Mesur Llesiant Cymru
Ar 25 Medi, cyhoeddais yr adroddiad blynyddol cyntaf ar Lesiant Cymru. Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gofyn inni adrodd yn flynyddol ar hynt y gwaith o gyflawni’r nodau llesiant cenedlaethol, gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol.
Roedd yn rhoi darlun o gyflwr llesiant y genedl a’r tueddiadau diweddar. Mae’r prif negeseuon i’w gweld yn y Slideshare hwn ac mae’r adroddiad llawn.
Ein bwriad oedd llunio adroddiad a oedd yn dweud stori
Rydym wedi defnyddio setiau o ddangosyddion yng Nghymru yn y gorffennol, ond yn aml nid oeddent yn cael yr effaith y byddem wedi ei dymuno ar y gwaith o ddatblygu polisi. Roeddwn am i hyn fod yn wahanol gan fod y dystiolaeth yn y dangosyddion cenedlaethol, adroddiad Llesiant Cymru, a’r adroddiad ar Dueddiadau’r Dyfodol, yn gwbl hanfodol er mwyn i gyrff cyhoeddus a Llywodraeth Cymru allu datblygu polisïau a chynlluniau sy’n gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
I’r perwyl hwn, rydym wedi darparu naratif i ddisgrifio ein cynnydd yn erbyn pob un o’r saith nod llesiant. Ond wrth lunio’r disgrifiadau naratif hyn, roeddem yn ofalus i sicrhau ein bod yn ystyried y nodau yn eu hystyr ehangaf, gan fod y Ddeddf yn ymwneud ag edrych ar faterion mewn ffordd gydgysylltiedig ac integredig. Felly rydym wedi edrych ar sut y gallai’r cymysgedd o ddiwydiannau effeithio ar y cynnydd tuag at economi garbon isel, y berthynas rhwng iechyd a gwaith, a beth oedd y pethau allweddol ar gyfer sicrhau cydlyniant cymunedol. Rwy’n awyddus i ddatblygu’r dull gweithredu hwn ymhellach yn y dyfodol.
Pan gynhaliwyd ymgynghoriad ar y dangosyddion cenedlaethol, gofynnodd y rhanddeiliaid inni ddarparu darlun cyflawn o’r materion a oedd wedi codi wrth inni adrodd ar gynnydd. Felly, wrth lunio ein naratif, ni wnaethom gyfyngu ein hunain i’r dangosyddion cenedlaethol, ond yn hytrach fe wnaethom adrodd ar ddata perthnasol eraill, megis marwolaethau y gellir eu hosgoi, profiadau niweidiol mewn plentyndod, neu raglenni addysg byd-eang yng Nghymru.
Roeddem yn awyddus i fanteisio ar ffyrdd newydd o gyhoeddi ystadegau
Roeddem hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi’r holl ddata ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol. Er mwyn gwneud hynny, roedd yn rhaid gwneud y defnydd mwyaf effeithiol posibl o’r data yr oeddem wedi eu cyhoeddi mewn mannau eraill, ochr yn ochr â’r camau mawr rydym wedi eu cymryd ym maes data agored. Cyhoeddir manylion data’r rhan fwyaf o ddangosyddion ar StatsCymru.
Wedyn, cafodd y pecyn meddalwedd Power BI ei ddefnyddio i gyflwyno’r dangosyddion. Mae hyn yn creu platfform inni ei ddefnyddio fel sail ar gyfer datblygiadau pellach. Er enghraifft, rwy’n gobeithio y bydd yn haws edrych ar y dangosyddion yn ôl gwahanol nodweddion cydraddoldeb neu ardaloedd daearyddol yn y dyfodol. Gan fod yr adroddiadau Power BI yn cael eu tynnu’n uniongyrchol o wasanaeth Data Agored StatsCymru, ni fydd angen cymaint o waith i weithredu’r gwelliannau hynny yn y dyfodol. Mae hefyd yn golygu y gallwn ddiweddaru tudalennau’r dangosyddion cenedlaethol ar hyd y flwyddyn.
Rydym yn rhoi Cymru mewn cyd-destun byd-eang
Rydym hefyd wedi defnyddio ein gallu newydd drwy Power BI i ddarparu adnodd ryngweithiol sy’n caniatáu i’r defnyddiwr hidlo’r dangosyddion cenedlaethol yn ôl y nodau Llesiant mwyaf perthnasol – a hefyd nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, sy’n golygu mai ni yw’r wlad gyntaf i gysylltu ein dangosyddion cenedlaethol â’r nodau hyn. Roedd nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig wedi bod ar waith ers dwy flynedd yn union, a bu’n gyfle inni roi ein gwaith mewn cyd-destun byd-eang.
Rydym yn awyddus i gael eich adborth
Roedd holl ddyluniad a chynnwys y safle yn gynnyrch ein hystadegwyr ein hunain yma yn Llywodraeth Cymru, ac felly ni fu unrhyw gostau ychwanegol. Rydym yn gwybod y gallwn wella yn y dyfodol, ac rydym yn dal i ddysgu’r triciau y mae pecyn Power BI yn eu cynnig inni. Rydym am sicrhau ein bod yn gwella drwy wrando ar yr adborth a roddir gan ddefnyddwyr. Felly, rydym heddiw wedi lansio arolwg i geisio eich adborth ar gynnwys a strwythur yr adroddiad a’r profiad o’i ddefnyddio. Hefyd hoffem glywed sut y gallai’r adroddiad fod o ddefnydd ichi wrth wneud eich gwaith o ddydd i ddydd.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech roi o’ch amser i lenwi’r arolwg er mwyn ein helpu i wella yn y dyfodol.
Mae Cyfrifiad 2021 yn nesáu
Mae’r paratoadau ar gyfer Cyfrifiad nesaf Cymru a Lloegr yn 2021 yn camu yn eu blaen. Cynhaliwyd prawf cyfrifiad llwyddiannus yn gynharach eleni, a chynhaliwyd y prawf yng Nghymru yng Ngogledd Powys. Y prif nod oedd profi’r prosesau ar-lein gan mai cyfrifiad ar-lein fydd y cyfrifiad nesaf yn bennaf. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau eraill hefyd yn mynd rhagddynt, gan gynnwys paratoi’r cynlluniau terfynol ar gyfer y cwestiynau a fydd yn cael eu gofyn. Mis ddiwethaf, cyhoeddodd Cyfarwyddwr Cyfrifiad yr ONS, Ian Cope, diweddariad am hynt y gwaith ar y cynlluniau hyn, gan gadarnhau y bydd cwestiwn newydd ar y lluoedd arfog yn y Cyfrifiad nesaf.
Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r ONS ar y paratoadau ar gyfer y Cyfrifiad nesaf ac rydym bob amser yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr yng Nghymru ynghylch unrhyw beth sy’n ymwneud â’r Cyfrifiad.
Glyn Jones
Y Prif Ystadegydd
04 Rhagfyr 2017