddylid eu cymharu. Yn y blog hwn byddaf yn esbonio’r dull a ddefnyddiwn yng Nghymru a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar y ffigurau.
Sut y mae ffigurau brechu’n cael eu cyfrifo yng Nghymru?
Fel y trafodwyd mewn blog blaenorol, yng Nghymru daw’r data brechu o System Imiwneiddio Cymru (WIS), system newydd a ddatblygwyd i reoli’r gwaith o ddarparu brechlynnau COVID-19. Mae’r data yn System Imiwneiddio Cymru yn seiliedig ar gofnodion meddygon teulu, ond mae ganddo hefyd y gallu i gynnwys pobl nad ydynt efallai wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu, sy’n bwysig o ran gwella mynediad teg at frechlynnau.
Mae System Imiwneiddio Cymru yn defnyddio cofnodion meddygon teulu gan eu bod yn darparu manylion ar lefel unigol, er mwyn i’r gwasanaethau iechyd wybod pwy sydd wedi cael y brechlyn a phwy sydd heb ei gael, pwy y mae angen iddynt eu gwahodd a phwy y maent yn disgwyl eu gweld am eu hail bigiad.
Ffigurau poblogaeth System Imiwneiddio Cymru yw’r hyn y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei ddefnyddio i gyfrifo canran y bobl sydd wedi cael eu brechu mewn gwahanol grwpiau oedran. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi’r data hwn bob dydd ar y dangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym. Mae hyn yn wahanol i’r dull a ddefnyddir ar gyfer y ffigurau cenedlaethol ar gyfer pob gwlad yn y DU sy’n cael eu cyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Felly pam ydyn ni’n defnyddio cofnodion meddygon teulu o System Imiwneiddio Cymru wrth edrych ar grwpiau oedran neu grwpiau agored i niwed? Mae nifer o resymau.
- Rydym yn defnyddio’r un ffynhonnell ar gyfer nifer y bobl sydd wedi cael eu brechu a nifer y bobl y mae angen i fyrddau iechyd eu gwahodd i gael eu brechu. Mae hyn yn helpu i dargedu gweithgarwch brechu ac yn annog mwy o bobl i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.
- Mae defnyddio data cofnodion meddygon teulu yn ein galluogi i gydgasglu’r data ar lefel unigolyn neu bractis hyd at ardal ddaearyddol fwy, fel byrddau iechyd lleol.
- Gall fod yn fwy cyfredol ar gyfer grwpiau oedran hŷn a charfanau agored i niwed gan fod y grwpiau hyn yn fwy tebygol o gysylltu’n rheolaidd â gwasanaethau’r GIG. Y grwpiau hyn oedd canolbwynt cychwynnol yr ymgyrch frechu.
- Caiff cofnodion meddygon teulu eu diweddaru’n barhaus ac mae hyn yn cyfrannu at System Imiwneiddio Cymru er mwyn adlewyrchu newidiadau amser real yn y boblogaeth.
- Dyma’r dull safonol a ddefnyddir i asesu’r ddarpariaeth ar gyfer rhaglenni brechu eraill ar gyfer plant ac oedolion.
Beth yw’r dewis arall?
Y dull arall, ac eithrio defnyddio cofnodion meddygon teulu o System Imiwneiddio Cymru, fyddai defnyddio amcangyfrifon poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol o nifer y bobl ym mhob grŵp oedran. Dyma’r amcangyfrifon swyddogol o faint y boblogaeth, yn seiliedig ar y ffynonellau data gorau sydd ar gael. Ond mae’r SYG yn pwysleisio mai amcangyfrifon ydynt, acnid cyfrif manwl. Mae’r SYG yn rhoi esboniad gwych o gryfderau a chyfyngiadau’r amcangyfrifon ar eu gwefan.
Os cymharwn ddata o gofnodion meddygon teulu ac amcangyfrifon SYG, gallwch weld fod y gwahaniaeth o ran maint y grwpiau yn amrywio, gyda gwahaniaethau llai yn y grwpiau oedran hŷn a gwahaniaethau mwy yn rhai o’r grwpiau iau.

Nid yw’r naill fesur na’r llall yn gywir nac yn anghywir, ac mae gan bob dull ei gryfderau a’i gyfyngiadau. Er enghraifft, efallai na fydd cofrestrau meddygon teulu yn cipio nifer y bobl mewn rhai grwpiau yn gywir, a all ddigwydd yn amlach mewn grwpiau oedran iau wrth i bobl symud o ardal i ardal i weithio neu i astudio heb gofrestru ar unwaith gyda meddyg teulu newydd (neu ddatgofrestru o’u meddyg teulu blaenorol). Mae hyn yn golygu, wrth edrych ar rai grwpiau oedran, er enghraifft y grŵp 30-39 oed, fod cofnodion System Imiwneiddio Cymru yn debygol o gynnwys mwy o bobl nag sydd bellach yn byw yn yr ardal honno.
Ar y llaw arall, mae ffigurau poblogaeth amcangyfrif canol blwyddyn diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ymdrin â’r flwyddyn 2020. Dyma’r amcangyfrifon poblogaeth cyntaf i gynnwys effeithiau’r pandemig. Fodd bynnag, mae’r amcangyfrifon hyn yn cyfeirio at y boblogaeth ar 30 Mehefin 2020, sy’n golygu mai dim ond tri mis cyntaf y pandemig y maent yn ei ystyried, felly efallai na fyddant yn cipio’r newidiadau diweddaraf yn y boblogaeth. Fe’u cynhyrchir gan ymarfer blynyddol sy’n adeiladu ar ffigurau’r flwyddyn flaenorol. Mae’r broses flynyddol hon wedi bod yn adeiladu o flwyddyn i flwyddyn ar y ffigurau a gynhyrchwyd drwy Gyfrifiad 2011, yn ogystal ag ystod o ffynonellau eraill, gan gynnwys cofrestrau meddygon teulu, i gyfrif am enedigaethau, marwolaethau a mudo bob blwyddyn. Bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 allan y flwyddyn nesaf, felly rydym bellach mor bell i ffwrdd o Gyfrifiad 2011 ag y gallwn fod cyn bod data cyfrifiad newydd ar gael – a fydd yn effeithio ar amcangyfrifon poblogaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y dulliau a ddefnyddir i gyfrifo amcangyfrifon canol blwyddyn poblogaeth Cymru ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Sut mae’r ddau ddull yn cymharu?
Gallwn edrych ar sut y byddai’r ffigurau brechu yn newid pe baem yn defnyddio’r ddau ffigur poblogaeth gwahanol – cofnodion System Imiwneiddio Cymru ac amcangyfrifon poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r siart uchod yn defnyddio’r cyfraddau brechu dos cyntaf, a gwelir patrwm tebyg ar gyfer canrannau’r ail ddos. Byddai defnyddio amcangyfrifon SYG yn arwain at ostyngiad bach yn y ganran sy’n manteisio ar y brechlyn mewn grwpiau oedran penodol, gan gynnwys y rhai 80+ oed. Fodd bynnag, byddai cynnydd mawr yn rhai o’r carfanau eraill gan gynnwys y rhai 30-39 oed a 40-49 oed. Mae’r gwahaniaethau hyn yn debygol o fod yn effaith gyfunol o amcangyfrifon poblogaeth nad ydynt o bosibl yn adlewyrchu newidiadau diweddar yn y boblogaeth a bod data cofrestru’r GIG wedi chwyddo oherwydd nad yw unigolion yn rhoi gwybod i’w meddyg teulu pan fyddant yn symud i ffwrdd.
Mae’r gwahaniaeth yn y dulliau a ddefnyddir ar draws pedair gwlad y DU yn golygu nad oes modd cymharu nifer y bobl sy’n manteisio ar y brechlyn mewn grwpiau oedran. Er ein bod yn cydnabod nad yw’r dull gweithredu hwn yn berffaith, mae’r dull a ddefnyddir yng Nghymru yn fwy addas ar gyfer y grwpiau mwyaf agored i niwed, yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd ac hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mesur cwmpas brechlynnau eraill.
Gan ddefnyddio’r grwpiau yn seiliedig ar gofnodion meddygon teulu ar gyfer grwpiau oedran a grwpiau mwy agored i niwed, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu diweddariadau dyddiol yn adran frechu dangosfwrdd gwyliadwriaeth COVID-19. Maent hefyd yn darparu ffigurau ar lefel y Bwrdd Iechyd ac adroddiadau gwyliadwriaeth sy’n cynnwys gwybodaeth am degwch y ddarpariaeth rhwng grwpiau ethnig a lefel amddifadedd economaidd-gymdeithasol.
E-bost kas.covid19@llyw.cymru
Os ydych am ddiweddaru eich cofnod GIG fel eich bod wedi’ch cofrestru’n gywir, cofrestrwch gyda’ch meddyg teulu lleol.
Os oes angen gwybodaeth arnoch am gael mynediad i’r brechiad COVID-19 yng Nghymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd