Mae ‘Cynllun gweithredu ar yr economi‘ Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau ffyniant i bawb drwy gefnogi economi sy’n cynyddu ein cyfoeth ac yn gwella ein llesiant. Er mwyn darparu cymorth effeithiol i economi Cymru mae’n bwysig deall gweithgaredd busnes cyfredol yng Nghymru … Faint o bobl mae busnesau yn eu cyflogi? Pa mor fawr yw eu trosiant? Beth maen nhw’n ei brynu a’i werthu? Gyda phwy maen nhw’n masnachu? Ydyn nhw’n masnachu gyda gwledydd eraill?
Data Agored – Rydyn ni eich angen chi!

Mae’r cysyniad o Ddata Agored yn bodoli ers nifer o flynyddoedd ac er bod gwell dealltwriaeth bellach o’r hyn ydyw a sut y gellir ei ddefnyddio, mae cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru yn dal i wynebu heriau wrth gyhoeddi eu data yn agored.
Gweithio’n fwy agored – pennod newydd
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae trethi’n cael eu gwario yng Nghymru? Ydych chi erioed wedi tybio sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio, neu sut mae Cyfraith Cymru yn cael ei datblygu? Os felly, efallai y bydd ein hymrwymiadau llywodraeth agored diweddaraf o ddiddordeb ichi.

Mapio ein ffordd at ddata mwy hygyrch
Mae gwerth data yn gwbl amlwg ers blynyddoedd – hyd yn oed mewn ffuglen. Yn 1892, dywedodd Sherlock Holmes:
“It is a capital mistake to theorize before one has data. Insensibly one begins to twist facts to suit theories, instead of theories to suit facts.”
Prosiect Digido Llyfrgell Llywodraeth Cymru 2018
Mae gan Lyfrgell Llywodraeth Cymru gasgliad unigryw o ddeunyddiau a chyhoeddiadau llyfrgell. Mae hyn yn cynnwys dogfennau sy’n dyddio’n ôl i gyfnod ffurfio’r Swyddfa Gymreig ym 1965 a phopeth bron y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi ers hynny. Yn wir, mae’r llyfrgell yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i staff Llywodraeth Cymru yn ogystal â galluogi’r cyhoeddi i gael mynediad at gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru. Felly, gallwch ddychmygu nad ar chwarae bach yr aethpwyd ati i ddigido casgliad ein llyfrgell. Parhau i ddarllen
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: trafodaeth am ddata ar y Gymraeg sy’n deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth
Cafodd canlyniadau diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar y Gymraeg eu cyhoeddi gennym heddiw ar ein gwefan StatsCymru. Rydym wedi bod yn cyhoeddi’r data hyn ers cryn amser, ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu mwy o ddiddordeb yn y data gan ddefnyddwyr. Y rheswm am hynny yw’r cynnydd graddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg a awgrymwyd gan y data, a Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, sef Cymraeg 2050, sy’n cynnwys y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Gwella ein cynnwys ar LLYW.CYMRU: rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r hyn yr ydym yn ei gyhoeddi ar-lein fel rhan o’r newidiadau yr ydym yn eu gwneud i LLYW.CYMRU. I gefnogi’r gwelliannau hyn, rydym wedi sefydlu cyfres o sesiynau cyd-drafod cynnwys yn ddiweddar, sy’n dod â phawb sy’n ymwneud â chynllunio cynnwys ar gyfer y we o bob rhan o Lywodraeth Cymru ynghyd.
Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: gwella ein gwefan ar gyfer defnyddwyr ystadegau ac ymchwil

I lawer ohonoch sydd eisiau ystadegau neu ymchwil, ein gwefan LLYW.CYMRU yw’r lle y byddwch yn mynd i gael yr wybodaeth honno. Yn wir, mae dros 30,000 ohonoch yn edrych ar ein tudalennau bob blwyddyn i ganfod y data a’r wybodaeth yr ydych eu heisiau, sy’n golygu ei bod yn un o’r mannau sy’n cael ei defnyddio fwyaf ar safle Llywodraeth Cymru.
Gweithio’n fwy agored – I ba raddau ydyn ni wedi llwyddo?
Ychydig dros 2 flynedd yn ôl, cyhoeddwyd ein set gyntaf o ymrwymiadau llywodraeth agored. Gan fod y gwaith yn mynd rhagddo ar y set nesaf, roedden ni’n meddwl y dylen ni roi gwybod ichi beth rydyn ni wedi ei gyflawni. Parhau i ddarllen
Diweddariad y Prif Swyddog Digidol: Gweddnewid ein gwasanaeth – yr hanes hyd yma
Ers cyflwyno ein blog digidol a data, rydym wedi cynnwys nifer o brosiectau gwahanol, ond gyda chymaint yn digwydd, dyma benderfynu rhannu rhai o’n straeon llwyddiant a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ambell brosiect newydd cyffrous.