Gwneud defnydd da o brofion defnyddioldeb

Read this page in English

Yn ein blog blaenorol fe wnaethom ni gyflwyno’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i LLYW.CYMRU. Mae deall sut rydych chi, ein defnyddwyr, yn defnyddio’r wefan a’ch barn ar y newidiadau rydym yn eu gwneud yn rhan bwysig o’n gwaith. Gwnawn hyn drwy gynnal profion defnyddioldeb pryd bynnag y bo hynny’n bosib er mwyn ein helpu i nodi unrhyw broblemau’n gynnar a’u datrys cyn iddyn nhw fynd yn rhai rhy ddifrifol.

Sut rydym ni’n cynnal profion defnyddioldeb

Rydym wedi mabwysiadu egwyddorion Agile ar gyfer prosiect LLYW.CYMRU ac yn cynnal ymgyrchoedd dwys dros bythefnos. Rydym ni’n treulio’r wythnos gyntaf yn adeiladu pethau ac yna, os oes digon o amser, rydym yn cynnal sesiwn brofi gyda 4 i 5 defnyddiwr ar yr ail ddydd Mercher, gan ysgrifennu ein canfyddiadau drannoeth. Yna, rydym mewn sefyllfa dda i lywio sesiwn gynllunio dydd Gwener, lle rydym yn penderfynu beth y byddwn yn rhoi sylw iddo yn yr ymgyrch nesaf.

Mae pob sesiwn brofi yn cynnwys nifer o dasgau seiliedig ar sefyllfaoedd y gofynnir i ddefnyddwyr eu cwblhau. Rydym yn gwylio beth maen nhw’n ei wneud ac yn gwneud nodiadau o’r pethau sy’n peri gofid – gyda chynllun neu gynnwys y wefan. Ar ôl iddyn nhw gwblhau’r dasg (neu ar ôl cael digon o roi cynnig arni), rydym ni’n gofyn iddyn nhw roi sgôr i’r wefan allan o 10 am y dasg honno. Ar ddiwedd y dydd, rydym yn ysgrifennu ein harsylwadau ar bapur gludiog er mwyn i ni allu cael gwared ar sylwadau dyblyg ac yn dechrau ar y gwaith o grynhoi’r hyn rydym wedi’i ddysgu.

Gyda chaniatâd y defnyddiwr, o bryd i’w gilydd byddwn yn cofnodi’r sesiynau gan ddefnyddio Silverback. Mae hwn yn olrhain symudiadau llygoden y defnyddiwr ac yn cofnodi sain a fideo. Mae’n adnodd wrth gefn defnyddiol os ydym ni’n credu ein bod wedi colli darn o wybodaeth bwysig neu fod angen datrys dryswch ynghylch yr hyn ddywedodd neu y gwnaeth y defnyddiwr.

 

Sut brofiad yw cymryd rhan?

Fel defnyddwyr LLYW.CYMRU mae gennym lefelau amrywiol o brofiad a gallu digidol, ac rydym yn ceisio cynnwys ystod eang o ddefnyddwyr yn ein profion. Os ydych chi’n hen law arni neu’n meddu ar sgiliau sylfaenol yn unig, does dim angen bod ofn y profion defnyddwyr – fel yr eglurodd un o’n gwirfoddolwyr.

“Roeddwn i’n fwy na bodlon cymryd rhan mewn profion defnyddwyr – yn enwedig gan nad ydw i’n gyflym iawn gyda thechnoleg newydd. Rydw i’n gallu tynnu sylw at bethau o fy safbwynt i y byddai arbenigwr technegol yn credu eu bod yn dod yn naturiol i bawb (er enghraifft, terminoleg). Mae defnyddwyr profiadol yn cymryd rhai pethau’n ganiataol am ddefnyddwyr eraill a dyw hynny ddim yn wir bob tro ac, yn sgil hynny, roeddwn i’n teimlo fod fy nghyfraniad i’n ddefnyddiol dros ben.

“Dim ond tua 20 munud y cymrodd yr holl beth. Eisteddais o flaen cyfrifiadur ar wefan llyw.cymru a diben yr ymarfer yw profi pa mor hawdd yw defnyddio rhai tudalennau cyn iddyn nhw fynd yn ‘fyw’. Cefais gyfarwyddiadau/tasgau i’w gwneud – e.e. allwch chi fynd i’r ymgynghoriad ar xxxx, ac wedyn roedd yn rhai i mi ddod o hyd i’r dudalen dan sylw. Yna, byddai’r prawf yn gofyn i mi ddod o hyd i rywbeth arall i’w wneud gyda’r ymgynghoriad a mynd yn ôl o bosib at y sgrin wreiddiol i chwilio am rywbeth arall.

“Er bod hynny’n ymddangos yn syml, roedd wynebu gwefan newydd anghyfarwydd yn golygu eich bod yn gorfod chwilio am bethau a deall y derminoleg a dydyn ni gyd ddim yn gwneud hynny. Ar yr un pryd, roeddwn i’n cael fy ffilmio er mwyn iddyn nhw allu monitro’r ffordd rydw i’n ymateb ac roedd yn rhaid i mi sylwebu’n fyw ar beth oeddwn i’n ei wneud, sut hwyl oeddwn i’n ei gael a sut roeddwn i’n teimlo am bob tasg. Ar ddiwedd pob tasg, roedd yn rhaid i mi roi sgôr allan o 10 i’r dasg o ran pa mor hawdd oedd hi.

“Doedd y dasg ddim yn arbennig o anodd, ond roedd yn dod yn haws i mi ar ôl i mi ddod i ddeall y fformat. Does dim rhaid i chi fod o natur dechnegol, ac efallai ei bod yn well peidio â bod gan mai diben yr ymarfer yw gweld pa mor hawdd yw’r wefan i’r cyhoedd, sydd â phrofiad amrywiol o ddefnyddio gwefan.”

Beth nesaf?

Hyd yma, mae sesiynau wedi’u cynnal yn ein hystafelloedd cyfarfod yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd. Fel arfer, bydd dau o’n tîm yn bresennol, un i gynnal y sesiwn ac un i arsylwi. Gofynnwyd i Siôn Corn am lab defnyddwyr arbennig newydd yn anrheg ‘Dolig, ond mae’n rhaid nad oedd yn ffitio drwy’r simnai. Neu efallai’n rhy drwm i’r ceirw. Felly, rydym ni am drefnu ystafell arall lle gallwn arsylwi ar y profion. Bydd hyn yn galluogi i fwy o’r tîm wylio pob sesiwn a chael gwell dealltwriaeth uniongyrchol o’r hyn sy’n gweithio ac sydd ddim yn gweithio ar y wefan. Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen at arbrofi gydag offer newydd sy’n olrhain ymhle mae’r defnyddiwr yn chwilio yn ystod y tasgau.

Rydym ni hefyd yn ceisio cynnal sesiynau o bell: rydym wedi defnyddio Loop 11 sy’n ein galluogi i weld ble mae defnyddwyr yn clicio wrth geisio cyflawni tasg, ac rydym ni wedi defnyddio Validately sy’n rhoi gwybodaeth gyfoethocach i ni drwy recordio clipiau fideo a sain defnyddwyr. Mae adnoddau fel hyn yn ein galluogi i gyrraedd llawer mwy o ddefnyddwyr o bob twll a chornel o’r wlad, ond dyw rhai gwirfoddolwyr ddim yn rhy awyddus i ddefnyddio eu gwegamera i recordio’r hyn maen nhw’n ei wneud a rhannu hynny gyda’r llywodraeth.

Hyd yma, mae gennym ni oddeutu 100 o wirfoddolwyr ar ein rhestr defnyddwyr, ond rydym ni wastad yn chwilio am fwy. Os hoffech chi ein helpu i wneud LLYW.CYMRU yn well, e-bostiwch digital@wales.gsi.gov.uk

Post gan Graham Craig, Tîm Corfforaethol Cyfathrebu Digidol, Llywodraeth Cymru

 

2 sylw ar “Gwneud defnydd da o brofion defnyddioldeb

  1. Gгеat post. I was сhecking constantly this blog and I am
    inspired! Very helpful information spеcifіcally the closing section 🙂 I ɗeal with such info much.
    I was seeking this particular info for a long time.
    Thanks and good luck.

    Hoffi

  2. Very great post. I simply stumbled upon your blog and wanted to say that I
    have really enjoyed browsing your blog posts. In any case I will be subscribing on
    your feed and I am hoping you write once more very soon!

    Hoffi

Sylwadau ar gau.