I lawer ohonoch sydd eisiau ystadegau neu ymchwil, ein gwefan LLYW.CYMRU yw’r lle y byddwch yn mynd i gael yr wybodaeth honno. Yn wir, mae dros 30,000 ohonoch yn edrych ar ein tudalennau bob blwyddyn i ganfod y data a’r wybodaeth yr ydych eu heisiau, sy’n golygu ei bod yn un o’r mannau sy’n cael ei defnyddio fwyaf ar safle Llywodraeth Cymru.
Ar ôl misoedd o waith datblygu, bydd ein Tîm Digidol Corfforaethol (sy’n gyfrifol am LLYW.CYMRU) cyn hir yn ‘pwyso’r botwm’ i lansio’r ‘LLYW.CYMRU’ newydd. Ar ôl hynny, bydd defnyddwyr yn cael eu cyfeirio at dudalen newydd wrth ddilyn yr URL https://llyw.cymru.
Mae’r newid hwn yn golygu bod ffordd newydd a gwell yn awr i ddefnyddwyr allu dod o hyd i ganllawiau, gwasanaethau a gwybodaeth Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn golygu bod newyddion, ystadegau ac ymchwil ar gael ar y safle newydd.
Er na fydd yr holl gynnwys ar gael ar y wefan ddiwygiedig ar y dechrau, bydd modd i ddefnyddwyr gael gafael o hyd ar y cynnwys sydd heb ei symud eto.
Mae ein tudalennau ni’n gweithio’n wahanol iawn i weddill y wefan. Er enghraifft, mae gennym galendr o faterion i ddod, a chysyniad o “gyfres” o adroddiadau, ac rydym yn cyhoeddi ystod o wybodaeth ychwanegol fel data crai a dogfennau cefndir sy’n galluogi defnyddwyr i ddeall ein dulliau ac ansawdd ein gwybodaeth.
Mae’r blog hwn yn disgrifio sut bydd y wefan yn wahanol, y gwelliannau a welwch yn sgil hynny, a beth yw ein cynlluniau i’r dyfodol.
Roedd eich adborth o gymorth wrth ddatblygu ein gwefan
Yr haf diwethaf, fe aethom ati i’ch holi chi, defnyddwyr ein tudalennau, am eich barn arnynt. Rhoddodd hanner cant ohonoch eich barn i ni ynghylch beth oedd yn dda ac yn wael am y wefan bresennol. Gan ddefnyddio’r wybodaeth honno aethom ati i ddechrau dylunio sut y byddai’r wefan yn gweithredu, gan roi sylw i’r hyn y mae GOV.UK a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi ei wneud hyd yma.
Fel rhan o’r datblygiad, cynhaliwyd profion mewnol ar y wefan. Roedd hyn o gymorth i ni ddeall sut yr oedd pobl yn rhyngweithio â’n tudalennau, a oedd yn golygu y gallem wellai profiad y defnyddiwr fel bo angen.
Nid yw’r daith i’ch cynorthwyo chi i lywio’n rhwydd drwy ein tudalennau ac i allu canfod yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym wedi cael ei chwblhau eto – mwy am hyn yn nes ymlaen.
Sut fydd y wefan yn well ar eich cyfer chi?
Mae’r wefan newydd yn cynnig cymaint mwy i chi na’r hen un. Mae’n ymatebol (yn newid maint yn dibynnu ar faint y sgrin yr ydych chi’n ei defnyddio), mae wedi’i hadeiladu ar dechnoleg gyfredol ac yn ein galluogi i gyhoeddi fel html os ydym yn dymuno.
Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau mawr:
- Eich helpu i wybod eich bod yn edrych ar yr wybodaeth ddiweddaraf. Fel gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, byddwn yn cynnwys baner i ddweud wrthych a ydych yn edrych ar yr wybodaeth ddiweddaraf ai peidio. I wneud hyn mae gennym bellach ‘gyfres’ – sef grŵp o adroddiadau penodol ar bwnc (er enghraifft ystadegau economaidd allweddol).
Bydd y dudalen yn dangos ‘dyma’r adroddiad diweddaraf yn y gyfres hon’ neu ‘nid dyma’r adroddiad diweddaraf yn y gyfres hon’.
- Sy’n golygu y bydd yn haws canfod gwybodaeth. Un o’r pethau a oedd yn achosi’r rhwystredigaeth fwyaf i ddefnyddwyr oedd ei bod yn anodd dod o hyd i wybodaeth ar y wefan. Ar y wefan newydd, mae’r swyddogaeth chwilio yn llawer gwell a bydd hefyd yn edrych drwy destun ar y tudalennau (dim ond defnyddio enw’r cyhoeddiad yr oedd y wefan flaenorol). Mae’r wefan newydd hefyd yn llawer symlach i’w defnyddio fel na fydd yn rhaid i chi glicio drwy gymaint o ddolenni i gael gafael ar yr hyn yr ydych ei eisiau ac fe allwn ni groesgyfeirio ein hadroddiadau yn llawer rhwyddach.
- Grwpio gwybodaeth. Mae’r safle newydd yn ein galluogi i ddod â chyfresi at ei gilydd i greu ‘casgliadau’. Byddant yn ein galluogi ni i’ch helpu chi i ddod o hyd i wybodaeth gysylltiedig yn rhwyddach (e.e. tlodi). Rydym yn bwriadu ystyried sut y gallwn wneud y defnydd gorau o’r rhain wrth i ni symud ymlaen â datblygiad ein gwefan.
- Mwy nid llai! Yr oedd gan yr hen wefan sawl baner ar dop y sgrin a sawl baner ochr hefyd. Yr oedd yn anhrefnus ac roedd angen i chi sgrolio i lawr cyn y gallech gyrraedd yr hyn yr oeddech ei eisiau. Mae’r dyluniad newydd yn llawer glanach ac yn llai anhrefnus a dylai hynny ei gwneud yn llawer haws defnyddio’r wefan.
- Addas ar gyfer y dyfodol. Yn y 10 mlynedd diwethaf ers i’n gwefan gyfredol fynd yn fyw, mae byd dylunio gwefannau wedi symud ymlaen yn sylweddol. Nid yn unig o ran technoleg ond hefyd o ran profiad defnyddwyr, sydd hefyd wrth galon yr hyn yr ydym yn ei wneud yn awr. Mae’r llwyfan newydd yn ein galluogi ni i wneud cymaint mwy, gan gynnwys symud i gyhoeddi fel html yn hytrach na pdf.
Llawer o gynnwys ddim yn gwneud y symudiad yn un hawdd
Un o’n cryfderau yw ystod ac amlder yr wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi. Yn anffodus mae angen symud yr holl wybodaeth yna i’r safle newydd! Cynhaliwyd adolygiad gennym y llynedd yn edrych ar y defnydd sy’n cael ei wneud o’n gwefan a’n hadroddiadau. Yr oedd yr wybodaeth honno o gymorth i ni leihau maint ein gwefan fel nad oes ond cynnwys sy’n berthnasol a chyfredol arni. Mae’r hen gynnwys i gyd ar gael drwy’r archifau gwladol neu gellir gwneud cais i ni amdano.
Symleiddio’r hyn sydd yno
Yr oedd yr hen safle yn cynnwys oddeutu 900 o dudalennau a thros 11,000 o ddogfennau (pdfs, taenlenni, dogfennau word ayb). Dim ond hanner y rhain oedd wedi cael eu gweld gan ddefnyddiwr nad oedd yn gysylltiedig â Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf a chwarter pellach wedi cael eu gweld llai na thair gwaith. Felly roedd gennym swm sylweddol o gynnwys nad oedd fawr ddim defnydd yn cael ei wneud ohono. Unwaith yr oeddem wedi adolygu’r rheini, tynnwyd 150 o dudalennau a 3,500 o ddogfennau.
Fydd popeth ddim ar y wefan newydd o’r diwrnod cyntaf ac fe fydd rhai dolenni wedi torri
Ein blaenoriaeth oedd sicrhau bod yr holl gynnwys cyfredol, y tudalennau “ynghylch” a’r tudalennau hynny yr oedd pobl yn edrych fwyaf arnynt yn barod ar gyfer yr adeg y byddwn yn mynd yn fyw. Oherwydd maint y dasg bydd gennym rai misoedd pan fydd yr holl gynnwys cyfredol ar LLYW.CYMRU a pheth o’r hen gynnwys (y gwyddom fod rhai ohonoch yn ei ddefnyddio) ar ein hen safle. Mae hyn yn wir hefyd am y safle yn ehangach, gan y bydd peth o’r cynnwys yn dal ar yr hen safle am gyfnod byr.
Mae llawer o’n pdfs yn cynnwys dolenni at ein tudalennau ystadegau ac ymchwil a’n dogfennau. Yn anffodus, nid peth hawdd fyddai i ni fynd drwy bob un o’r 3,000 neu fwy ohonynt a thrwsio’r dolenni ynddynt. Felly rydym yn sicrhau bod y pdfs hynny sy’n cael llawer iawn o ddefnydd (e.e. prif ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru (dolen) Malc (dolen) a Llesiant Cymru (dolen) yn cael eu diweddaru tua’r adeg y byddwn yn mynd yn fyw. Fodd bynnag, gyda llawer o’n cyhoeddiadau eraill, ni fyddwn yn diweddaru’r dolenni ond pan fyddwn yn cyhoeddi’r tro nesaf – mae hyn yn golygu y bydd cyhoeddiadau hŷn bob amser yn cynnwys dolenni sydd wedi torri.
Rydym yn gwybod fod dolenni wedi torri’n achosi cryn rwystredigaeth i’n defnyddwyr (ac maent yn gwneud hynny i ni hefyd – rydym yn aml yn defnyddio ein deunyddiau ein hunain), fodd bynnag, mae’r dull a fabwysiadwyd gennym yn adlewyrchu’r ffaith mai dim ond ar nifer cyfyngedig o achlysuron yr edrychir ar ein pdfs a hynny ychydig o wythnosau ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi. Rydym yn eich annog i gysylltu â’r cyfeiriad e-bost ar flaen y ddogfen dan sylw os byddwch eisiau rhywbeth ond yn methu â dod o hyd iddo oherwydd bod dolen wedi torri.
Eich helpu i wybod ble i ddod o hyd i gynnwys cyfredol
Mae’n bwysig iawn i ni eich helpu i ddeall i ble y mae cynnwys wedi ei symud a beth yw’r deunydd diweddaraf. Rydym am wneud y canlynol:
- Gosod baner ar ben y wefan newydd yn esbonio mai dyma’r prif safle bellach ac y gallai rhywfaint o gynnwys fod ar yr hen safle. Bydd yr hen wefan yn cynnwys baner debyg yn esbonio nad yw’n cael ei diweddaru bellach ac y bydd unrhyw gynnwys newydd i’w weld ar y wefan newydd.
- Tynnu’r calendr o faterion i ddod o’r hen wefan fel nad oes unrhyw ddryswch ynghylch lle y gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf. .
- Gorffen symud yr holl hen gynnwys cyn i hen safle gael ei thynnu ymaith ym Mehefin 2019.
Nid yw mynd yn fyw yn golygu bod y gwaith wedi’i gwblhau
Mae profiad y defnyddiwr wrth galon y LLYW.CYMRU newydd. Gan weithio gyda’n Tîm Digidol CorfforaethoL, byddwn yn parhau i wella’n gwefan ar sail yr adborth a dderbyniwn gennych a’r syniadau sydd gennym.
Byddwn hefyd yn rhoi prawf ar rai o’r nodweddion newydd. Mae’r safle newydd yn golygu y gallwn gyhoeddi ein hadroddiadau fel html yn gyntaf yn hytrach na pdf. Mae llawer o fanteision i hyn o ran hygyrchedd, bod yn ymatebol a phrofiad y defnyddiwr. Bwriadwn ddechrau rhoi prawf ar gyhoeddi rhai o’n hadroddiadau yn html (yn hytrach na pdf) yr haf hwn a thrafod â defnyddwyr i weld beth yw eu barn hwy.
Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn hefyd yn gwella’r ffordd yr ydym yn cynhyrchu’n hadroddiadau ystadegol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod negeseuon allweddol yn fwy eglur, cael gwell dealltwriaeth o ran pwy yw ein defnyddwyr, sut y maent yn defnyddio’r hyn a wnawn a dod ag ystadegau cysylltiedig at ei gilydd.
Rydyn ni yma i helpu!
Mae’n bosib fod llawer ohonoch eisoes wedi cysylltu â ni ynghylch ystadegau penodol, i roi adborth neu i holi ble y mae gwybodaeth i’w chanfod. Cysylltwch â ni os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych ei heisiau neu fod dolen wedi torri yn eich cyfeirio at rywbeth na allwch ddod o hyd iddo.
John Morris
Dirprwy bennaeth proffesiwn ac arweinydd lledaenu ystadegol
Ebost: desg.ystadegau@llyw.cymru
4 Mawrth 2019