Pa ganran o bobl dros 80 oed sydd wedi cael eu brechu rhag COVID-19 yng Nghymru? Faint o bobl ifanc 30 i 39 oed sydd heb dderbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19 yng Nghymru? Gellir ateb y cwestiynau hyn a chwestiynau tebyg mewn gwahanol ffyrdd.
Parhau i ddarllenCyfleoedd i ymuno ein tim seiberddiogelwch
Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Rydym wedi ail-agor ein hymarfer recriwtio ar gyfer dadansoddwyr Seiberddiogelwch i’n helpu i wella ein capasiti yn y maes hwn. Dyddiad cau Hydref 1 2021.
Parhau i ddarllenWythnos UX – Rhoi profiad defnyddwyr yn y sbotolau
Ym mis Gorffennaf 2021 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ei Wythnos UX gyntaf, wythnos o ddigwyddiadau ar bynciau profiad defnyddwyr a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Rydyn ni’n gwybod beth rydych chi’n ei feddwl – beth yw profiad defnyddwyr a pham oeddech chi eisiau cynnal digwyddiad wythnos o hyd arno? Gwnaethon ni holi Azul De Pol, sy’n rhan o’n cymuned UX yn Llywodraeth Cymru, i ysgrifennu blog i ddweud mwy wrthon ni…
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: deall safbwyntiau a bywydau pobl yn ystod y pandemig
Arolwg Cenedlaethol Cymru yw’r prif arolwg cymdeithasol a gynhelir gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid. Mae’n cynnwys tua 12,000 o bobl ar draws Cymru bob blwyddyn, ac mewn cyfnodau arferol bydd pobl yn cael eu cyfweld yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r arolwg yn ymdrin â sawl pwnc, o iechyd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ysgolion, gwasanaethau’r cyngor, a barn am yr ardal leol.
Parhau i ddarllenDangosyddion Cenedlaethol: beth mae’r pandemig wedi ei ddysgu i ni am sut rydym yn mesur llesiant?
Mae’n amhosibl anwybyddu’r newidiadau rydym wedi’u profi yn ystod y 18 mis diwethaf a’r gwahanol bwyslais ar yr hyn sy’n cyfrannu at lesiant Cymru yn sgil y pandemig. O ganlyniad, rydym yn ceisio canfod a yw’r profiad hwn wedi tynnu sylw at unrhyw fylchau yn y ffordd rydym yn mesur cynnydd tuag at ein nodau llesiant.
Parhau i ddarllenCyfleoedd swyddi Dadansoddwr Seiber a Rheolwr Meddalwedd
Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
Dim ond blog byr i dynnu sylw at rai cyfleoedd swyddi yn ein hadran gwasanaethau IT ar hyn o bryd.
Parhau i ddarllenMapDataCymru: Mae Beta’n barod!
Yn fy mlog diwethaf, ym mis Tachwedd, gwnes i sôn yn fras am ap cyntaf MapDataCymru, Teithio Llesol. Yn y post hwn, dwi am roi rhagor o fanylion am hyn a’r elfen beta, ac esbonio beth sy’n digwydd nesaf.
Parhau i ddarllenCreu offer gwyddor data
Y blog hwn yw’r trydydd mewn cyfres sy’n cyflwyno rhywfaint o’r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud yn Uned Gwyddor Data Llywodraeth Cymru. Mae llawer o’r gwaith a wnawn fel gwyddonwyr data yn cynnwys dadansoddi data mewn rhyw ffordd, ond rydym hefyd yn hoffi datblygu offer sy’n helpu pobl i weithio gyda data. Dyma ychydig o enghreifftiau o bethau rydyn ni wedi bod yn eu datblygu.
Parhau i ddarllenDiweddariad Gwyddor Data: ansawdd rhyngrwyd – defnyddio gwybodaeth newydd
Croeso i ail ran ein cyfres o flogiau sydd yn cyflwyno rhai o’r prosiectau sydd ar waith yn yr Uned Gwyddor Data. Cyhoeddwyd Rhan 1 yr wythnos diwethaf
Bydd y blog hwn yn dilyn prosiect sydd yn ymchwilio i’r defnydd o ddata profion cyflymder rhyngrwyd i gefnogi’r wybodaeth sy’n bodoli eisoes o ran y ddarpariaeth ar hyd a lled Cymru.
Parhau i ddarllenProsiectau Gwyddor Data: Nodi a disgrifio clystyrau o amddifadedd
Er bod ystadegau cywir ac amserol bob amser wedi cael eu cydnabod fel mewnbwn allweddol i benderfyniadau a llunio polisïau o ansawdd da o fewn y llywodraeth, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi golygu bod data yn hynod bwysig o ran strategaeth ac adrodd mewn ffordd newydd oherwydd COVID-19. Mae awydd y cyhoedd am ddata wedi cynyddu ac mae cynhyrchion fel dangosfyrddau data yn cael eu defnyddio’n aml gan bobl nad ydynt efallai wedi cymryd rhan ym maes casglu data o’r blaen.
Parhau i ddarllen