Falle ‘mod i’n gweithio yn y gorffennol, ond dw i hefyd wrth fy modd â thechnoleg newydd. Mae prosiectau newydd gyda Cadw, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn ei gwneud yn hawdd i gael gafael ar archaeoleg Cymru ac yn rhoi ein cestyll ar flaen y gad o ran technoleg.
Ap Cadw
Y llynedd fe wnaethon ni ail-lansio ap Cadw, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar ddyfeisiau Android ac Apple. Ar gyfer safleoedd sydd dan ofal Cadw, mae’r ap wastad wedi dangos gwybodaeth am safleoedd, orielau o luniau a map defnyddiol sy’n gwybod lle’r ydych chi drwy ddefnyddio GPS.
Ond erbyn hyn, mae’r ap wedi cael ei ailwampio i ddatgloi nodweddion arbennig, gemau a llwybrau digidol ledled Cymru. Mae cynnwys arbennig cudd yn cael ei ddatgloi gan signalau Bluetooth rhad-ar-ynni mewn rhai safleoedd ac yn cynnig gemau, pwyntiau sain ac adluniadau ‘cyn ac ar ôl’ o’r safle.
Mae defnyddio Bluetooth yn golygu nad oes angen Wi-Fi na rhwydwaith symudol – sy’n bwysig dros ben y tu mewn i rai o’n henebion ni a dweud y lleiaf!
Ydych chi’n meddwl mynd ar drip? Bwrwch olwg dros yr adran Llwybrau Digidol yn ap Cadw cyn cychwyn a lawrlwythwch rhai o’r bwndeli mwy o faint fel bod popeth yn barod ichi cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd.
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ehangu’r cynnwys sydd ar gael ar draws Cymru, gan gynnwys rhai o’n safleoedd sydd heb staff, i helpu i roi gwybodaeth i chi yn ystod eich ymweliad. Mae Cadw’n gofalu’n uniongyrchol am dros 100 o safleoedd yng Nghymru, felly bydd y gwaith yn ein cadw ni’n brysur am sbel!
Nodweddion newydd yn ein safleoedd
Nid yr ap yn unig sydd wedi mynd â’n sylw ni. Bob blwyddyn, rydyn ni’n gweithio’n galed i gyflwyno profiadau rhyngweithiol newydd yn ein safleoedd ledled Cymru. Rydyn ni’n gwneud popeth o daflunio porthcwlis, neu ddarparu sioeau clyweledol anhygoel i gynnig byrddau â sgriniau cyffwrdd, cymeriadau difyr neu waith celf i’ch swyno.
Y gwanwyn hwn, fe wnaethon ni ailagor canolfan ymwelwyr Castell Cricieth, gyda dehongliad blaengar newydd sydd wedi’i seilio ar hanes Tywysogion Cymru. Rydych chi’n cerdded i mewn i ystafell y tywysog ac yn mynd at y bwrdd. Drwy wasgu eitemau sy’n gysylltiedig â nhw, mae straeon tri o bobl sydd angen siarad gyda’r tywysog pan fydd gartref yn cael eu taflunio o’ch blaen chi. Cewch eistedd ar ei orsedd, sydd wedi’i cherfio’n fendigedig gan yr artist arobryn Simon O’Rourke – ac os cewch chi hyd i’r botwm bach, gwasgwch e i gael syrpreis difyr!
Rhan o fy swydd yw ail-godi’r to (fel petai) ar yr adfeilion yn ein gofal drwy ddefnyddio technoleg ddigidol i adfer y cerrig mud a’u galluogi i rannu eu hanes gyda ni heddiw. Wrth i’r dechnoleg barhau i ddatblygu, byddwn yn parhau i ychwanegu ffyrdd newydd i adrodd hanesion a chwedlau ein treftadaeth.
Dw i’n edrych ymlaen at eich gweld chi, yn y dyfodol.
Post gan Erin Lloyd-Jones, Rheolwr Dehongli Treftadaeth,Cadw
Image credits courtesy of © Crown copyright (2017) Cadw, Welsh Government