Blwyddyn y Chwedlau â Realiti Estynedig

Read this post in English

Ymwelwr yn defnyddio'r gem dal dreigiau

 

Yn ein blogiau diweddar, rydyn ni wedi bod yn tynnu’ch sylw at rai o nodweddion newydd ap Cadw mewn safleoedd hanesyddol ledled Cymru. Mae’r ddwy gêm ddiweddaraf, a gafodd eu lansio dros yr wythnosau diwethaf, yn dod â chwedlau’n fyw go iawn…

 

Tylwyth Teg wedi’u gweld yng Nghastell Coch

Chwiliwch ym mhob twll a chornel, chwiliwch gyda’ch ffôn symudol! Mae Tylwyth Teg wedi ymddangos yng Nghastell Coch gyda help realiti estynedig.

Mae realiti estynedig yn golygu’ch bod yn gallu gweld y byd ‘go iawn’ drwy gamera eich ffôn neu lechen, ond bod delweddau (llonydd neu rai sy’n symud) yn gallu cael eu gosod dros hynny fel ei bod yn ymddangos eu bod nhw yn y byd go iawn.

Wrth gwrs, yng Nghastell Coch mae’n fwy o ‘ffôn hudol’ na ‘ffôn symudol’.

Ymwelwr yn defnyddio'r gem tylwythMae Llwybr Tylwyth Teg Castell Coch yn dangos deg o dylwyth teg, pob un ag enw traddodiadol Cymraeg, sy’n cuddio mewn gwahanol ystafelloedd yn y castell rhyfeddol ar gyrion Caerdydd. Mae’r grid tylwyth teg yn disgleirio pan fydd tylwythen deg gerllaw. Cliciwch ar y grid ac mae’ch camera’n agor er mwyn i chi gael chwilio’r ystafell i weld lle mae’r dylwythen yn cuddio. Pan fyddwch yn gweld y dylwythen, ceisiwch glicio arni’n gyflym (achos maen nhw’n chwim!) a bydd ei cherdyn adnabod yn cael ei fewngofnodi ar eich ffôn. Os cewch hyd i’r cwbl, cewch wobr arbennig!


Dala Dreigiau!

Y gêm ddiweddaraf i gael ei lansio yw Dreigiau Bach, a lansiwyd mewn saith castell mawreddog ledled Cymru.

Bydd y rhan fwyaf ohonoch wedi bod yn dilyn hanes ein dwy ddraig, Dewi a Dwynwen, ac wedi bod wrth eich boddau’n clywed bod eu dreigiau bach newydd ddeor.

Llun ymwelwr gyda draigWrth i Dwynwen a dwy o’i dreigiau bach ddechrau eu taith drwy Gymru , mae rhagor o ddreigiau bach i’w gweld yng nghestyll Conwy, Caernarfon, Biwmares, Harlech, Rhaglan, Cas-gwent a Chaerffili dros yr haf. Pan ewch i un o’r cestyll uchod, chwiliwch am y ddraig fach a thynnu ei llun, gan ddefnyddio ein teclyn arbennig ar gyfer synhwyro dreigiau. Bydd y llun yn cael ei gadw’n otomatig ar rolyn camera eich ffôn er mwyn i chi gael ei rannu.

Ond cofiwch – dydy hi ddim yn hawdd dala dreigiau! Gan fod y dreigiau bach yn dal i ddysgu hedfan, dim ond ar lawr gwaelod y cestyll y byddwch yn eu dala nhw, bydd rhaid i chi chwilio pob twll a chornel, ac edrych i fyny ac i lawr drwy gamera eich dyfais i geisio’u dala nhw’n hedfan uwch eich pen.

Mae llawer mwy ar y gweill, i ap Cadw ac i Flwyddyn y Chwedlau. Cadwch olwg ar wefan Cadw am ddigwyddiadau gydol y flwyddyn. Rhannwch eich profiadau gyda’n chwedlau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio hashnod #Byw’r Chwedlau #LiveTheLegends achos fe fyddwn wrth ein boddau i gael eu gweld nhw – felly ewch ati i ddala dreigiau!

Post gan Erin Lloyd-Jones, Rheolwr Dehongli Treftadaeth, CADW

Image credits courtesy of © Crown copyright (2017) Cadw, Welsh Government