Arolwg Cenedlaethol Cymru – y canlyniadau cyntaf!

Logo ystadegau CymruRead this page in English

Ar 28 Mehefin byddwn yn cyhoeddi canlyniadau cyntaf yr Arolwg Cenedlaethol newydd. Yr arolwg hwn yw un o brif ffynonellau gwybodaeth Llywodraeth Cymru am farn pobl am eu hardal leol a’u gwasanaethau cyhoeddus – gwybodaeth nad yw’n hawdd dod o hyd iddi o ffynonellau eraill. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth hanfodol bwysig i ni am lesiant pobl, eu hiechyd a’u ffordd o fyw. Caiff y canlyniadau eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru ac amrywiol ddefnyddwyr eraill fel awdurdodau lleol a’r trydydd sector i fesur cynnydd, adnabod a deall materion sy’n codi, a chymryd camau gweithredu.

Mae’r arolwg newydd yn cyfuno pum arolwg a oedd eisoes yn bodoli ac yn cael eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru a’r cyrff a noddir ganddi: Arolwg Cenedlaethol 2012-15, Arolwg Iechyd Cymru, Arolwg Oedolion Egnïol, Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru ac Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru. Mae’r Arolwg Cenedlaethol newydd yn caniatáu dadansoddiad llawer dyfnach o’r pynciau sydd hyd yma wedi bod mewn arolygon ar wahân. Golyga hyn bod pobl Cymru’n treulio llawer llai o amser yn cymryd rhan mewn arolygon.

Gallai newid i gyfweliadau wyneb yn wyneb (o holiaduron i’w llenwi eich hunain yn bennaf ar gyfer Arolwg Iechyd Cymru a chyfweliadau ffôn ar gyfer Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru) arwain at ganlyniadau gwahanol. Gallai hyn olygu ei bod yn anos monitro newid dros gyfnod o amser, ar gyfer nifer o ddangosyddion a thargedau. Rydym wedi cynnal profion i’n helpu i ddeall effaith unrhyw newidiadau o ran dull, ac fe fyddwn yn cyhoeddi’r canfyddiadau wrth ochr canlyniadau’r arolwg cyntaf.

A yw’r canlyniadau’n ddibynadwy?

Ydyn! Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn edrych ar sampl cynrychioladol o dros 10,000 o bobl a ddewiswyd ar hap o bob cwr o Gymru. Dyma ymchwil o’r radd flaenaf: mae’n edrych ar groestoriad o bobl, nid dim ond y rhai hawdd cyrraedd atynt neu sydd â barn gref y maen nhw am ei mynegi. Felly gallwn fod yn hyderus bod y canlyniadau’n ddibynadwy.

Ond beth yw sampl cynrychioladol a ddewiswyd ar hap? Gellid deall hyn drwy feddwl am y gwahaniaeth mewn taldra rhwng dynion a menywod: nid oes angen mesur taldra pob dyn a phob menyw i weld a oes gwahaniaeth. Gall sampl o rai cannoedd o bobl a ddewiswyd ar hap roi arwydd go dda gyda llawer llai o ymdrech (a chost) na mesur pawb.

Mae’r arolwg yn ddigon mawr i roi canlyniadau cadarn i Gymru a hyd yn oed i grwpiau llai, fel ardaloedd awdurdodau lleol, neu bobl mewn grwpiau oedran penodol. Hyd yn oed os yw’r grŵp dan sylw’n llawer llai na’r boblogaeth yn gyffredinol: rhai cannoedd o bobl, dyweder, mewn awdurdod lleol.

Beth sy’n cael ei gyhoeddi?

Llinell amser yn dangos dyddiadau cyhoeddi: 28 Mehefin - Datganiad cyntaf - prif ganlyniadau, 29 Mehefin - Canlyniadau iechyd y boblogaeth, Mehefin/Gorffenaf - Cwisiau, Gorffennaf ymlaen - Adroddiadu manwl

Bydd canlyniadau cyntaf 2016-17 ar gael ar ein tudalePnnau gwe o 28 Mehefin 2017 ymlaen. Byddant yn edrych ar amrywiol ganlyniadau allweddol o’r holl arolwg.

  • Boddhad â gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg
  • Synnwyr o berthyn i’r ardal leol
  • Gwirfoddoli
  • Tlodi
  • Llesiant ac unigrwydd
  • Iechyd personol
  • Cyfranogaeth mewn chwaraeon
  • Diwylliant
  • Mynediad at y rhyngrwyd
  • Y Gymraeg
  • Gofal plant
  • Yr Amgylchedd

Yna, ar 29 Mehefin byddwn yn cyhoeddi canlyniadau ar destunau yn ymwneud ag iechyd y boblogaeth (smygu, yfed, ymarfer corff, gordewdra, a deiet). Rydym hefyd yn llunio sawl cwis lle gallwch ateb cwestiynau o’r arolwg, cymharu’ch atebion gyda rhai’r arolwg ac edrych ar ganlyniadau eich awdurdod lleol.O fis Gorffennaf ymlaen, bydd cyfres o adroddiadau manylach ar gael ar ein gwefan, pob un yn canolbwyntio ar bwnc penodol mewn mwy o fanylder.Mae’r arolwg hefyd yn rhoi gwybodaeth werthfawr ar gyfer dangosyddion cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn ogystal â chyhoeddi canlyniadau perthnasol ar gyfer rhain ar ein gwefan, bydd data sy’n cefnogi’r dangosyddion cenedlaethol ar gael ar StatsCymru.Os hoffech weld pa bynciau gafodd eu cynnwys yn yr Arolwg Cenedlaethol rhwng 2012 a 2018, rydym newydd gyhoeddi “syllwr cwestiynau” rhyngweithiol lle gallwch weld y cwestiynau. Ar 28 Mehefin, byddwn yn cyhoeddi “syllwr canlyniadau” o’r un math, a fydd yn caniatáu i chi weld canlyniadau cwestiynau’r arolwg 2016-17.

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am yr arolwg, gan gynnwys canlyniadau blynyddoedd blaenorol, ar ein tudalennau gwe. Os na fedrwch chi weld yr hyn rydych chi’n chwilio amdano, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: arolygon@cymru.gsi.gov.uk.

Post gan Chris McGowan, Tîm yr Arolwg Cenedlaethol