Wythnos UX – Rhoi profiad defnyddwyr yn y sbotolau

Read this page in English

Ym mis Gorffennaf 2021 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ei Wythnos UX gyntaf, wythnos o ddigwyddiadau ar bynciau profiad defnyddwyr a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.  Rydyn ni’n gwybod beth rydych chi’n ei feddwl – beth yw profiad defnyddwyr a pham oeddech chi eisiau cynnal digwyddiad wythnos o hyd arno? Gwnaethon ni holi Azul De Pol, sy’n rhan o’n cymuned UX yn Llywodraeth Cymru, i ysgrifennu blog i ddweud mwy wrthon ni…

Beth yw profiad defnyddwyr (UX)?

Ydych chi erioed wedi teimlo’n rhwystredig pan rych chi ar wefan ac yn methu ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch, pan nad oes gan wasanaeth ffôn awtomataidd yr opsiwn sydd ei angen arnoch neu os na allwch ddefnyddio gwasanaeth gan nad yw’n hygyrch i chi? Os mai ydw yw eich ateb, yna nid chi yw’r unig un, a dweud y gwir, mae’n debyg ein bod ni i gyd wedi profi dyluniad gwasanaeth gwael rywbryd.

Felly, beth yw’r ateb? Wel mae’n eithaf syml mewn gwirionedd, mae angen i ni gynnwys defnyddwyr (y bobl a fydd yn defnyddio’r gwasanaeth, y cynnyrch ac ati) yn y broses ddylunio. Synnwyr cyffredin pan fyddwch yn meddwl amdano a’r newyddion da yw bod y dull hwn, a elwir fel arall yn ddylunio Profiad Defnyddwyr (UX), wedi gweld llawer o ddatblygiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Pam cynnal Wythnos UX?

Fel sefydliadau eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn awyddus i ganolbwyntio’n wirioneddol ar yr hyn sydd ei angen ar ein defnyddwyr wrth ddatblygu gwahanol wasanaethau a chynhyrchion. Er bod yn faes rydym wedi ymchwilio llai iddo, tan yn ddiweddar, mae mabwysiadu dulliau ac egwyddorion Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr (UCD) i wella’r ffordd rydym yn datblygu polisïau newydd – bellach yn ganolog i’n Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Dyna lle daeth y syniad o ‘Wythnos UX Week 2021’. Wythnos o ddigwyddiadau, gan roi cyfle i staff ddysgu’n uniongyrchol gan arbenigwyr yn y maes sut i ddefnyddio dulliau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Yn y pen draw, roeddem am:

  • godi proffil a dealltwriaeth UX o fewn Llywodraeth Cymru
  • feithrin rhai cysylltiadau, a
  • ddysgu gan sefydliadau eraill sydd o’n blaenau ni ar y daith

Beth ddysgon ni yn ystod Wythnos UX?

Yn amlwg, mae’n anodd nodi dim ond un prif peth am yr wythnos, felly yn hytrach dyma rai o’r pethau allweddol a ddysgon ni ar hyd y ffordd:

  • Mae arsylwi’n allweddol – yn aml gall yr hyn y mae pobl yn ei ddweud a’r hyn y mae pobl yn ei wneud fod yn ddau beth gwahanol. Ac i ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio neu ddim yn gweithio, i rywun, mae angen i ni wybod beth maen nhw’n ei wneud mewn gwirionedd.
  • Peidiwch â gwneud rhagdybiaethau – mae’r ffaith bod pobl yn byw mewn gwahanol ardaloedd, dim o reidrwydd yn golygu nad yw eu hanghenion yr un fath.
  • Nid yw pobl yn anodd eu cyrraedd – mae’n fwy tebygol nad ydych wedi dod o hyd i ffordd i wrando arnynt.
  • Mae llwyddiant yn dibynnu ar bopeth yn cyd-gweithio – mae’n bwysig creu ecosystem o wasanaethau, yn hytrach na chymhwyso dyluniad gwasanaeth i’r gwasanaethau sydd gennych eisoes
  • Dwyieithog yn ddiofyn – creu teithiau di-ffrithiant i siaradwyr Cymraeg drwy ddylunio’n ddwyieithog yn ddiofyn yn hytrach na gwario mwy o arian yn ail-ddylunio yn ddiweddarach.
  • Mae symlrwydd yn allweddol – mae pawb, waeth pa iaith maen nhw’n ei defnyddio, eisiau taith iaith glir, heb jargon.
  • Peidiwch ag anghofio moeseg mewn Ymchwil Defnyddwyr (UR) – mae UR da yn cynnal hawliau, urddas a lles y cyfranogwyr.
  • Gall ei defnyddio ar y cyd arwain at fanteision eraill – gall gyfuno profion defnyddwyr â phrofion gwybyddol wella dyluniad yr arolwg a all arwain at gyfraddau ymateb gwell ac ansawdd data.
  • Dim cyfyngiadau ar lwyddiant – gellir cyflawni canlyniadau ystyrlon i’r bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, waeth beth fo’r math o bolisi.
  • Empathi a thosturi – rydym i gyd yn bobl sy’n delio â phobl. Gweithredu gyda charedigrwydd yn gyntaf yw’r hyn sy’n clymu’r cyfan gyda’i gilydd, ac mae defnyddio UCD fel dull yn wych i fagu perthynas.

Fydden ni ddim wedi gallu ei wneud heb rywfaint o help….

Aeth ein hwythnos UX gyntaf erioed yn eithaf da, hyd yn oed os ydym yn dweud hynny ein hunain! Mae’r adborth gan fynychwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac rydym wedi cynyddu ein gwybodaeth am sut y gallwn ddefnyddio Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr yn well.  Ni fyddai’r wythnos wedi bod yn bosibl, nac yn gymaint o lwyddiant, heb i’r holl arbenigwyr o bob rhan o sector cyhoeddus y DU yn arwain y sesiynau, felly hoffem ddweud diolch yn fawr iawn iddynt!

Beth sydd nesaf?

Un o fanteision mwyaf yr wythnos oedd y cyfle i rannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill a datblygu, beth rwy’n siŵr fydd, cysylltiadau defnyddiol wrth i ni barhau â’n taith UX.

Er ein bod ni, fel sefydliad, eisoes yn gwneud gwaith da iawn yn y maes hwn, mae mwy i ni ei dysgu o hyd, yn enwedig ar ochr datblygu polisi. Dyna pam mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddysgu ac yn parhau i ymgorffori UX yn ein gwaith bob dydd.

Felly, os ydych yn gweithio yn y maes hwn ac os hoffech ein helpu i barhau i ddatblygu, yna anfonwch e-bost atom yn EngagementSpace@gov.wales.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s