Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Rydym wedi ail-agor ein hymarfer recriwtio ar gyfer dadansoddwyr Seiberddiogelwch i’n helpu i wella ein capasiti yn y maes hwn. Dyddiad cau Hydref 1 2021.
Gweler yr hysbysiadau yn y dolenni isod.
Uwch dadansoddwr Seiberddiogelwch
Gwyddom fod y bygythiad i lywodraeth o ymosodiadau seiber wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf ac nad yw’n diflannu. Dyna pam rydym am gynyddu ein gwaith monitro a’n gallu rhagweithiol i ymateb yn y maes hwn, drwy adeiladu i fyny ein tîm o seiber-arbenigwyr. Mae’n gyfle gwych i weithio yng nghanol Lywodraeth Cymru a helpu i sicrhau bod gennym systemau mwy diogel a gwydn i gefnogi’r gwasanaethau a ddarparwn i ddinasyddion.
Rydym am ddefnyddio’r cyfle hon i ddefnyddio dull gwahanol o recriwtio. Os ydych eisiau rhoi cais i mewn ac yn ystyried eich bod hefo’r profiad a sgiliau priodol, dim ond CV sydd yn rhoi’r dystiolaeth am eich profiad a sgiliau ar gyfer y swyddi sydd ei hangen.
Os ydych eisiau clywed fwy am waith y tim, neu i drafod gyda rhywun am y swyddi, cysylltwch â ni at ddat@llyw.cymru