Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: trafodaeth am ddata ar y Gymraeg sy’n deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Cafodd canlyniadau diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar y Gymraeg eu cyhoeddi gennym heddiw ar ein gwefan StatsCymru. Rydym wedi bod yn cyhoeddi’r data hyn ers cryn amser, ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu mwy o ddiddordeb yn y data gan ddefnyddwyr. Y rheswm am hynny yw’r cynnydd graddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg a awgrymwyd gan y data, a Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, sef  Cymraeg 2050, sy’n cynnwys y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Read this blog in English

Yn y blog hwn rydym yn egluro cefndir y data hyn, beth y maent yn ei ddangos, ac yn trafod sut y gallent gael eu dehongli.

Beth y mae’r data yn ei ddangos?

Dangosodd yr arolwg ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ym mis Rhagfyr 2018, fod 898,700 o bobl neu 29.9% o bobl dair oed neu’n hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Dyma’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg sydd erioed wedi’u cofnodi gan yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, er y gwelwyd canrannau tebyg nôl yn 2001, ac mae’r tueddiad dros y degawd diwethaf o weld nifer cynyddol o bobl yn adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn parhau.

A all y data hyn gael eu defnyddio i asesu’r cynnydd tuag at gyflawni’r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg?

Na all. Cyfrifiad y Boblogaeth yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf yn 2011 adroddwyd bod 562,016 o bobl yn medru siarad Cymraeg, sy’n sylweddol is na’r nifer a adroddwyd drwy’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Mae Strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050 yn datgan yn glir bod y llwybr a bennwyd tuag at gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg wedi’i seilio ar ddata Cyfrifiad 2011, ac y bydd y cynnydd tuag at gyflawni’r targed hwnnw’n cael ei fonitro drwy ddefnyddio data cyfrifiadau’r dyfodol.

Er gwaethaf hynny, mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cynnig inni amcangyfrifon mwy rheolaidd o nifer y siaradwyr Cymraeg, ac felly rydym yn cyhoeddi data’r Arolwg er mwyn gallu monitro’r tueddiadau rhwng y Cyfrifiadau.

Mae’n bwysig nodi mai prif ddiben yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yw darparu ystadegau cysylltiedig â chyflogaeth, ynghyd â gwybodaeth gyd-destunol ar newidynnau cymdeithasol ac economaidd-gymdeithasol ar lefel leol. Mae’r cwestiwn ar y Gymraeg wedi’i gynnwys at ddibenion dadansoddi ar draws pynciau, ac nid i ddarparu cyfrifiad o nifer y bobl sy’n medru siarad Cymraeg.

A allwn gredu’r canlyniadau hyn o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth?

Mae maint sampl yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn fawr iawn (dros 30,000 o ymatebwyr bobl blwyddyn). Ond mae angen inni ddeall mwy ynghylch y rhesymau dros pam y mae cymaint o wahaniaeth rhwng canlyniadau’r Cyfrifiad a’r Arolwg, ac a yw’r cynnydd diweddar a welwyd yn yr Arolwg yn gredadwy.

Mae canlyniadau’r Arolwg wedi bod yn llawer uwch na chanlyniadau’r Cyfrifiad yn gyson. Mae’r siart isod yn dangos bod canlyniadau’r Arolwg wedi cynyddu’n raddol bob blwyddyn ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), ar ôl iddynt ostwng yn raddol o 2001 i 2007. Mae’r canlyniadau diweddaraf yn dangos bod canran y siaradwyr Cymraeg bellach yn cyfateb i’r hyn a gyhoeddwyd gan yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn 2001 (pan gofnodwyd bod 30.0%, neu 834,500 o bobl yn medru siarad Cymraeg).

Mae'r siart yn dangos y canlyniadau’r Arolwg Blynyddol y Boblogaeth o 2001 i 2018. Yn 2001 roedd 834,500 o siaradwyr Cymraeg. Mae’r tuedd yn gostwng tan 2007 ac wedyn yn cynyddu eto i 898,700 erbyn 2018

Mae canlyniadau’r Cyfrifiad ar gyfer 2001 a 2011 wedi’u plotio ar y siart hon hefyd, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y ddwy ffynhonnell ar yr un cyfnod. Gellir gweld, rhwng Cyfrifiadau 2001 a 2011, bu gostyngiad o 20,000 o siaradwyr Cymraeg.  Roedd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn 2001 a 2011 wedi cofnodi gostyngiad ar gyfer yr un adeg hefyd – ond cofnodwyd gostyngiad o 65,500.

Er y gall data o arolygon amrywio o un chwarter o’r flwyddyn i un arall, mae canlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos cynnydd graddol dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n golygu y gallai nifer y siaradwyr Cymraeg fod yn cynyddu.

Wrth edrych ar y canlyniadau hyn yn ôl oedran a thros gyfnod o amser, gallwn weld mai unigolion 3 i 15 oed yw’r rheini sy’n fwyaf tebygol o allu siarad Cymraeg – a hwnnw yw’r grŵp oedran sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf fel rhan o’r ganran o siaradwyr Cymraeg dros y degawd diwethaf. Gellir priodoli traean o’r cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ers 2008 i’r grŵp oedran hwnnw. Mae’n werth nodi yma mai rhieni neu oedolion eraill ar yr aelwyd sy’n cyfleu ymatebion y grŵp oedran hwnnw.

Mae siart hwn yn dangos canran y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn ol 5 grwp oedran. Mae’r rhai sy’n 3 i 15 a’r canrannau uchaf, sy'n amrywio dros y blynyddoedd o amgylch 50%, dilynwyd rheini gan y rhai sy’n 16 i 24 (oddeutu 35%) Yna mae’r tri grŵp oedran 25 i 44, 45 i 64 a 65 oed a throsodd yn weddol debyg i'w gilydd tua 22%. Erbyn 2018 roedd 59% o blant 3 i 15 oed yn gallu siarad Cymraeg, 37% o bobl 16 i 24 oed a 24%, 22% a 21% yn y tri grŵp oedran arall yn y drefn honno.

Nid yw’n glir a yw’r cynnydd a ddangosir ar gyfer y rheini sy’n 3-15 oed dros y blynyddoedd diwethaf yn gynnydd gwirioneddol neu a yw’n un sy’n gysylltiedig â newid mewn canfyddiadau rhieni o allu eu plant yn y Gymraeg am ryw reswm. Nid yw’r cynnydd a welir yma ar gyfer y grŵp oedran hwn mor amlwg os ydym yn dadansoddi data gweinyddol gan ysgolion.

Gwelwyd hefyd gynnydd llai ar gyfer grwpiau oedran eraill yn ddiweddar, ond yn gyffredinol mae’r rheini wedi ailgodi lefelau y grwpiau oedran hynny i lefelau sy’n debyg i’r hyn yr oeddent yn 2001.

Pam y mae canlyniadau’r Cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth mor wahanol?

Mae’r ffordd y mae’r cwestiwn wedi’i eirio am allu yn y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac yn y Cyfrifiad yn union yr un fath. Fodd bynnag, mae nifer o wahaniaethau sy’n ymwneud â’r ffynonellau a allai egluro pam y mae’r canlyniadau’n amrywio.

Er enghraifft, mae’r Cyfrifiad yn holiadur hunanlenwi statudol, ond mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn arolwg gwirfoddol, sy’n defnyddio cyfweliadau wyneb yn wyneb. Pan fydd ymatebydd yn llenwi holiadur y Cyfrifiad, mae’n bosibl na fydd yn darllen yr holl gyfarwyddiadau ac na fydd yn ateb cwestiwn fel y bwriadwyd iddo gael ei ateb. Ar y llaw arall, bydd cyfwelydd ar gael i helpu ymatebydd sy’n rhan o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.  Ond, gallai’r ffaith fod cyfwelydd yn bresennol arwain ymatebydd i ateb mewn ffordd sy’n fwy cymdeithasol ddymunol.

Dylid hefyd roi ystyriaeth i’r ffaith fod asesiad siaradwr o’i allu i siarad iaith yn un goddrychol, ac i rai pobl nid yw’n hawdd dewis rhwng ateb cadarnhaol neu ateb negyddol. Mae’r gallu i ddweud ychydig o eiriau yn yr iaith yn ddigon i rai pobl ddweud eu bod yn siarad yr iaith. I eraill, er eu bod yn siarad yr iaith yn rheolaidd, efallai y byddent yn dweud na allent siarad yr iaith honno gan eu bod yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad iaith arall.

Yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gall ymatebwyr egluro eu gallu a thrafod â’r cyfwelydd, sy’n caniatáu i’r cyfwelydd benderfynu ar eu gallu. Ond, os yw’r cyfwelydd am osgoi siomi’r ymatebydd, gallai hynny olygu bod mwy o debygrwydd y gallai ymatebwyr gael eu categoreiddio’n siaradwyr Cymraeg na fel arall. Yn y Cyfrifiad, rhaid i’r ymatebydd benderfynu ei hunan ynghylch pa flwch i roi tic ynddo.

Ceir mwy o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y ddwy ffynhonnell o ddata mewn adroddiad sy’n cyflwyno canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol (tudalen 4) ar y Gymraeg.

Rydym yn cynnal gwaith ymchwil pellach i’r ymatebion i arolygon sy’n ymwneud â’r Gymraeg a’r gwahaniaethau rhwng ymatebion pobl i arolygon ac i’r Cyfrifiad, gan obeithio gallu adrodd am y gwaith hwnnw yn ystod y misoedd nesaf.

Beth yw canlyniadau arolygon eraill?

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi tueddu i gael canran uwch o siaradwyr Cymraeg na’r Cyfrifiad hefyd. Dangosodd canlyniadau diweddaraf (2017-18) yr Arolwg Cenedlaethol, a gyhoeddwyd ar 20 Mehefin 2018, fod 19% o’r boblogaeth 16 oed ac yn hŷn yn gallu siarad Cymraeg, a 12% ychwanegol yn dweud bod ganddynt ‘ychydig o allu i siarad Cymraeg’.

Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu tueddiad tebyg i’r hyn a welwyd yn Arolygon Defnydd Iaith 2013-15 – sef bod canran gynyddol o bobl yn adrodd bod ganddynt ‘ychydig o allu i siarad Cymraeg’ (sydd efallai’n golygu ychydig iawn o Gymraeg).

Beth y gallwn ei gasglu o hyn oll?

Mae’r canlyniadau hyn yn rhoi sylw i natur goddrychol hunanasesu’r gallu i siarad iaith a’r hyn y mae hynny’n ei olygu yng nghyd-destun ceisio cyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg. Rydym wedi bod yn ymwybodol ers cryn amser fod mwy o dueddiad i ymatebwyr mewn arolygon ddweud eu bod yn siarad Cymraeg nag ydynt yn y Cyfrifiad, ond ni allwn ond bwrw amcan am y rhesymau posibl am hynny.

Rydym yn dweud yn glir na ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth gael eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae’r ffaith bod y ffigurau bellach yn adlewyrchu lefelau a welwyd yn flaenorol yn 2001 pan 582,368 oedd ffigur y cyfrifiad yn dangos bod rhaid inni fod yn ofalus wrth ddehonlgi’r ffigurau.

Ymddengys fod tueddiad cadarnhaol o ran y nifer sy’n dweud eu bod yn siarad Cymraeg mewn arolygon: yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac o ran y rheini sy’n dweud bod ganddynt ‘ychydig o allu yn y Gymraeg’ yn yr Arolwg Cenedlaethol. Ac fel y nodwyd uchod, mae angen inni ddeall a yw’r tueddiad a welwyd mewn perthynas â phlant 3 i 15 oed yn gysylltiedig â newid gwirioneddol o ran y gallu i siarad Cymraeg, neu a yw’n olygu bod mwy o dueddiad i rieni adrodd bod eu plant yn gallu siarad Cymraeg.

I gloi, ein cyngor yw na ddylid ystyried bod tueddiadau yn y data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos tystiolaeth bendant o dueddiadau mewn perthynas â’r Gymraeg. Yn hytrach, dylid ystyried eu bod yn arwydd defnyddiol o dueddiadau posibl y dylid eu defnyddio ar y cyd â data eraill.

Bydd rhaid inni aros am ganlyniadau Cyfrifiad 2021 i gael gwybod yn iawn am y cynnydd tuag at gyflawni’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Beth yw’r camau nesaf?

Ym mis Mai, byddwn yn cyhoeddi erthygl ystadegol ar ganlyniadau diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a fydd yn edrych ar y modd y mae’r data ar y Gymraeg wedi newid dros y 18 mlynedd ddiwethaf – ac a fydd yn cynnwys mwy o wybodaeth am rai o’r materion a drafodwyd yn y blog hwn.

Glyn Jones
Y Prif Ystadegydd

27 Mawrth 2019