Heddiw rydym wedi cyhoeddi canlyniadau terfynol Cyfnod Allweddol 4 2017 ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n werth rhoi’r perfformiad cenedlaethol yn ei gyd-destun, boed drwy gymharu Cymru â gwlad arall neu drwy edrych ar dueddiadau dros amser. Gwnaed nifer o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf i’r ffordd y caiff mesurau perfformiad eu cyfrifo, ac yn y blog hwn rwyf am ddisgrifio effaith y newidiadau hyn ar ein gallu i gymharu.
Yn Rhifyn 9 (Gorffennaf 2016) disgrifiais sut roedd y newidiadau ym mesurau perfformiad Cymru a Lloegr wedi effeithio ar gymariaethau. Mae’r newidiadau hyn yn dal yn ddilys ar gyfer 2017. Yn ogystal â’r newidiadau a ddisgrifiwyd yn y blog hwnnw, argymhellodd yr Adolygiad annibynnol o Gymwysterau set arall o newidiadau sydd wedi’u cyflwyno yn 2017. Mae’r newidiadau hyn yn atgyfnerthu’r problemau o ran cymharu â gwledydd eraill, ond hefyd yn golygu ei bod yn anoddach cymharu dros amser.
Newidiadau a gyflwynwyd yn 2017
Cyflwyno Sgôr Capio 9
Mae mesur Capio 9 yn canolbwyntio ar ganlyniadau disgyblion Blwyddyn 11 o blith naw o’r cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru, gan gynnwys gofynion sy’n benodol i’r pynciau. Dyma’r prif newidiadau o’u cymharu â’r sgôr pwyntiau wedi’i chapio flaenorol:
- cynnydd o wyth i naw TGAU neu lefel gyfwerth o gymwysterau
- mae Cymraeg/Saesneg, Mathemateg – Rhifedd, Mathemateg a Gwyddoniaeth nawr yn rhannau gorfodol o’r sgôr.
Cap ar gyfraniad cymwysterau nad ydynt yn TGAU o ran mesurau trothwy
O 2017, ni fydd mwy na dau gymhwyster galwedigaethol (nad ydynt yn TGAU) yn cyfrif tuag at y mesurau trothwy, yn dibynnu ar faint y cymhwyster. Os yw mesur yn seiliedig ar ennill lefel benodol o gymwysterau ar draws ystod o bynciau, felly, ni all cymwysterau galwedigaethol gyfrif am fwy na 40% o’r trothwy bellach, sy’n golygu bod pwysoliad mwy yn cael ei roi i gymwysterau TGAU.
Llenyddiaeth mewn mesurau trothwy
Nid yw cymwysterau llenyddiaeth yn cyfrif bellach tuag at elfennau llythrennedd y mesur “Lefel 2 cynhwysol” na sgôr Capio 9 o 2017 ymlaen, ond gallant gyfrif yn yr elfennau nad ydynt yn benodol i bynciau.
Cymwysterau Mathemateg TGAU newydd
Dyma’r haf cyntaf y mae disgwyl i ddisgyblion sefyll dau arholiad TGAU mewn Mathemateg – TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg – Rhifedd.
Sut mae hyn yn effeithio ar ein gallu i fesur dros amser?
Ar gyfer sgôr pwyntiau Capio 9, mae’r gymysgedd o gymwysterau, a’i dylanwad ar batrymau cofrestru a dewis cwricwlwm, yn golygu nad yw’n bosibl cyfrifo’r dangosydd hwn ar gyfer blynyddoedd blaenorol. Er enghraifft, mae’r dangosydd yn gofyn am fanylion y ddau TGAU Mathemateg newydd, nad oeddent ar gael cyn haf 2017.
Ar gyfer mesurau trothwy (ee y ‘Lefel 2 cynhwysol’), mae’r cap ar werth cymwysterau nad ydynt yn TGAU wedi cyfrannu at symud oddi wrth gymwysterau galwedigaethol tuag at TGAU, gan wrthdroi’r tueddiadau a welwyd mewn rhai pynciau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Lle bo modd, rydym wedi ceisio meintioli effaith y newidiadau hyn yn ein datganiad ystadegol (ee effaith cael gwared â llenyddiaeth o’r ‘Lefel 2 cynhwysol’). Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau hyn yn effeithio ar batrymau cofrestru a dewis cwricwlwm ac, yn y pen draw, maent yn gysylltiedig â newidiadau cymhleth yn arferion disgyblion ac ysgolion nad oes modd eu mesur.
Sut gellir mesur newidiadau dros amser?
Fel yr awgrymwyd yn y blog blaenorol ar y mater hwn, astudiaethau rhyngwladol fel PISA, neu arolygon y DU fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sydd nawr yn darparu’r cyfle gorau i gymharu canlyniadau addysgol, naill ai rhwng gwledydd neu dros amser. Hefyd, gellir dadansoddi tueddiadau dros amser drwy edrych ar berfformiad o fewn pynciau unigol lle nad yw manyleb y pwnc hwnnw wedi newid yn sylweddol dros amser.
Am ba mor hir fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar ein gallu i gymharu dros amser?
Yn 2018 byddwn yn cyflwyno newid pellach i fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4. O fewn sgôr pwyntiau Capio 9, dim ond cymwysterau Gwyddoniaeth TGAU gaiff eu derbyn. Rydym yn disgwyl i hyn ddylanwadu ymhellach ar ddewisiadau cwricwlwm ac arferion.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mai dim ond y cofnod cyntaf ar gyfer pob disgybl a gaiff ei gyfrif mewn mesurau perfformiad swyddogol o ganlyniadau haf 2019 ymlaen. Rydym yn disgwyl i hyn eto ddylanwadu ar arferion mewn ysgolion mewn ffyrdd na ellir eu mesur.
O ystyried y newidiadau hyn yn y dyfodol, a chan gymryd bod angen gwerth tair blynedd o ddata o leiaf i sefydlu tuedd gyffredinol (byddai mwy o flynyddoedd yn well), ni fyddwn yn gallu defnyddio canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 i wneud cymariaethau dilys dros amser tan haf 2021 fan gyntaf.
Glyn Jones
Y Prif Ystadegydd
06 Rhagfyr 2017