Gweithio i fod yn fwy agored

Delwedd post-its gyda'r ymwymiadau

 

Read this post in English

Os nad ydych yn ymwybodol, dros flwyddyn yn ôl fe gyhoeddon ni ein Cynllun Data Agored. Wrth ysgrifennu’r cynllun, fe ddaeth hi’n glir ein bod ni wedi gwneud tipyn o waith yn agor ein data, yn enwedig data ystadegol a gofodol.  Er efallai nad oeddent wedi gwneud gwaith da iawn o adael eraill i gwybod amdano.  Felly, y cynnyrch oedd cynllun sy’n adeiladu ar y gwaith da rydym wedi ei wneud eisoes.

Tra bod agor ein data yn gwella pa mor agored, tryloyw ac atebol yr ydym, rydym eisiau gwneud fwy, felly penderfynnon ni edrych ar agweddau o Lywodraeth a’r ffordd ni’n gweithio. Fel Llywodraeth rydym yn sylweddoli os fod pobl yn gwybod sut yr ydym yn gwneud pethau ac yn ymwneud mwy â hyn, gall hyn helpu i wella penderfyniadau a gwella ffydd yn y Llywodraeth.

Y newyddion da yw, fel gyda’r data agored, wrth ddechrau edrych ar ba mor agored yr ydym fel Llywodraeth sylweddolon ein bod ni eisoes yn gwneud pethau da. Pe bai hynny’n ymgynghoru gyda pobl Cymru neu cyhoeddi ein ymatebion i Rhyddid Gwybodaeth.  Fodd bynnag, fel Llywodraeth agored rydym yn sylweddoli ein bod yn gallu neud mwy ac rydym, eisiau gwneud fwy.

Partneriaeth Llywodraeth Agored

 Nid yw’n syndod nad ni yn unig sydd am greu llywodraeth sy’n fwy agored. Mae Partneriaeth Llywodraeth Agored, a gafodd ei sefydlu yn 2011, yn fenter fyd-eang sy’n rhoi sylw i hyrwyddo llywodraeth agored. Mae’n cael ei chynnal gan grŵp o wledydd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig (DU), sydd wedi dod ynghyd i annog llywodraethau i hyrwyddo tryloywder, grymuso dinasyddion, brwydro yn erbyn llygredd a chryfhau llywodraethu.

Bob blwyddyn neu bob yn ail flwyddyn, mae Partneriaeth Llywodraeth Agored yn trefnu uwchgynhadledd fyd-eang ar lywodraeth agored mewn lleoliadau ym mhob rhan o’r byd. Cynhaliwyd uwchgynhadledd 2016 ym Mharis. Roedd amseru’r uwchgynhadledd wedi cynnig cyfle delfrydol i roi gwybod y newyddion diweddaraf am UK Open Government National Action Plan 2016-18, gan gynnwys ymrwymiadau o wahanol rannau o’r gweinyddiaethau datganoledig. Roeddem yn awyddus i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn, a hyrwyddo ein hymrwymiad i fod yn fwy agored a chydweithredol.

Felly, aethom ati i lunio rhestr gyfredol o brosiectau llywodraeth agored sydd eisoes wedi’u trefnu neu ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru, fel modd o nodi ymrwymiadau priodol. Yn y pen draw, cytunwyd ar naw ymrwymiad sy’n adlewyrchu ehangder helaeth yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

Ymrwymiadau Llywodraeth Agored Llywodraeth Cymru

Rydym yn falch o’r ymrwymiadau hyn. O godi ymwybyddiaeth o’r nifer o achosion o gaethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi, i gynyddu maint ac ansawdd y data yr ydym yn eu cyhoeddi, rydym yn gyffrous am yr hyn y byddant yn eu cyflawni. Ond ymrwymiadau yn unig ydynt – maent yn golygu dim heb gyflawni camau gweithredu. Ac rydym yn awyddus i fynd cam ymhellach.

Gweithio ar y cyd i gamu ymlaen

Rydym yn hynod o falch bod Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Chymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru (ERS Cymru) wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan y Loteri Fawr sy’n caniatáu iddynt sefydlu rhwydwaith o gymdeithasau sifil yng Nghymru.

Delwedd gwefan Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru

http://www.opengovernment.org.uk/networks/wales/

Bydd y Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru nid yn unig yn ein dwyn i gyfrif, ond bydd hefyd yn helpu i ddatblygu ymrwymiadau yn y dyfodol. Ein huchelgais yw cydweithio â’r grŵp hwn a datblygu ein perthynas i wella safon llywodraeth agored ar hyd a lled Cymru.

Rydym yn gobeithio bod pobl eisoes yn gweld bod pethau da ar waith. Boed hynny, o ran ein hymrwymiadau ar gyfer llywodraeth agored, gan gynnwys cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) – sy’n annog cynnwys yr holl amrywiaeth o bobl Cymru yn yr hyn yr ydym yn ei wneud. Fodd bynnag, mae hwn yn waith hir dymor, ac mae angen inni wneud mwy. Ac wrth gyfeirio aton ‘ni’, nid Llywodraeth Cymru yn unig yr ydym yn ei golygu. Dyna pam mae’n bwysig ein bod yn meithrin cysylltiadau da â’r rhai hynny ohonoch sydd â diddordeb yn agenda llywodraeth agored.

Felly, os oes diddordeb gennych mewn gwella pa mor agored yw’r llywodraeth yng Nghymru, yna mae croeso ichi nodi sylwadau isod, neu fel arall, ymunwch â Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru: http://www.opengovernment.org.uk/networks/wales/

Post gan Swyddfa’r Prif Swyddog Digidol