Defnyddio technoleg i hybu’r iaith Gymraeg: Wicipedia

Read this page in English

Logo Cymraeg

Nod Llywodraeth Cymru yw gweld y nifer y bobl sy’n gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg yn tyfu i un filiwn erbyn y flwyddyn 2050.  Bydd galluogi pobl i ddefnyddio’r dechnoleg yma yn Gymraeg yn chwarae rhan allweddol wrth gyrraedd y targed hwn.

Faint o wahanol ieithoedd mae’r cwmnïau technoleg mawr yn eu cynnig i ddefnyddwyr ar hyn o bryd? Wel, mae gan Twitter 48 iaith ryngwyneb; mae Google yn adnabod 46 iaith chwilio; ac mae Apple Siri yn siarad 20 iaith. Nid yw’r Gymraeg yn un o’r rhain. Pam felly?

Wrth restru’r 6,000+ ieithoedd y byd yn nhrefn ‘nifer siaradwyr’, mae’r Gymraeg yn safle 172. Wrth inni weithredu ein strategaeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydym yn gobeithio gweld yr iaith yn codi  yn y tabl hwn.

Ond nid y nifer o siaradwyr yw’r metrig pwysicaf a ddefnyddir gan gwmnïau mawr wrth ddewis pa ieithoedd i flaenoriaethu. Ymddengys fod yna gyswllt rhwng yr ieithoedd gyda’r nifer fwyaf o erthyglau (neu dudalennau) Wikipedia a’r ieithoedd sy’n cael cefnogaeth gan y cewri digidol.

Lle felly mae’r Gymraeg o ran nifer o erthyglau Wicipedia?

Wel, mae yna dros 91,000 erthygl Cymraeg ar y wefan ac mae’r iaith yn rhif 60 yn y tabl o ieithoedd Wikipedia. Saesneg sydd ar frig y tabl o ieithoedd erthyglau, gyda 5.4 miliwn o dudalennau. Byddai’n gychwyn da pe byddai modd helpu cynyddu’r nifer o erthyglau Cymraeg fel bod yr iaith yn dringo i 50 uchaf y tabl erthyglau. Gorau po uchaf mae ein hiaith yn y tabl er mwyn dal sylw’r cewri digidol. Bydda gael cefnogaeth i’r Gymraeg ganddynt yn cynyddu amlygrwydd yr iaith. A dylai hyn, yn ei dro, helpu yn y nod o sicrhau bod miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Jason Evans Wicipediwr Preswyl yng nghynhadledd Celtic Kno

Jason Evans yng nghynhadledd Celtic Knot Wicipedia, Caeredin, Gorffennaf 2017.  Llun gan Llywelyn2000 CC BY-SA 4.0

Bendith arall o gyhoeddi cynnwys ar Wikipedia yw maint cynulleidfa’r wefan. Mae ‘Wicipediwr Preswyl’ yn unigolyn a benodir gan gorff neu Wikimedia UK i weithio mewn sefydliad cyhoeddus i gyhoeddi mwy o’i gynnwys ar Wikipedia. Ers i Wicipediwr Preswyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Jason Evans, ddechrau ei waith yn 2015, mae’r lluniau y mae o wedi’u cyhoeddi ar Wikipedia wedi cael eu gweld 294 miliwn gwaith.    Pan mae Jason yn cyhoeddi’r delweddau hyn ar Wikipedia, mae golygyddion ar draws y byd yn eu hail-ddefnyddio mewn erthyglau mewn sawl iaith. Mae cynifer o bobl yn eu gweld ac yn cael gwybod am Gymru ac mae’r cyrhaeddiad uchel hwn yn awgrymu potensial cyffrous i ddenu mwy o dwristiaid i Gymru.

Ar wahân i ddal sylw’r cwmnïau mawr, mae yna ganlyniadau eraill i gynyddu’r nifer o erthyglau: mae mwy o bobl yn ysgrifennu, golygu a chyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Felly, mae yna gyfle i gysylltu’r gweithgaredd hwn gyda sgiliau ymchwilio, llythrennedd a llythrennedd digidol. Gall y rhain fod yn werthfawr i fyfyrwyr ysgol yng nghyd-destun y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Bagloriaeth Cymru ac ar draws nifer o bynciau yn y cwricwlwm. Felly dyma reswm arall dros gefnogi’r adnodd cyhoeddus pwysig yma.

Beth arall ydyn ni’n gwneud?

Mae Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu prosiectau a chydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gynyddu’r nifer o erthyglau Cymraeg am gerddoriaeth ac iechyd ar y Wikipedia. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol a Menter Môn i helpu myfyrwyr ysgolion Ynys Môn i gyhoeddi erthyglau am safleoedd gwyddonol ar yr ynys. Mae gweithdai arbennig o’r enw Golygathonau yn cael eu cynnal ledled Cymru, gan ddangos i bobl sut y gallent greu erthygl newydd, neu ychwanegu at un sydd eisoes yn bodoli.

Cymherwch rhan tra yn yr Eisteddfod

Ceir cyfleoedd i gymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn yr wythnos hon. Logo WiciMônHer Prosiect #WiciMôn dros wythnos yr Eisteddfod yw denu pobol Cymru i recordio eu lleisiau yn ynganu enwau lleoedd megis pentrefi, dinasoedd a chymunedau. Mae Prosiect WiciMôn yn cael ei lansio gan y Prif Weinidog Carwyn Jones prynhawn dydd Llun 7 Awst 2017 am 3:15 ar stondin Menter Iaith Môn. Bwriad y fenter yw cael rhywun o bob ardal, pentref a chymuned i leisio’u hardal benodol. Mi fydd y clipiau sain wedyn yn cael eu rhoi ar y Wicipedia Cymraeg er mwyn i bawb eu mwynhau. Croeso i Eisteddfodwyr daro heibio stondin Menter Môn yn ystod wythnos yr Eisteddfod er mwyn bod yn rhan o’r prosiect enwau lleoedd yma.

Post gan Gareth Morlais, Uned y Cymraeg, Llywodraeth Cymru