Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Diwrnod arall, ac un arall o swyddi digidol mwyaf cyffrous yng Nghymru ar gael.
Y tro hwn, swydd y Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer Dysgu Digidol, swydd sydd wedi bod yn ganolog i’r gwaith anhygoel rydym wedi’i wneud ar ddysgu digidol yng Nghymru – sydd wedi bod mor bwysig dros y 18 mis diwethaf. Ond yn lle i fi ddweud wrthych pa mor wych yw swydd, meddyliais y byddwn yn gofyn i’r deiliad post blaenorol, Chris Owen, ysgrifennu’r blog gwadd isod yn dweud wrthych chi i gyd amdano.
Gallwch ceisio am swydd y Dirprwy Gyfarwyddwr, Dysgu Digidol hyd at 19 Hydref 2021.
Dirprwy Gyfarwyddwr Dysgu Digidol

Safbwynt deiliad blaenorol y swydd
Os yw arwain tîm digidol arloesol, amlddisgyblaethol, sy’n darparu rhaglen Technoleg Addysg a gydnabyddir yn rhyngwladol i drawsnewid y dirwedd addysg ddigidol ledled Cymru yn sbarduno eich uchelgais – yna cymerwch olwg fanwl ar y rôl hon!
Ers 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn creu casgliad o seilwaith, adnoddau a gwasanaethau digidol a ddarperir yn genedlaethol, ac a ariennir yn ganolog, i gefnogi’r gwaith o drawsnewid arferion addysg ledled Cymru yn ddigidol.
Mae’r cyfan wedi’i adeiladu o amgylch hunaniaeth ddigidol genedlaethol (un o’r tenantiaethau Microsoft sengl mwyaf yn y byd), ac mae rhanddeiliaid addysg, gan gynnwys pob dysgwr ysgol ac athro ledled y wlad, yn cael dull ‘cofrestru untro’ i fewngofnodi ar Hwb, sef yr allwedd i gael mynediad at wasanaethau addysg ar lefel menter (gan gynnwys Google for Education, Microsoft Office 365 ac Adobe).
Un o’r manteision mawr yw y gall ysgolion, ynghyd â rhanddeiliaid addysg ehangach, gael gafael ar yr adnoddau a’r gwasanaethau hyn yn ddiogel gan wybod bod tîm Cadernid Digidol arbenigol Hwb wedi adolygu eu gweithrediad o safbwynt diogelu a chydymffurfio, gan sicrhau bod y defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn rhag risgiau a niwed posibl.
Drwy’r ffrydiau gwaith seilwaith, buddsoddwyd dros £100 miliwn mewn seilwaith ysgolion megis rhwydweithiau, dyfeisiau ac adnoddau clyweledol, er mwyn sicrhau bod ysgolion yn barod i lwyddo ac yn gallu cael mynediad cyson at y gwasanaethau ar-lein hyn. Fodd bynnag, nid menter ysgogi nodweddiadol yn unig yw hon, gan fod y timau wedi gweithio mewn partneriaeth â phob un o’r 22 awdurdod lleol i sicrhau y gellir cynnal y buddsoddiad yn y dyfodol – sy’n dipyn o her yn yr hinsawdd ariannol bresennol.
Mae’r tîm wedi arwain y blaen yn rhyngwladol gyda sawl menter hefyd – y wlad gyntaf yn y byd i drwyddedu pob ysgol yn genedlaethol gyda Microsoft M365 ynghyd â’r gyntaf i ddefnyddio pecyn adnoddau creadigrwydd Adobe Spark yn genedlaethol. Cafwyd canmoliaeth annibynnol hefyd i’w dull o gynorthwyo dysgwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn ystod y pandemig.
Yn ystod fy amser yn y swydd, treuliais gryn amser yn siarad â’n partneriaid strategol megis Google, Microsoft ac Adobe, gan archwilio cyfleoedd i ychwanegu ymhellach at ein cynnig, sy’n helaeth eisoes. Arweiniwyd y sgyrsiau hyn bob amser gan yr adborth gan ein cymuned wych o ddefnyddwyr sy’n sicrhau bod y tîm yn rhoi o’u gorau bob amser. Rwy’n credu’n gryf fod y ddeialog agored hon rhwng rhanddeiliaid, y timau cyflenwi a’n cyflenwyr wedi bod yn sail i lwyddiant y rhaglen.
Mae’r prosiect wedi cael ei ddisgrifio fel canlyniad perffaith diolch i gyfuniad o ffactorau. Cael cefnogaeth lawn gan y Llywodraeth gyda mandad clir gan y Gweinidog, dod â thîm cyflawni amlddisgyblaethol hynod dalentog at ei gilydd, rhoi lle canolog i randdeiliaid yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau a gweithio’n strategol gyda phartneriaid cyflenwi.
Gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon mai’r naw mlynedd a dreuliais yn arwain rhaglen Hwb oedd rhai o’r rhai mwyaf heriol yn fy ngyrfa hyd yma, ond y rhai mwyaf gwerthfawr hefyd. Mae gan ddarpariaeth genedlaethol lawer o rannau sy’n symud, ond pan fyddant yn alinio mae’r effaith yn wirioneddol ryfeddol.
Rwyf wedi symud i’r bennod nesaf yn fy ngyrfa erbyn hyn fel Prif Swyddog Digidol Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn golygu bod gen i ddiddordeb personol brwd yn rhaglen Hwb o hyd, ond nawr o’r ochr arall fel defnyddiwr gwasanaeth.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld pa gyfeiriad y mae cam nesaf rhaglen Hwb yn ei gynnig i addysg yng Nghymru, ac rwy’n fwy na pharod i rannu unrhyw syniadau a phrofiadau gyda’r Dirprwy Gyfarwyddwr Dysgu Digidol nesaf.
Chris Owen
