O Wasanaeth yr Heddlu i Wasanaethau Platfform

Llun o SeanRead this post in English

Helo, Sean ydw i, a dw i’n swyddog digidol, data a thechnoleg ar y llwybr carlam yn Llywodraeth Cymru. Fe wnes i ymuno â Llywodraeth Cymru fis Medi diwethaf fel rhan o gynllun y Gwasanaeth Sifil i raddedigion … ond gadewch imi ddechrau yn y dechrau.

 

Roedd hi’n wanwyn ym 1986 ac ar ward mamolaeth yn Ne Cymru … Oce, falle nad oes angen mynd yn ôl yr holl ffordd i’r dechrau!

Felly, beth oeddwn i’n ei wneud cyn y Llwybr Carlam? Wel, fe wnes i dreulio 10 mlynedd yn gweithio fel heddwas yn y De. Ar ôl penderfynu fy mod i eisiau newid gyrfa a her newydd, fe wnes i ymuno â’r Llwybr Carlam y llynedd. Am newid!

Mae pob lleoliad ar y Llwybr Carlam wedi’i deilwra i ddatblygu sgiliau digidol a sgiliau cyffredinol eraill. Mae bellach yn fis Mawrth a dw i’n dod at ddiwedd fy lleoliad cyntaf. Gyda fy llaw ar fy nghalon gallaf ddweud iddo fod yn gyfnod heriol ac yn amrywiol iawn!

Fy Lleoliad Cyntaf

Fe ges i fy rhoi yn y Tîm Digidol o fewn Swyddfa’r Prif Swyddog Digidol. Mae’r tîm yn cynnig gwasanaeth tebyg i wasanaeth ymgynghori ar draws y sefydliad, drwy gymryd rhan mewn amryw o brosiectau ar bob cam o’u taith. Mae’r tîm hefyd yn edrych ar sut y gallai defnyddio dulliau digidol wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth arwain at sicrhau gwell cysylltiad â’r cyhoedd.

Ar fy niwrnod cyntaf, ro’n i’n eithaf hyderus yn cyrraedd swyddfa’r Llywodraeth. A minnau wedi gweithio fel heddwas, doeddwn i ddim yn disgwyl i unrhyw beth fy nhaflu … nes imi gael tynnu fy llun ar gyfer fy ngherdyn adnabod. Dim y llun wnaeth fy nhaflu, ond wrth eistedd o flaen y camera fe wnes i sylweddoli’n sydyn er fy mod yn ymddiddori yn y byd digidol a thechnolegol, doedd gen i ddim math o brofiad o sut i’w ddefnyddio yn y gwaith.

Ar ôl casglu fy ngherdyn adnabod (anffodus yr olwg), cefais fy arwain at fy nghydweithwyr newydd. Fe wnaethon nhw imi deimlo’n rhan o’r tîm yn syth gan leddfu fy mhryderon.

Llun o Sean gyda tim Swyddfa'r Prif Swyddog Digidol

Roedd fy ngwaith yn canolbwyntio ar wasanaethau platfform a’u defnydd o fewn Llywodraeth Cymru. Yn syml, cyfleusterau ar-lein i fusnesau yw gwasanaethau platfform sy’n caniatáu i wasanaeth digidol gyflawni tasg gyffredin fel gwirio cyfrif neu hysbysu rhywun am statws eu cais.

Yn y rôl hon, roeddwn i’n gallu dysgu wrth fynd yn fy mlaen a chael profiad mewn amrywiaeth o feysydd polisi Llywodraeth Cymru sy’n defnyddio gwasanaethau platfform. Wrth i fy nealltwriaeth ehangu, roeddwn yn gallu gweithio ar dasgau mwy penodol fel datblygu platfform gwirio’r Llywodraeth (Government Authentication Provider) a ffyrdd posib o’i roi ar waith yn Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r gwaith hwn, fe ges i gwrdd a gweithio gyda nifer o gydweithwyr o wahanol adrannau yn y sefydliad a rhanddeiliaid allanol.

Y Dyfodol

Er ei fod wedi bod yn heriol, mae fy nghyfnod gyda Llywodraeth Cymru wedi bod yn fuddiol iawn hyd yma.

Fel heddwas roeddwn i’n teimlo’n falch fy mod i’n helpu i wella ansawdd bywydau pobl. Roeddwn i’n meddwl na fyddai hynny’n wir ar ôl imi adael, ac na fyddwn i’n teimlo’r un balchder wrth fy ngwaith. Ond, fe wnes i ddysgu’n gyflym iawn y gallai pob agwedd ar yr hyn dw i’n ei wneud o fewn Llywodraeth Cymru effeithio ar ansawdd bywyd rhywun.

P’un a ydy hynny’n digwydd drwy gyflymu’r broses o wneud trafodion fel bod gan y cwsmer fwy o amser i’w dreulio gyda’i deulu, neu drwy alluogi’r Llywodraeth i wireddu ei haddewidion i’r safon orau bosibl drwy feddwl yn ddigidol – gallaf i wneud gwahaniaeth.

Er mwyn datblygu fy sgiliau ymhellach bydd popeth dw i wedi’i ddysgu yn Swyddfa’r Prif Swyddog Digidol ar flaen fy meddwl wrth imi symud i fy lleoliad nesaf gyda Taliadau Gwledig Cymru. Dim ots pa mor anodd fydd yr heriau, mae’r cerdyn adnabod o amgylch fy ngwddf yn fy atgoffa y gallaf gyflawni unrhyw beth gyda’r gefnogaeth a’r agwedd gywir.

Post gan Sean Williams, Swyddfa’r Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s