
Os nad ydych yn ymwybodol, dros flwyddyn yn ôl fe gyhoeddon ni ein Cynllun Data Agored. Parhau i ddarllen

Os nad ydych yn ymwybodol, dros flwyddyn yn ôl fe gyhoeddon ni ein Cynllun Data Agored. Parhau i ddarllen
Ar 28 Mehefin byddwn yn cyhoeddi canlyniadau cyntaf yr Arolwg Cenedlaethol newydd. Parhau i ddarllen

Beth yw cofrestri?
Yn Llywodraeth Cymru rydym yn rheoli ac yn cynnal ystod o wybodaeth at ddibenion niferus, gan gynnwys datblygu polisïau, monitro perfformiad a darparu gwasanaethau. Parhau i ddarllen

Dw i wedi bod yn edrych ymlaen at ysgrifennu’r blog hwn – dw i wrth fy modd yn dweud wrth bobl am y gwasanaeth gwych hwn y mae llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru yn ei gynnig i’w haelodau. Am ddim!
Helo, Sean ydw i, a dw i’n swyddog digidol, data a thechnoleg ar y llwybr carlam yn Llywodraeth Cymru. Fe wnes i ymuno â Llywodraeth Cymru fis Medi diwethaf fel rhan o gynllun y Gwasanaeth Sifil i raddedigion … ond gadewch imi ddechrau yn y dechrau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyhoeddi ystadegau ar gyfer gweithgarwch a pherfformiad GIG Cymru ers dechrau datganoli. Mae’r ystadegau hyn ymysg y data sy’n cael eu defnyddio amlaf, ac maent yn ddata clir ac awdurdodol ar berfformiad y system iechyd yng Nghymru.
Cyn y Nadolig, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y bydd cyllid ar gael ar gyfer rhaglen waith dair blynedd i lenwi’r bwlch yn ein gwybodaeth am gyflwr tai yng Nghymru. O ystyried mai Arolwg Eiddo Byw yng Nghymru 2008 oedd y tro diwethaf i ddata cynhwysfawr gael eu casglu ar gyflwr tai yng Nghymru, dyma gam pwysig tuag at lenwi un o’r bylchau mawr mewn tystiolaeth y mae defnyddwyr yn aml yn ei godi gyda mi.
Mae technoleg ddigidol bellach yn rhan o’n bywydau bob dydd, boed hynny’n ddefnyddio ap i brynu tocyn bws neu wneud taliad ar-lein trwy’r banc, mae technoleg ddigidol yn ei gwneud hi’n haws ac yn gynt i neud pethau. Ond, dyw hyn ddim yn wir ar gyfer pawb. Mae aelodau o’r gymuned sy ddim yn gallu defnyddio technoleg ac sydd ddim yn meddu ar y sgiliau neu’r hyder i ddefnyddio’r dechnoleg newydd sydd ar gael.
Efallai eich bod eisoes wedi dod ar draws Porth-Daear Lle, platfform data agored a ddatblygwyd ar y cyd gan gangen Ddaearyddiaeth a Thechnoleg Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Nod y safle yw gwneud data gofodol yn fwy agored i’r cyhoedd, ateb ceisiadau am ddata a gwasanaethau y byddwn fel arall wedi’u bodloni drwy ddefnyddio prosesau llaw.
Mae miliynau o bobl yn defnyddio’n safle corfforaethol ni bob blwyddyn, ac rydyn ni’n gwybod bod rhai rhannau o’r safle yn anoddach eu defnyddio nag eraill. Rhan o’r rheswm am hynny yw’r swm enfawr o wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi gennym ni fel llywodraeth, ond rydyn ni’n gwybod bod lle i wella.