Bod yn foesegol

Read this post in English

Ydych chi erioed wedi cael eich hun yn gwylio rhywbeth am oriau, oherwydd bod Netflix wedi ei argymell ichi? A yw datgloi eich ffôn drwy edrych arno’n dod yn norm i chi?

Beth pe bai’r sector cyhoeddus yn dechrau defnyddio data fel hyn? Beth pe bai ein casgliadau sbwriel yn seiliedig nid ar rotas ond ar ba bryd y dywedodd synwyryddion clyfar eu bod yn llawn? Beth pe bai cardiau llyfrgell yn beth o’r gorffennol a bod benthyca llyfrau yn seiliedig ar feddalwedd adnabod wynebau?

Delwedd o raddfeydd pwyso

Sut fyddech chi’n teimlo am hynny? A fyddech yn croesawu’r newidiadau hyn? Neu a fyddai gennych bryderon, megis beth fyddai hyn yn ei olygu o ran eich preifatrwydd neu a allai arwain at anghydraddoldebau posibl?

Dyma lle mae moeseg data yn dod i mewn a dyma’r math o gwestiynau y mae angen i ni eu gofyn. Yn gryno, mae moeseg data yn ein helpu i bwyso a mesur y gwahanol opsiynau a phenderfynu ar yr hyn y dylem ac na ddylem ei wneud gyda data.

Mae’r blog hwn yn gofyn y cwestiynau, beth y gall ac y dylem ei wneud i gefnogi darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gyda’r cymorth a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt i benderfynu pryd, ble a sut y dylent ddefnyddio data.

Pam mae moeseg data mor bwysig nawr?

Gyda datblygiadau mewn technoleg, mae mwy o gyfle i fod yn arloesol gyda data nag erioed o’r blaen. Dyna pam mae’n bwysig ein bod yn sicrhau ein bod yn trin data’n foesegol. Fodd bynnag, ni ddylem feddwl am foeseg data fel rhwystr, mae’n ymwneud mwy â gofyn y cwestiynau cywir cyn i ni ddefnyddio data mewn ffyrdd newydd.

Gall defnydd da o ddata achub bywydau, sicrhau penderfyniadau gwell, targedu ein gwasanaethau’n fwy effeithiol ac arbed arian.

Rydym am i’r sector cyhoeddus ddysgu oddi wrth eraill, i ddatgloi potensial data a’i ddefnyddio mewn ffyrdd arloesol. Mae gan dechnegau newydd ynghyd â deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio’r gallu i wella’r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus.  Mae mwy ar ddatgloi’r potensial hwn yn ein Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Fodd bynnag, er mwyn i ddata weithio i ni fel hyn mae angen i ni gadw ymddiriedaeth rhwng perchnogion data a’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Mae angen i bobl wybod y bydd eu data’n cael ei reoli’n ofalus a chyda’r gofal a’r sylw y mae’n eu haeddu. Os na yw pobl yn ymddiried ynom, mae perygl na fydd y potensial hwnnw ar gael.

Er enghraifft, drwy gydol Covid-19 rydym wedi gweld pa mor bwerus y gall data fod wrth ddarparu gwasanaethau a rhoi’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ei angen ar bobl. Fel sefydliad, rydym wedi cael ein hunain yn defnyddio data mewn ffyrdd nad oedd gennym erioed o’r blaen. Fodd bynnag, er gwaethaf y cyflymder ein gwaith, yr oedd yn bwysicach fyth inni wneud amser gan nad oedd yr un o’r penderfyniadau hynny’n rhai i’w gwneud yn ysgafn, ac ni ddylent ychwaith fod.

Beth ydym eisoes yn ei wybod am foeseg data?

Y newyddion da yw ein bod wedi gweld diddordeb cynyddol mewn moeseg data yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn golygu bod llawer o wybodaeth ar gael gan gynnwys cyngor a chefnogaeth i’r rheini ohonom sydd ei angen.

Mae Fframwaith Moeseg Data* defnyddiol gan Lywodraeth y DU, a gyhoeddwyd yn 2019, sy’n nodi tair egwyddor gyffredinol moeseg data:

  • Tryloywder – mae data a phrosesau ar gael i’w harchwilio ac maent mewn fformatau agored a hawdd eu deall
  • Atebolrwydd – mae prosesau goruchwylio a llywodraethu effeithiol ar waith ar gyfer prosiectau i sicrhau bod prosiectau’r llywodraeth yn bodloni eu hamcanion ac anghenion y cyhoedd
  • Tegwch – cymerwyd camau i ddeall a lliniaru unrhyw ragfarn ac effeithiau gwahaniaethol anfwriadol ar unigolion, a bod prosiectau’n hyrwyddo canlyniadau cyfiawn a chyfartal

Hefyd, os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am foeseg data, efallai y bydd y canlynol yn ddefnyddiol:

Gweithio gyda’n gilydd ar foeseg data

Gan fod mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o ddata a thechnolegau sy’n cael eu gyrru gan ddata, rydym am sicrhau bod gan ein partneriaid yr wybodaeth a’r offer sydd eu hangen arnynt i allu asesu’n briodol yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud. Diben hyn yw sicrhau y caiff data ei ddefnyddio’n ddiogel, yn gyfrifol ac yn foesegol, ac i helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y ffordd y defnyddir data.

Rydym yn dal i fod yng nghamau cynnar meddwl am foeseg data, a’r hyn y gallwn ei wneud i gefnogi ein partneriaid yn y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, hoffem ddechrau drwy gael eich syniadau am rai neu bob un o’r canlynol: 

  • A yw eich sefydliad yn dilyn unrhyw ganllawiau moeseg data neu’n defnyddio unrhyw becynnau cymorth penodol? Os felly, beth ydych chi’n ei ddefnyddio?
  • Ydych chi’n gwybod ble i ddod o hyd i gyngor ac arweiniad ar foeseg data?
  • Ydych chi’n credu bod digon o gyngor a chymorth ar gael ar foeseg data i’ch tywys yn eich penderfyniadau?
  • Beth, os o gwbl, y byddech yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar foeseg data?
  • Ydych chi’n meddwl y byddai cymuned ymarfer neu gymuned o ddiddordeb ar foeseg data yn ddefnyddiol?
  • A oes unrhyw heriau newydd neu wahanol a wynebir gan bobl yng Nghymru mewn perthynas â moeseg data, o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU neu’r byd?

Wrth gwrs, peidiwch â chael eich cyfyngu gan y cwestiynau uchod. Os oes gennych unrhyw adborth neu farn ar bwnc moeseg data, anfonwch atom ar: Data@llyw.cymru

*Nodwch, mae’r dogfennau yma yn Saesneg yn unig

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s