Llenwi bylchau yn ein gwybodaeth am gyflwr tai yng Nghymru
Cyn y Nadolig, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y bydd cyllid ar gael ar gyfer rhaglen waith dair blynedd i lenwi’r bwlch yn ein gwybodaeth am gyflwr tai yng Nghymru. O ystyried mai Arolwg Eiddo Byw yng Nghymru 2008 oedd y tro diwethaf i ddata cynhwysfawr gael eu casglu ar gyflwr tai yng Nghymru, dyma gam pwysig tuag at lenwi un o’r bylchau mawr mewn tystiolaeth y mae defnyddwyr yn aml yn ei godi gyda mi.
Yn fy ail ddiweddariad yn ôl ym mis Hydref 2014, trafodais yr angen i gasglu data am gyflwr eiddo yng Nghymru. Ers hynny mae prosiect wedi ei gynnal i adolygu opsiynau, costau a manteision manwl i sicrhau’r cyllid ar gyfer rhaglen o waith a fydd yn rhoi gwybodaeth hanfodol i ni i ddeall cyflwr tai yng Nghymru yn well. Fel y gwyddom, mae cyflwr tai yn gysylltiedig â llesiant a thlodi.
Bydd y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai yn cynnwys:
- Arolwg o Gyflwr Tai yng Nghymru 2017-18;
- datblygu a chynnal ‘cronfa sylfaen anheddau’ weinyddol a fydd yn dod â data presennol ynghyd am anheddau unigol yng Nghymru; a
- gwaith modelu a dadansoddi o ran cyflwr tai a thlodi tanwydd.
Mae ein tîm newydd, sef y Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai, wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf. Dros yr hydref, rydym wedi cynnal ymarfer caffael a sicrhau contractwr profiadol, sef y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE), i gynnal Arolwg o Gyflwr Tai yng Nghymru 2017-18 (WHCS). Bydd y gwaith maes yn dechrau ym mis Awst. Bydd syrfëwr cymwys yn ymweld â rhyw 2,500 o gartrefi sydd wedi cymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, er mwyn casglu data ar gyflwr eiddo, gan gynnwys cyflwr atgyweirio, peryglon, effeithiolrwydd ynni ac addasiadau i bobl anabl. Bydd canlyniadau cychwynnol o’r arolwg ar gael yn ystod hydref 2018 a disgwylir cyhoeddi dadansoddiad manwl ac adroddiadau ar ddechrau 2019.
Rwyf hefyd yn awyddus i ddefnyddio data a thechnoleg mewn ffordd arloesol i ddatblygu sylfaen dystiolaeth well ar gyfer y dyfodol. Dyna pam rydym hefyd yn dechrau meddwl am yr hyn sydd ei eisiau a’i angen arnom ni a rhanddeiliaid o ‘gronfa sylfaen anheddau’ a fyddai’n gwneud y defnydd gorau o ddata gweinyddol a ffynonellau eraill. Rydym wedi bod yn siarad â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) am y gwaith y mae’n ei wneud i greu ‘cofrestr cyfeiriadau’ ar gyfer Cymru a Lloegr fel rhan o’u paratoadau ar gyfer Cyfrifiad 2021, i weld sut mae’r ddau brosiect yn gallu ategu ei gilydd. Rydym hefyd yn siarad â’r Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol – Cymru i ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol am wyddoniaeth data.
O ran llywodraethu’r Rhaglen, mae cynrychiolwyr o Gymdeithas Lywodraeth Cymru Leol, Cartrefi Cymunedol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn aelodau o Fwrdd y Rhaglen a Bwrdd y Prosiect. Byddwn hefyd yn creu Grŵp Cynghorwyr Technegol ar gyfer yr WHCS a’r ‘gronfa sylfaen anheddau’ ac rydym yn awyddus i gynnwys pobl allanol. Os ydych yn teimlo bod gennych arbenigedd i’w gynnig i’r naill grŵp neu’r llall, cysylltwch â thîm y rhaglen.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen, yr WHCS neu’r ‘gronfa sylfaen anheddau’ neu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid, e-bostiwch ystadegau.cyflwrtai@cymru.gsi.gov.uk neu Llinell Ymholiadau Cyffredinol Ffôn: 029 2082 5050.
Croesawn eich barn ar y pwnc a drafodwyd yn y diweddariad hwn – e-bostiwch desg.ystadegau@cymru.gsi.gov.uk neu cysylltwch â ni drwy Twitter, ‘YstadegauCymru’.
Glyn Jones
Prif Ystadegydd
Chwefror 2017
Hysbysiad Cyfeirio: Chief Statistician’s update – February 2017 | Digital and Data Blog