Cynhwysiant digidol…… mae lle i wella!

Read this page in English

Delwedd gwirfoddolwyr yn helpu pobl yn y cymuned gyda cyfrifiaduron

Delwedd gan Cymunedau Digidol Cymru

Ni all y mwyafrif helaeth ohonom ddychmygu bywyd heb y rhyngrwyd. Rydym yn dibynnu’n fwyfwy (efallai gormod ar adegau) ar dechnolegau digidol ar gyfer ein gwaith, ein haddysg a’n gweithgareddau hamdden. Er hyn, mae gormod o bobl yn parhau i golli allan ar fanteision y rhyngrwyd, gydag oddeutu 15% o oedolion yng Nghymru all-lein.  Fodd bynnag nid oes gan lawer mwy o bobl y sgiliau digidol sylfaenol sydd eu hangen arnynt i fanteisio ar dechnolegau digidol, gan gynnwys y gallu i reoli gwybodaeth ar-lein, datrys problemau ar-lein, cyfathrebu’n ddiogel, trafod arian yn ddiogel a chreu cynnwys digidol sylfaenol.

Rydym wedi cymryd camau mawr

Roedd allgáu digidol (yn seiliedig ar ddefnydd rheolaidd o’r we) yn 34% yn 2010, sy’n dangos y cynnydd sydd wedi cael ei wneud. Ond mae angen cymryd camau pellach. Os ydym am sicrhau’r manteision mwyaf o’n buddsoddiad sylweddol i seilwaith digidol drwy ein rhaglenni Band Eang Cyflym Iawn, a chreu cymdeithas ddigidol gynhwysol go iawn, rhaid i bob un ohonom ymrwymo, fel cyflogwyr, gweithwyr a dinasyddion i helpu’r bobl hynny nad ydynt yn manteisio ar y byd digidol o hyd. Mae ein Fframwaith Cynhwysiant Digidol a Chynllun Cyflawni, fydd yn cael ei diweddaru dros yr haf, yn nodi’r rôl hanfodol y mae rhaglenni digidol Llywodraeth Cymru megis Cymunedau Digidol Cymru (CDC) a’r Hwb yn gallu ei chwarae. Ond, yn bwysicach byth, mae’n amlygu sut mae’r agenda hon yn ymestyn yn ehangach – mater i’r gymdeithas gyfan ydyw.

Mynediad hwylus at Wasanaethau Cyhoeddus – rheswm arall i fod ar-lein

Rydym yn ymwybodol bod mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus hanfodol yn troi’n rhai digidol, felly mae angen i ni sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad atynt. Rydym yn gwybod bod Taliadau Gwledig Cymru  yn gwneud gwaith gwych i gefnogi ffermwyr i ddefnyddio technoleg. Mae hyn yn profi na ddylai allgáu digidol gael ei ddefnyddio fel esgus i osgoi darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol gwych, ond dylid ei ddefnyddio fel cymhelliant pellach i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus digidol sy’n haws eu defnyddio er mwyn helpu i berswadio’r bobl fwyaf cyndyn i’w defnyddio.

Cymunedau Digidol Cymru (CDC)

Mae ein rhaglen CDC yn gweithio gyda sefydliadau ar draws pob sector, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, sydd mewn sefyllfa dda i helpu i gefnogi sgiliau digidol defnyddwyr/cwsmeriaid eu gwasanaeth, er mwyn eu helpu i gael mynediad at lu o gyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae gwefan CDC yn cynnwys amrywiaeth eang o astudiaethau achos a blogiau sy’n amlygu eu gwaith â phartneriaid.

Mae nifer y llofnodion ar y Siarter Digidol yn cynyddu’n wythnosol gyda nifer o bartneriaid yn cytuno â’r egwyddorion Cynhwysiant Digidol ac yn cofrestru ar ran eu sefydliadau. Mae gennym dros 220 o lofnodion, erbyn hyn gyda llawer mwy i ddod.

Mae’r rhaglen CDC wedi cael ei hymestyn am ddwy flynedd arall er mwyn iddi allu parhau i adeiladu ar ei gwaith i ddatblygu gweithgareddau cynhwysiant digidol cynaliadwy a chyfrannu at y nod heriol a nodir yn Symud Cymru Ymlaen sef helpu 95 y cant o bobl i ddysgu’r sgiliau digidol sylfaenol sydd eu hangen arnynt yn yr unfed ganrif ar hugain erbyn 2021.

Iechyd Digidol

Mae cynnwys sgiliau digidol fel rhan o’r agenda iechyd yn ffordd effeithiol iawn o gynnwys pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mae dyfeisiau sy’n cofnodi gweithgarwch, fel y Fitbit, yn offerynnau cynhwysiant digidol defnyddiol. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau o amgylch Cymru, gan gynnwys yng Nghastell-nedd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Blaenau Gwent a Cheredigion lle mae’r cofnodydd gweithgarwch yn helpu pobl i gael dealltwriaeth well o dechnoleg ddigidol, gan wella eu hiechyd a’u lles hefyd!

Gwirfoddoli

Mae staff Llywodraeth Cymru wedi croesawu hyn, drwy ddefnyddio eu hamser gwirfoddoli i gefnogi sesiynau digidol mewn llyfrgelloedd a lleoliadau cymunedol eraill. Mae dysgu rhwng y cenedlaethau hefyd yn effeithiol iawn – mae myfyrwyr Bagloriaeth Cymru yn cefnogi eu cymunedau lleol drwy gynnal sesiynau sgiliau digidol; mae CDC wedi gweithio gyda’r Geidiaid, y Sgowtiaid a Chadetiaid yr Heddlu er mwyn i’n pobl ifanc rannu eu sgiliau digidol â’r bobl hynny sydd angen cefnogaeth.

 

Rhaid i ni barhau i gynyddu ein byddin o wirfoddolwyr – yn ffurfiol ac yn anffurfiol – er mwyn parhau i weithredu hyn. Rhaid i ni gofio bod technoleg yn parhau i newid, felly mae rhaid i bob un ohonom helpu i gefnogi pobl drwy’r newidiadau, er mwyn iddynt fod yn ddefnyddwyr hyderus nad ydynt yn teimlo fod y byd yn datblygu hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cydweithwyr. Efallai nad yw nifer ohonynt yn gwneud y defnydd gorau o’r technolegau digidol sydd ar gael iddynt.

Gan fod cynifer o’n ffrindiau ac aelodau ein teuluoedd yn berchen ar amrywiaeth eang o ddyfeisiau digidol, p’un ai ydym wedi prynu dyfais newydd i aelod o’r teulu, neu wedi rhoi un o’n hen ddyfeisiau ni iddyn nhw, dylem ymrwymo i dreulio amser gyda nhw i ddangos y posibiliadau iddynt. Dechreuwch yn fach, a byddwch yn barod i ddal ati……… bydd yn wobrwyol iawn yn y pen draw!

Post gan Uned Cynhwysiant Digidol, Llywodraeth Cymru