Gwirfoddoli Cynhwysiant Digidol: Achos y mwnci’n drymio

Read this blog in English

Mae technoleg ddigidol bellach yn rhan o’n bywydau bob dydd, boed hynny’n ddefnyddio ap i brynu tocyn bws neu wneud taliad ar-lein trwy’r banc, mae technoleg ddigidol yn ei gwneud hi’n haws ac yn gynt i neud pethau. Ond, dyw hyn ddim yn wir ar gyfer pawb. Mae aelodau o’r gymuned sy ddim yn gallu defnyddio technoleg ac sydd ddim yn meddu ar y sgiliau neu’r hyder i ddefnyddio’r dechnoleg newydd sydd ar gael.

Un o’r ffyrdd mae Llywodraeth Cymru’n edrych i gysylltu â’r grwpiau hyn yw trwy gynllun gwirfoddoli cynhwysiant digidol. I roi mwy o flas i chi ar y cynllun, byddwn yn cyhoeddi cyfres o flogiau gan wirfoddolwyr yn rhannu eu profiadau.

Achos y Mwnci’n Drymio

Math o wirfoddoli: Codio Lego

Cynulleidfa: Rhieni a Phlant o Bob Oed

Pan glywais gyntaf am y cyfle i fod yn wirfoddolwr digidol, meddyliais ei fod yn rhywbeth y mae sawl un ohonon ni’n ei wneud yn barod – drwy helpu cydweithiwr i ddefnyddio offer Microsoft, efallai, neu ddangos i Mam-gu sut i ddanfon e-bost. Dwi wastad wedi bod yn hyderus gyda defnyddio technoleg – na’i rhoi go arni, beth yw’r gwaethaf all ddigwydd?! Ond dwi’n deall fod hyn yn rhywbeth sy’n peri gofid i nifer; rhyw fath o siwrnai i mewn i’r anhysbys lle dyw llygoden ddim wir yn llygoden, ac mae delwedd sy’n amlwg iawn yn gamera fideo inni, yn edrych fel potel dŵr poeth (ym marn fy Mam-gu sy’n 89 oed)!

Delw caemera fideo neu potel dwr poeth

 

I fi, roedd y cyfle gwirfoddoli yma’n siawns i helpu i ddangos i bobl y cyfleon sy ar gael trwy dechnoleg. Roedd hi hefyd yn gyfle i wella fy sgiliau fel fy mod yn gallu defnyddio’r sgiliau gyda fy nheulu.

 

Fues i ar sesiwn hyfforddiant 1 diwrnod o hyd gyda Chymunedau Digidol Cymru. Mae’r hyfforddiant yn dangos offer newydd defnyddiol, ac mae’n rhoi hyder i chi helpu eraill gan eich ysgogi chi i feddwl am sut i ddisgrifio’r pethau rydych yn eu gwneud.  Sut fyddech chi’n disgrifio pa fotwm i glicio i fynd i’r “hafan” i rywun heb syniad beth yw cyrchwr na botwm hafan?  Mae technoleg yn rhan fawr o’n bywydau ac mae hi’n rhwydd anghofio nad yw pawb yn gwybod y pethau yma, a bod angen esbonio mewn ffordd wahanol weithiau.

Dwi ddim yn arbenigwr gyda chyfrifiaduron felly do’n i ddim rhy siŵr am wirfoddoli yn y Clwb Codio Lego ond gan mai clwb i blant oedd e, feddylies i galle fe ddim bod mor anodd â ‘ny?! Hefyd, ces i fy nenu gan y ffaith bod Lego’n cael ei ddefnyddio – ro’dd rhaid i mi ffeindio allan beth oedd y clwb yma!

Mae’r clwb yn annog plant a’u rhieni i ddefnyddio laptop i greu modelau Lego sy’n symud. Mae’r plant yn dilyn cyfarwyddiadau ar y laptop i adeiladu rhywbeth ee. mwnci’n drymio.  Wedi dilyn y cyfarwyddiadau ac adeiladu’r mwnci, gall y plant ei gysylltu â’r laptop a defnyddio rhaglen i wneud iddo symud.

Yn lwcus i fi, roedd y rhaglen yn un syml, ond mae’n gyflwyniad gwych i hybu diddordeb plant yn y math yma o waith, a phan maent yn gweld eu model yn symud a gwneud sŵn mae’n dod a’r holl beth yn fyw. I’r plant, maent yn gwario dwy awr yn chwarae gyda Lego ac mae’n grêt pan mae’n symud ar y diwedd, ond mewn gwirionedd, maent yn rhaglennu eu modelau eu hun, ac yn dysgu i ddefnyddio technoleg. Mae hyn hefyd yn dangos gwerth technoleg a sgiliau digidol i’w rhieni.

 

 

Eisiau gwybod mwy?

Mae sesiynau digidol cymunedol eraill ar gael ee. clwb gwaith i helpu pobl i wneud ceisiadau am swydd ar lein neu sesiynau digidol sy’n dysgu pobl sut i ddefnyddio tabled neu ddanfon e-bost. Os oes gennych chi, neu rywun chi’n nabod, ddiddordeb yn y sesiynau hyn, mae manylion ar wefan Dewch Ar-Lein Yng Nghymru.

Yn yr un modd, os ydych wedi cael eich ysbrydoli gan y blog yma a bod gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr, gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Cymunedau Digidol Cymru.

Post gan Meleri Jones, Swyddfa’r Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

Un sylw ar “Gwirfoddoli Cynhwysiant Digidol: Achos y mwnci’n drymio

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Digital Inclusion Volunteering: The case of the drumming monkey | Digital and Data Blog

Sylwadau ar gau.