Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: cynlluniau ar gyfer ystadegau ar yr economi a’r farchnad lafur

Read this page in English

Yn gynnar yn ystod pandemig COVID-19, roedd llif ddi-dor o gwestiynau manwl am gyfansoddiad yr economi a’r farchnad lafur yng Nghymru yn codi.

Faint o weithwyr hanfodol sydd yng Nghymru? Faint o’r gweithwyr hanfodol hyn sydd â phlant? Faint o bobl sy’n cael eu cyflogi mewn diwydiannau a fyddai’n cael eu cau o dan gyfyngiadau? Pa grwpiau gwarchodedig a allai ddioddef effeithiau anghymesur? Gwnaeth hyn inni edrych yn fanylach ar y data mae gennyn ni fynediad ato a’n hannog ni i’w ddefnyddio mewn modd mwy effeithiol. Yn dilyn hyn, hoffen ni glywed eich adborth ynghylch yr hyn mae defnyddwyr ei eisiau fwyaf o’n hystadegau ar yr economi a’r farchnad lafur.

Beth sydd ei angen ar ein defnyddwyr?

Tan yn ddiweddar, rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio’n bennaf ar ddarparu data cryno ar lefel uchel ar gyfer Cymru ar draws amrywiaeth eang o allbynnau. Ond rydyn ni’n gwybod, mewn nifer o achosion, fod ychwanegu rhagor o fanylion a dealltwriaeth ac iddi ragor o ffocws o bynciau mwy penodol yn llawer mwy defnyddiol. A yw dadansoddiadau o’r fath yn diwallu eich anghenion yn well? Mae’r blog hwn yn nodi rhai awgrymiadau, a bydden ni’n ddiolchgar pe bai defnyddwyr yn gallu rhoi eu hadborth drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ddiwedd y blog hwn.

Sut rydyn ni’n gweithio ar hyn o bryd

Rydyn ni’n cyhoeddi nifer fawr o ddatganiadau ystadegol sy’n ymwneud â’r economi a’r farchnad lafur yng Nghymru fel mater o drefn. Mae hyn yn cynnwys allbynnau fel dangosyddion misol y farchnad lafur, amcangyfrifon chwarterol o ddangosyddion allbynnau tymor byr, ac amcangyfrifon blynyddol o incwm gwario gros aelwydydd.

Rydyn ni’n defnyddio amrediad eang o ffynonellau data ar gyfer yr allbynnau hyn, gan gynnwys arolygon samplu fel yr Arolwg o’r Llafurlu, yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Fel y dangosodd y 18 mis diwethaf, mae’r arolygon hyn yn cynnig y cyfle ar gyfer ddadansoddiadau ychwanegol i fodloni gofynion defnyddwyr wrth iddyn nhw newid yng ngoleuni pandemig y coronafeirws (COVID-19) ac ymadael â’r UE, ymhlith pethau eraill.

O ganlyniad i hyn, rydyn ni wedi bod yn adolygu’r set o allbynnau rydyn ni’n eu cynhyrchu ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n cynnig gwneud rhai newidiadau a fydd, gobeithio, yn sicrhau bod ein hystadegau’n diwallu anghenion defnyddwyr yn well.

Newidiadau rydyn ni eisoes wedi’u gwneud

Rydyn ni bellach yn cyhoeddi Trosolwg misol o’r Farchnad Lafur (Ystadegau Economaidd Allweddol gynt). Cyn pandemig COVID-19, rhoddodd y cyhoeddiad hwn drosolwg o’r economi ehangach. Fodd bynnag, mae bellach yn canolbwyntio ar y farchnad lafur yn unig. Gwnaed y newid hwn mewn ymateb i ragor o ddiddordeb yn y farchnad lafur a’r angen i ddeall effaith y pandemig. Mae ffynonellau data eraill fel Gwybodaeth Amser Real am Dalu Wrth Ennill gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi  bellach wedi’u cynnwys hefyd, yn ogystal ag amcangyfrifon o faint o swyddi oedd ar ffyrlo o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws.

Newidiadau arfaethedig

Mae nifer o bethau rydym yn ystyried eu gwneud yn y dyfodol yr hoffem gael eich barn arnynt.

Cynnig 1: Datganiad newydd ar nodweddion gwarchodedig yn y farchnad lafur

Rydyn ni wedi nodi bwlch yn ein hallbynnau ystadegol o ran nodweddion gwarchodedig yn y farchnad lafur. Er ein bod yn cyhoeddi data ar StatsCymru yn ôl ethnigrwydd a statws anabl, nid yw’r ffigurau hyn yn cael eu trafod yn fanwl yn ein hallbynnau presennol, sy’n rhywbeth rydyn ni’n gwybod yr hoffai defnyddwyr ei weld.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ddatblygu dadansoddiadau manylach a fydd yn archwilio tueddiadau gwahanol grwpiau yn y farchnad lafur yng Nghymru, a sut mae’r tueddiadau hyn yn cymharu dros amser, ac â grwpiau eraill. Bydd y dadansoddiad cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar 16 Rhagfyr. Rydyn ni’n bwriadu i hyn fod yn fan cychwyn ar gyfer dadansoddiadau rheolaidd a manylach dros amser. 

Er mwyn ateb y galw am y dadansoddiadau hyn, mae angen inni greu’r capasiti ar gyfer gwneud hynny. Rydyn ni’n cynnig atal rhai datganiadau eraill y mae’r defnydd ohonyn nhw, yn ein barn ni, yn gyfyngedig.

Cynnig 2: Proffiliau rhanbarthol yr economi a’r farchnad lafur 

Yn flaenorol roedden ni’n cyhoeddi datganiad compendiwm chwarterol ar broffiliau rhanbarthol yr economi a’r farchnad lafur. Roedd y datganiad hwn yn ymdrin â phynciau amrywiol yn ymwneud â’r economi a’r farchnad lafur ar draws rhanbarthau economaidd Cymru. Gwnaethon ni atal y datganiad hwn oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau yn gynnar yn ystod y pandemig, ac ers hynny rydyn ni wedi adolygu’r ffordd mae’r datganiad hwn yn cael ei ddefnyddio. Cyhoeddir yr holl ddata sylfaenol a gynhwysir yn y proffiliau rhanbarthol ar StatsCymru. Rydyn ni’n bwriadu datblygu’r elfen ranbarthol o Ddangosfwrdd Economi Cymru mewn Rhifau ymhellach a rhoi’r gorau i’r datganiad PDF ar broffiliau rhanbarthol, gan ein bod yn credu y bydd gwneud hyn yn diwallu anghenion defnyddwyr yn well ac mewn ffordd fwy effeithiol.

Cynnig 3: Rhoi’r gorau i gyhoeddi ystadegau Cyflogaeth yn y Gweithle

Rydyn ni’n bwriadu rhoi’r gorau i’n hamcangyfrifon o gyflogaeth yn y gweithle (neu gyfanswm swyddi). Mae ffynonellau eraill sy’n darparu amcangyfrifon o swyddi ar gyfer Cymru, gan gynnwys Arolwg y Gofrestr Busnes a Chyflogaeth (BRES), sef ffynhonnell swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer swyddi ac amcangyfrifon cyflogaeth manwl yn ôl ardal a diwydiant.

Mae swyddi yn y gweithlu’n fesur chwarterol o swyddi, a dyma’r mesur a ffefrir ar gyfer newidiadau tymor byr i gyflogaeth yn ôl diwydiant, ac mae data ar gael yn rhwydd drwy NOMIS.

Gwnaethon ni gynhyrchu ffigurau cyflogaeth yn y gweithle am y tro cyntaf yn 2002, a dyna oedd yr unig amcangyfrif swyddogol o gyfanswm y swyddi yng Nghymru yn ôl ddiwydiant. Newidiodd hyn ym mis Gorffennaf 2010 pan ddechreuodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi amcangyfrifon gwell o swyddi yn y gweithlu. Ers 2015, mae cymariaethau dros amser bellach ar gael drwy BRES.

Cynnig 4: Rhoi’r gorau i gyhoeddi ystadegau marchnad lafur yn ôl aelwyd

Mae’r data a gyhoeddir gennyn ni yn ein hystadegau marchnad lafur ar gyfer aelwydydd ar gael drwy allbynnau eraill ar hyn o bryd, felly rydyn ni hefyd yn bwriadu rhoi’r gorau i’r cyhoeddiad hwn. Cyhoeddir aelwydydd di-waith fesul rhanbarth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac mae data ar stoc annedd yn ôl deiliadaeth ar gael yn amcangyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru o stoc anheddau.

Cynnig 5: Adolygiad o ddangosyddion allbwn tymor byr

Mewn blog blaenorol, esboniwyd y bydden ni’n adolygu a oes angen parhau i gyhoeddi ein Dangosyddion Allbynnau Tymor Byr yng ngoleuni ystadegau chwarterol ar Gynnyrch Domestig Gros rhanbarthol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a’r amcangyfrifon newydd o Werth Ychwanegol Gros sy’n seiliedig ar y model newydd. Gan fod y ddau gynnyrch hyn bellach wedi’u sefydlu’n well, rydyn ni’n parhau â’r adolygiad hwn a hoffen ni glywed adborth gan ddefnyddwyr ynghylch a yw’r amcangyfrifon chwarterol o Gynnyrch Domestig Gros a’r amcangyfrifon o Werth Ychwanegol Gros sy’n seiliedig ar y model newydd yn diwallu’n ddigonol anghenion defnyddwyr. 

Cynnig 6: Datganiadau am 12:30pm

Rydym yn cyhoeddi nifer o ddatganiadau am 12:30pm yn dilyn cyhoeddiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol am 9.30am. Mae hyn yn ein galluogi i ddadansoddi tueddiadau penodol ar gyfer Cymru, a gwneud data am Gymru yn fwy hygyrch ar gyfer defnyddwyr Cymru.

Fodd bynnag, mae cyhoeddi ychydig o oriau’n unig ar ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr amser sydd gennyn ni i ddadansoddi’r data’n drylwyr a sicrhau bod ein ffeithiau’n gywir yn gyfyngedig iawn. Ar hyn o bryd rydyn ni’n adolygu’r set o allbynnau rydyn ni’n eu cyhoeddi am 12.30pm, ac yn cynnig eu symud i 9.30am y diwrnod wedyn neu eu hatal yn gyfan gwbl.

Dyma’r datganiadau rydyn ni’n eu cyhoeddi ar hyn o bryd am 12.30pm yn dilyn cyhoeddiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol am 9:30am:

Hoffen ni glywed eich adborth ynghylch yr angen ar ddefnyddwyr am y datganiadau penodol i Gymru hyn, yn ogystal â phrif gyhoeddiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Eich adborth

Mae anghenion defnyddwyr bob amser yn ganolog i’r penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud ynghylch yr hyn rydyn ni’n ei gyhoeddi, a’r adborth rydyn ni wedi’i dderbyn hyd yma sydd y tu ôl i’r newidiadau arfaethedig a drafodir yn y blog hwn.

Rydyn ni wir eisiau clywed eich barn am y syniadau hyn fel y gallwn ni barhau i ddarparu’r ystadegau a’r dadansoddiadau sydd bwysicaf i chi. Rhowch wybod inni am eich syniadau drwy gysylltu â ni yn ystadegau.economi@llyw.cymru erbyn 17 Rhagfyr. Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r blog hwn i roi gwybod ichi ynghylch sut mae ein cynlluniau’n datblygu.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd