Cofrestrau: Rhestr o awdurdodau lleol yng Nghymru

Delwedd o wefan y cofrestr awdurdodau lleol

Read this page in English

Beth yw cofrestri?

Yn Llywodraeth Cymru rydym yn rheoli ac yn cynnal ystod o wybodaeth at ddibenion niferus, gan gynnwys datblygu polisïau, monitro perfformiad a darparu gwasanaethau. Mae’r wybodaeth hon yn tueddu i gynnwys categorïau neu grwpiau yr ydym yn eu defnyddio’n gyffredin ar draws y sefydliad. Er enghraifft gall gwybodaeth gael ei rhannu’n ardaloedd yr awdurdodau lleol neu gynnwys manylion yn ôl categorïau ethnigrwydd. Er y tybir bod rhestri cyson o’r categorïau neu grwpiau hyn yn cael eu defnyddio nid yw hyn bob amser yn wir.

Dyna ble mae cofrestri’n dod i mewn. Yn syml rhestri awdurdodol o wybodaeth yw cofrestri. Felly, yn hytrach na bod gwahanol rannau o’r sefydliad yn cadw eu rhestr eu hunain o awdurdodau lleol, bydd creu rhestr o awdurdodau lleol yn golygu bod un rhestr, a ddefnyddir gan bawb, y mae modd dibynnu arni i gynnwys yr wybodaeth fwyaf cyfoes a chywir.

Pam y mae eu hangen?

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) wedi bod wrthi’n datblygu platfform digidol ar gyfer cofrestri (yn y bôn ffordd o rannu cofrestri mewn ffordd gyson) ac maent yn gweithio i ddatblygu ecosystem o gofrestri cysylltiedig. Ond pam y maent yn gwneud hyn? Beth yw manteision sefydlu rhestri awdurdodol o wybodaeth?

Y brif fantais i ddefnyddwyr yw gwybod bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn gyfredol ac yn gywir. Mae cadw fersiynau lluosog o’r un rhestr yn arwain yn anochel at wallau ac anghysondebau, ond mae modd cadw’r rhain i’r lleiaf trwy ddefnyddio un gofrestr.

Mantais allweddol arall yw’r arbedion adnoddau a welir trwy ddiweddaru a chadw un rhestr yn hytrach na rhestri lluosog. Yn hytrach na bod llawer o bobl yn gorfod newid eu rhestri bob tro y caiff gwybodaeth ei newid, mae cael un rhestr yn golygu mai un rhestr yn unig sy’n gorfod cael ei diweddaru.

Ein hymdrech gyntaf

Fel rhan o’u gwaith mae GDS wedi bod yn ymgysylltu â defnyddwyr a rhanddeiliaid ledled y DU, gyda thîm yr Awdurdod Dylunio Cofrestri (RDA) yn cynnig cyngor a chymorth parhaus. A ninnau eisoes wedi cyhoeddi cofrestr o gyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ar ein gwefan, ac yn sgil cyhoeddi’r gofrestr o awdurdodau lleol Lloegr roedd yn ymddangos yn ddoeth creu cofrestr o awdurdodau lleol Cymru.

Er bod hyn yn syml ar yr olwg gyntaf cyn hir fe ddaethom ar draws ychydig o broblemau gan gynnwys y ffaith bod yr awdurdodau lleol yng Nghymru’n cwmpasu cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yn ogystal â chynghorau cymuned. Felly, er mwyn dechrau gyda chofrestr syml, penderfynwyd canolbwyntio ar yr awdurdodau lleol sy’n darparu gwasanaethau prif ffrwd llywodraeth leol. Felly mae ein hymdrech gyntaf yn darparu rhestr o’r 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol.

 Y cynnydd hyd yn hyn

Rydym yn falch iawn o ddweud ein bod wedi creu alffa erbyn hyn o’n cofrestr o’r awdurdodau lleol. I’r rhai ohonoch nad ydynt yn gyfarwydd â’r term alffa, mae hyn yn golygu ein bod wedi creu prototeip o’r gofrestr er mwyn cael eich adborth.

Rydym yn awyddus iawn i glywed eich barn am y gofrestr ac a yw’n diwallu’ch anghenion. Yn arbennig:

  • A yw’n cynnwys yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen?
  • A oes gwybodaeth ar goll?
  • A oes modd cael gafael ar yr wybodaeth yn hawdd?

Mae eich adborth yn bwysig inni gan y byddwn yn defnyddio hyn i greu fersiwn weithio o’r gofrestr (a elwir hefyd yn symud i’r cyfnod beta) y gellir ei defnyddio’n ehangach. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni yn RLGProgramme@cymru.gsi.gov.uk