Mesur y daith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg

Read this page in English

Logo CymraegCafodd y strategaeth Gymraeg newydd Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg ei chyhoeddi yn ddiweddar ac mae’n cynnwys targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae mesur sut y gallem ni gyrraedd y targed hwn o bosibl wedi gosod her ddiddorol i ystadegwyr Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi bod yn cydweithio â thimau polisi i ystyried sut y gellid trosi nodau’r strategaeth i gyrraedd y targed, a faint o siaradwyr Cymraeg yr ydym ni’n debygol o weld yn seiliedig ar dueddiadau demograffig diweddar.

 

Felly, sut yr ydym yn amcanestyn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol?

I ddechrau edrychom ni ar amcanestyniadau demograffig siaradwyr Cymraeg Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2012. Gan ddefnyddio’r un dull, gwnaethom fodelu tueddiadau’n seiliedig ar sut y trosglwyddir yr iaith o fewn y cartref (trosglwyddo’r Gymraeg) a model cohort o allu yn y Gymraeg. Gwnaethom hyn gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2011, amcangyfrifon canol-blwyddyn o’r boblogaeth ac amcanestyniadau cenedlaethol y boblogaeth a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Roedd hyn yn ein galluogi i amcanestyn faint o siaradwyr Cymraeg y gallai fod erbyn 2050 os ydy’r tueddiadau cyfredol yn parhau tan hynny. Roedd y gwaith hwn yn amcanestyn y byddai tua 666,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050 – 334,000 yn fyr o’r targed.

Gan ddefnyddio’r model hwn fel sail, gwnaethom ystyried gwahanol senarios o sut i fynd o 666,000 i filiwn yn 2050. Bu modd inni fodelu gwahaniaethau yn nifer yr oedolion sydd yn dysgu’r Gymraeg, cyfraddau trosglwyddo amrywiol o fewn cartrefi, effaith darpariaethau gwahanol o addysg cyfrwng Cymraeg ac effaith gweld rhagor o blant yn parhau â’u gallu yn y Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol.

Roedd hyn yn ein galluogi i osod ‘taflwybr’ ar gyfer cyrraedd miliwn yn seiliedig ar nodau’r strategaeth, sef: cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg; anelu at 70 y cant o’r rhai sydd yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg; a dyheadau o gwmpas nifer yr oedolion yn caffael yr iaith yn flynyddol. Cafodd y taflwybr hwn ei gynnwys yn y strategaeth ac mae’n darparu darlun o’r llwybr tuag at y miliwn. Bydd y taflwybr yn cael ei adolygu’n barhaus. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, gwnaethom fodelu nifer yr athrawon a allai fod ar eu hangen i gyflawni’r dyheadau o ran addysg cyfrwng Cymraeg a gwnaethom ddefnyddio’r taflwybr i osod targedau ar gyfer defnydd o’r Gymraeg.

 

Graff taflwybr ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad technegol manylach am y dull ar ein gwefan.

I fod yn glir, dim ond un taflwybr posibl ydy hwn. Gall ystod o ffactorau, boed yn ddemograffig, cymdeithasol neu effeithiau polisi gael dylanwad ar y llwybr tua’r miliwn. Fel y nodir yn y strategaeth, mae modelu newid demograffig yn y dyfodol yn waith cymhleth; mae modelu effaith newidiadau mewn polisi ar nodweddion penodol o’r boblogaeth yn anoddach byth.

 

Beth arall ydym ni’n ei wneud i gefnogi’r gwaith hwn?

Wrth reswm, mae defnyddio data’r Cyfrifiad fel sail yn dibynnu ar gael cyfres ddata gyson yn y dyfodol. Rydym yn cydweithio’n agos â’r SYG ar eu cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer y Cyfrifiad ac un o’n blaenoriaethau ni ydy sicrhau bod set ddata gadarn ar gael am y Gymraeg sydd yn parhau’r gyfres ddata hanesyddol. Rydym yn ymwybodol hefyd bod arolygon fel Arolwg Cenedlaethol Cymru ac Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cynnig amcangyfrifon gwahanol, sydd fel arfer yn uwch, o gyfran y siaradwyr Cymraeg. Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yng nghanran y bobl sydd yn gallu siarad ychydig o Gymraeg. I’n helpu ni ddeall sut mae pobl yn ymateb yn wahanol i’r Cyfrifiad ac arolygon, rydym yn ymgymryd â gwaith arloesol gyda Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol – Cymru a’r SYG (Saesneg yn unig) i ymchwilio ymhellach i’r gwahaniaethau hyn.

Fel y nodir uchod, mae amcanestyn y dyfodol yn anodd. Byddwn yn adolygu’r taflwybr a’r amcanestyniad demograffig yn barhaus ac yn darparu diweddariadau rheolaidd. Byddwn hefyd yn rhannu canfyddiadau’r gwaith yn edrych ar y Cyfrifiad ac arolygon pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau. Os oes diddordeb gennych yn unrhyw o’r gwaith hyn cysylltwch â DataIaithGymraeg@llyw.cymru.

Post gan Glyn Jones a Martin Parry, Llywodraeth Cymru