#CaruDigidol #CaruLlyfrgelloedd: y Gwasanaeth Llyfrgell Digidol Cenedlaethol

#Caru Digidol Caru Llyfrgelloedd

Read this page in English

Dw i wedi bod yn edrych ymlaen at ysgrifennu’r blog hwn – dw i wrth fy modd yn dweud wrth bobl am y gwasanaeth gwych hwn y mae llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru yn ei gynnig i’w haelodau. Am ddim!

 

Delwydd gwybodaeth am y gwasnaethau digidol ar gael

Beth yw’r Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol?

Gwasanaeth llyfrgell digidol i Gymru gyfan yw’r Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol a lansiwyd y llynedd ac mae’n rhad ac am ddim i bob aelod llyfrgell yng Nghymru. Rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid grant i Lyfrgell Genedlaethol Cymru i arwain ar ddatblygu’r Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol. Drwy weithio mewn partneriaeth, mae llyfrgelloedd Cymru wedi gallu caffael adnoddau electronig ar y cyd, gan arwain at arbedion sylweddol mewn costau o’i gymharu â chaffael ar wahân. Lansiwyd y Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol bron flwyddyn yn ôl gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth bryd hynny.

 

Beth sydd ar gael yn y Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol?

Yn eich llyfrgell gyhoeddus

Os ydych yn aelod o lyfrgell gyhoeddus yng Nghymru, mae amrywiaeth o adnoddau electronig ar gael ichi, a’r cyfan am ddim.

Llun ipad yn defnyddio e-gronauDw i wrth fy modd gyda’r e-gylchgronau am ddim dw ’n gallu eu lawrlwytho’r syth i fy iPad – mae cymaint o’r rhai poblogaidd ar gael. Dw i’n lawrlwytho Heat, Look, Grazia, Glamour a Cosmopolitan pryd bynnag y bydd copïau newydd – ydw, dw i wrth fy modd yn darllen am glecs y sêr! Dw i hefyd yn mwynhau darllen cylchgronnau coginio, fel BBC Good Food a Delicious. Dw i wedi adio’r costau i gyd a dw i’n meddwl fy mod i’n arbed tua £350 y flwyddyn o’i gymharu â’u prynu nhw i gyd. Ffodd bynnag, mae’n fwy na dim ond hel clecs a bwyd …. mae rhestr lawn o gylchgronau ar gael ar wefan e-gronau Cymru.

Yn ogystal â chylchgronau, gallwch hefyd gael:

  •  E-lyfrau: gan gynnwys llyfrau i blant (er enghraifft teitlau Harry Potter a llyfrau gan David Walliams a Roald Dahl) a hefyd mae llyfrau Cymraeg. Ac os ydych ch’n hoffi Game of Thrones, beth am lawrlwytho a darllen yr e-lyfrau?
  • E-lyfrau llafar: mae llawer o deitlau ar gael i oedolion ac i blant. Gallwch hefyd lawrlwytho amrywiaeth o lyfrau hunangymorth.
  • Adnoddau cyfeiriol: megis ‘Who Else Writes Like….?’ adnodd sy’n eich helpu i benderfynu pa awdur i ddarllen nesaf.
  • Chwiliad i ddod o hyd i eitemau ar draws holl lyfrgelloedd Cymru.
  • Gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfrifiaduron yn eich llyfrgell i ymchwilio i hanes eich teulu.

 

Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell adnau cyfreithiol Cymru yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd wedi ei lleoli yn Aberystwyth.Mae’n gyfrifol am gasglu a chadw hanes treftadaeth ddogfennol Cymru. Gallwch gael mynediad o bell i nifer o’i thanysgrifiadau os ydych yn aelod o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir rhestr o’r hyn sydd ar gael ar borthol llyfrgelloedd.cymruac mae’n cynnwys pethau megis papurau newydd ar-lein, e-gyfnodolion, cyhoeddiadau swyddogol ac adnoddau cyfeiriol gan gynnwys Encyclopedia Britannica. Gallwch ymuno â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ôl cwblhau’r ffurflen ar-lein.

 

Sut mae defnyddio’r Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol

Os ydych yn aelod o lyfrgell, y cyfan sydd angen yw’ch cerdyn llyfrgell a’ch Rhif Adnabod Personol (sydd ar gael gan eich llyfrgell leol). Gellir lawrlwytho e-lyfrau, e-gronau ac e-lyfrau llafar i’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron neu ddyfeisiau symudol. Maent ar gael hefyd drwy’r App Store neu Google Play. Cewch ragor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael a sut mae dod o hyd i adnoddau drwy borthol llyfrgelloedd.cymru.

Os nad ydych yn aelod o lyfrgell, gallwch ymweld â’ch cangen leol neu edrych ar wefan lyfrgell eich awdurdod lleol am fwy o fanylion am sut i ymuno.

 

Delwedd merch yn defnyddion ipad mewn llyfrgellMae llyfrgelloedd yn cynnig llawer mwy!

Caiff aelodau llyfrgell fenthyg llyfrau am ddim a defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell am ddim. Mae gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd hefyd wi-fi am ddim.

Mae gan lyfrgelloedd lawer i’w gynnig i blant a phobl ifanc, megis clybiau gwaith cartref a chlybiau codio. Mae ganddynt lawer o gweithgareddau yn ystod gwyliau ysgol a gall plant hefyd ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf bob blwyddyn, i ddarllen chwe llyfr yn ystod gwyliau haf yr ysgol a chasglu llawer o wobrau ar hyd y ffordd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn, a llawer mwy, drwy ymweld â’ch llyfrgell leol, neu drwy borthol llyfrgelloed.cymru.

Post gan Jemma Francis, Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archif Division, Llywodraeth Cymru