Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Cymru, ynghyd â gwledydd eraill y DU, nad oes rhaid ichi gymryd prawf PCR dilynol bellach, os cewch ganlyniad positif i brawf llif unffordd. Mae’r math hwn o newid i bolisi’n gallu cael effaith ar ddata COVID-19. Mae’r blog hwn yn anelu at esbonio’r newidiadau hyn ac yn rhoi cyngor ar ddehongli data dros y diwrnodau a’r wythnosau i ddod.
Sut mae achosion COVID-19 yn cael eu cyfrifo yng Nghymru?
Mae dwy brif ffordd o gael eich profi am COVID-19. Os nad oes gennych symptomau, gallwch ddefnyddio’r profion llif unffordd cyflym y mae llawer ohonom yn eu defnyddio gartref ac, os oes gennych symptomau, trwy drefnu cymryd prawf PCR mewn canolfan brofi, ac mae’r samplau wedyn yn cael eu dadansoddi mewn labordy.
Bob dydd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cyhoeddi’r nifer o achosion COVID-19 newydd sydd wedi’u nodi trwy brofi. Seilir y ffigurau hyn ar ganlyniadau o brofion PCR yn unig. Mae’r data hwn yn ein helpu i ddeall lefelau heintio presennol yng Nghymru a monitro sut y mae hyn yn newid dros amser.

Ochr yn ochr â’r canlyniadau beunyddiol o brofion PCR , mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi adroddiad wythnosol am brofion llif unffordd. Nid yw canlyniadau pob prawf llif unffordd yn cael eu cofrestru ar wefan gov.uk ond yn achos y rhai sy’n cael eu cyhoeddi, darperir gwybodaeth am nifer y profion a gofnodwyd a faint oedd yn bositif, yn ogystal â dadansoddiadau yn ôl oedran, rhyw ac awdurdod lleol.
Nid yw profion llif unffordd positif yn cael eu cynnwys yn mhrif ffigurau achosion COVID-19 ar gyfer Cymru. Nid ydynt yn cael eu cynnwys yn ffigurau’r achosion ond lle y cafwyd prawf PCR positif dilynol.
Effaith newidiadau polisi ar ddata.
Mae’r newidiadau polisi a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn golygu na fydd pobl bellach yn cael prawf PCR mewn rhai amgylchiadau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n amcangyfrif bod hyn yn debygol o leihau rhyw 10% ar y nifer cyffredinol o achosion yr adroddir arnynt. Seilir hyn ar ddadansoddiad o dueddiadau diweddar yn cysylltu profion llif unffordd â phrofion PCR positif.
Cyflwynwyd y newid yn y polisi ar 6 Ionawr felly bydd hyn yn dechrau effeithio ar ddata a gesglir tua’r pwynt hwnnw ymlaen. Mae’n annhebygol y bydd toriad pendant yn y data, felly bydd cyfnod o amser pan fydd angen bod yn ofalus iawn wrth edrych ar dueddiadau.
Er enghraifft, yn y tymor byr, gallai ymddangos bod ffigurau’n gostwng ond efallai na fydd hynny’n wir o reidrwydd. Dros amser, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n disgwyl i sefydlogrwydd y ffigurau achosion wella.
Felly, sut y gallwn wybod beth sy’n digwydd gyda COVID-19 yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn?
Gan y gall data beunyddiol fod yn anweddol (hyd yn oed heb newidiadau i’r drefn brofi) mae’n bwysig:
- edrych ar dueddiadau yn hytrach na ffigurau diwrnod unigol
- defnyddio ffynonellau data eraill i weld a ydynt yn dangos patrwm cyson
Mae nifer o ffynonellau data eraill sy’n gallu dweud wrthym sut mae’r pandemig yn esblygu yng Nghymru. Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol Arolwg Heintiadau COVID-19 yn cael ei gyhoeddi ddwywaith yr wythnos ac mae’n amcangyfrif y ganran o’r boblogaeth yng Nghymru a fyddai’n profi’n bositif. Mae’r arolwg hwn yn seiliedig ar hapsampl o’r boblogaeth ac nid yw newidiadau mewn profi’n effeithio arno felly mae’n ddefnyddiol ei chymharu â data Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn y gorffennol, mae data ONS ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tueddu i ddilyn patrymau tebyg.

Mae mwy o oedi yn achos data dangosyddion eraill o salwch mwy difrifol, fel derbybniadau i’r ysbyty neu ddata marwolaethau oherwydd COVID-19, ond maent hefyd yn helpu i daflu goleuni ar unrhyw newidiadau mewn tueddiadau.
Mae dulliau arloesol newydd hefyd megis monitro lefelau o COVID-19 mewn dŵr gwastraff, sy’n rhoi ffordd newydd inni ddeall y newidiadau. Cyhoeddir crynodeb o’r dadansoddiad diweddaraf o ddŵr gwastraff yn yr adroddiad sefyllfaol COVID-19 a gyhoeddir yn wythnosol.
Mae’n arfer da bob tro edrych ar ystod eang o ddata i weld a yw’n rhoi neges gyson, ond bydd hyn yn bwysicach byth tra bo’r newidiadau diweddar i brofi’n ennill eu plwyf.
Stephanie Howarth
Y Prif Ystadegydd